Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: yr achosion COVID-19 presennol a'r ffigurau prawf ar gyfer Caerdydd; diweddariad statws brechu; a dewis i deuluoedd sy'n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim.
Aros gartref
Achub bywydau
Diogelu'r GIG
Arhoswch gartref I achub bywydau a #CadwchGaerdyddYnDdiogel
I gael y diweddaraf am COVID-19 yng Nghymru ewch i www.llyw.cymru/coronafeirws
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (01 Ionawr - 07 Ionawr)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
11 Ionawr 2021, 09:00
Achosion: 1,344
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 366.3 (Cymru: 403.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 6,532
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,780.3
Cyfran bositif: 20.6% (Cymru: 20.6% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 12 Ionawr 2021
Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o 13,577 brechiad.
Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar wefan Cyngor Caerdydd.
Cafwyd y data gan BIPCAF
Dewis i deuluoedd sy'n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim
Yng Nghaerdydd, tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19 ac yn ystod gwyliau'r ysgol, anfonir taleb y gellir ei lawrlwytho gwerth £19.50 y plentyn fesul wythnos at rieni a gofalwyr plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim.
Gellir gwario'r taleb bellach mewn saith archfarchnad wahanol gan gynnwys Aldi, Asda, Iceland, Morrisons, Tesco, Sainbury's a Waitrose ac mae'n rhoi'r hyblygrwydd i rieni a gofalwyr brynu bwyd eu plentyn o archfarchnad o'u dewis.
Ers dechrau'r pandemig, mae ein tîm ymroddedig wedi gweithio'n galed i sicrhau bod mwy na 13,000 o deuluoedd â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau hanfodol.
Mae hyn wedi cynnwys datblygu system dalu BACS newydd, cynllun talebau archfarchnad newydd ac ar ddechrau'r cyfnod cloi, darparu 45,000 o becynnau bwyd yn llwyddiannus.