Back
Paratoi ar gyfer Storm Christoph

 19/01/21

Mae tîm priffyrdd y Cyngor yn gweithio'n galed i glirio draeniau a gylïau ledled y ddinas i sicrhau y gall dŵr wyneb ddraenio'n effeithiol o'r rhwydwaith ffyrdd.

 

Fodd bynnag, wrth i lefelau'r afonydd godi, efallai na fydd modd i ddŵr wyneb gormodol ar ein strydoedd lifo trwy bibellau draeniau llifogydd i'r afonydd os bydd lefelau'r afon yn codi uwchben y man draenio. Mae hyn yn peri i'r dŵr gronni ar ein strydoedd gan nad yw'n gallu draenio i ffwrdd.

 

Er mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am lifogydd o brif afonydd, bydd ein tîm priffyrdd allan yn gweithio trwy gydol y storm i geisio delio ag unrhyw faterion sy'n codi, clirio llifogydd dŵr wyneb a helpu'r gwasanaethau brys lle gallant.

 

Mae gennym stoc gyfyngedig o fagiau tywod sy'n cael eu defnyddio lle mae dŵr wyneb yn achosi problem ddifrifol.Argymhellir yn gryf i breswylwyr sy'n byw mewn ardal lle mae perygl o lifogydd gael hyd i'w bagiau tywod eu hunain ymlaen llaw. Byddwn, fel bob amser, yn gwneud ein gorau glas i helpu, ond bydd gwneud eich paratoadau eich hunain o fudd mawr yn yr ymdrech i ddiogelu eich cartref a'ch eiddo.

 

Mae'n debygol iawn y byddwn yn delio â sawl problem ar draws y ddinas ar yr un pryd. Mae hyn yn golygu bod rhaid blaenoriaethu ymateb ein gweithlu ac ni allwn, yn anffodus, fod ym mhobman ar yr un pryd na gallu ymateb i bob galwad

 

Mae ein timau allan heddiw, gan weithio'n galed i glirio draeniau mewn mannau gyda phroblemau llifogydd hysbys a sicrhau bod cwlfertau ffrydiau yn glir o sbwriel.

 

Os oes gennych bryderon am eich eiddo oherwydd cynnydd yn lefel afon, ffoniwch Floodline ar 0345 988 1188, sef gwasanaeth 24 awr a ddarperir gan Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae gwybodaeth ar gael am Rybuddion Llifogydd Afonydd a sut i ddiogelu eich eiddo, yn ogystal â gwasanaeth am ddim i dderbyn rhybuddion llifogydd dros y ffôn, drwy neges destun neu e-bost drwy fynd ihttps://naturalresources.wales/flooding/check-flood-warnings/?lang=cy