Back
Ail-osod torchau pabi wrth Gofeb Ryfel Gerddi Alexandra

26/01/21

Gosodwyd torchau newydd yng Ngerddi Alexandra i anrhydeddu Pobl Dduon a Phobl o Leiafrifoedd Ethnig oedd yn aelodau o'r Lluoedd Arfog, a#r bobl hynny a wasanaethodd ac a fu farw yn Rhyfel y Falklands.

Bu'n rhaid gosod torchau newydd ar ôl i'r rhai pabi gwreiddiol gael eu difrodi'r wythnos diwethaf a'u gosod ger bin sbwriel.

Ymunodd Roma Taylor, cynrychiolydd Race Council Cymru a Windrush Cymru Elders, ac Uwchgapten Peter Harrison o'r Lluoedd Arfog Prydeinig, ag Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Huw Thomas, mewn seremoni fer heddiw am hanner dydd yng Ngerddi Alexandra gan gadw pellter cymdeithasol.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas: "Ar ôl y gofid a achoswyd yr wythnos diwethaf gan ddelwedd o Dorchau Pabi wedi eu taflu, roedd hi'n fraint cael ymuno â chynrychiolwyr o Race Council Cymru a'r Lluoedd Arfog heddiw i osod torchau newydd o flaen y ddwy Gofeb yng Ngerddi Alexandra.

"Rwy'n falch bod y torchau gwreiddiol wedi cael eu newid mor gyflym, a byddwn ni'n eu sicrhau nawr rhag difrod gan y tywydd. Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at yr adeg yn ddiweddarach eleni pan allwn i gyd, gobeithio, ddod at ein gilydd mewn seremoni newydd y bydd Cyngor Caerdydd a Race Council Cymru yn ei chynnal ar y cyd, i ddiolch a chofio am wasanaeth ac aberth Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig."

Gweithiodd Cyngor Caerdydd yn agos gyda Race Council Cymru a phartneriaid eraill i osod y gofeb yn 2019, gan goffáu cyfraniad Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig a wasanaethodd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd. Mae'n deillio o ymgyrch gydol oes gan y diweddar Patti Flynn, a gollodd ei thad a'i brodyr yn y rhyfel, ac mae'n gofeb y gwelodd Patti iddi'n cael ei dadorchuddio yn ei dinas enedigol.

Dywedodd y Barnwr Ray Singh CBE, Cadeirydd Race Council Cymru: "Heddiw, bydd ein hynafgwyr yn sefyll ochr yn ochr â Chyngor Caerdydd a'r Lluoedd Arfog i osod torchau newydd i sicrhau bod dynion a menywod oedd yn byw yng Nghymru oedd yn hanu o'r Gymanwlad a fu farw yn y rhyfeloedd yn cael eu coffáu, a bod eu gwasanaeth yn cael ei gydnabod a'i anrhydeddu mewn modd addas. Diolchwn i Gyngor Caerdydd am eu cefnogaeth ac i bawb a wasanaethodd, ac sy'n gwasanaethu ein cenedl yng Nghymru - Mewn Angof Ni Chewch Fod."

Mae Cyngor Caerdydd a Race Council Cymru wedi cytuno i gynnal seremoni flynyddol ar y cyd i gydnabod aelodau o'r Lluoedd Arfog oedd yn Ddu, yn Asiaidd ac o Leiafrifoedd Ethnig er mwyn sicrhau bod cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn cael gwybod am eu straeon.

Yr wythnos diwethaf, gosodwyd y torchau a ddifrodwyd wrth ymyl bin sbwriel yn y parc. Fodd bynnag, gan nad oedd lluniau teledu cylch cyfyng ar gael, dyn ni ddim yn siŵr sut y cafodd y torchau eu difrodi. O ystyried hyn, os gwelodd unrhyw un rywun yn fandaleiddio'r torchau, cysylltwch â'r heddlu a rhowch unrhyw wybodaeth sydd gennych. Mae'n bosibl bod y torchau wedi'u difrodi gan y gwynt a'r tywydd gwael ac yna eu gosod wrth y bin gan rywun a oedd wedi'u gweld wedi'u gwasgaru o amgylch y parc, ond ar hyn o bryd dyn ni ddim yn gwybod beth ddigwyddodd iddyn nhw mewn gwirionedd.

Mae'r cyngor hefyd wedi datgan y bydd pob torch yn cael ei glymu'n sownd wrth gofebion rhyfel o hyn ymlaen i'w diogelu rhag difrod gwynt neu stormydd.