Back
Dewis i deuluoedd sy'n derbyn Prydau Ysgol Am Ddim

14/1/2020

Yng Nghaerdydd, tra bod ysgolion ar gau oherwydd COVID-19 ac yn ystod gwyliau'r ysgol, anfonir taleb y gellir ei lawrlwytho at rieni a gofalwyr plant sy'n derbyn Prydau Ysgol am Ddim. 

Gellir gwario'r taleb bellach mewn saith archfarchnad wahanol gan gynnwys Aldi, Asda, Iceland, Morrisons, Tesco, Sainbury's a Waitrose ac mae'n rhoi'r hyblygrwydd i rieni a gofalwyr brynu bwyd eu plentyn o archfarchnad o'u dewis.

Ers dechrau'r pandemig, mae ein tîm ymroddedig wedi gweithio'n galed i sicrhau bod mwy na 13,000 o deuluoedd â phlant sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim yn parhau i dderbyn darpariaeth prydau hanfodol.

Mae hyn wedi cynnwys datblygu system dalu BACS newydd, cynllun talebau archfarchnad newydd ac ar ddechrau'r cyfnod cloi, darparu 45,000 o becynnau bwyd yn llwyddiannus.