Back
Cartref Cŵn Caerdydd yn taro’r post
Nid oes neb yn caru cŵn yn fwy na'r tîm yng Nghartref Cŵn Caerdydd, felly pan glywon nhw fod pobl yn cael eu cynghori mewn rhai grwpiau cyfryngau cymdeithasol, i anwybyddu eu rhwymedigaeth gyfreithiol i gysylltu â nhw os  yn dod o hyd i gŵn strae, am resymau anwir, roeddent am unioni’r camargraff yn syth.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Mae'n siomedig bod lleiafrif o bobl yn dewis lledu gwybodaeth ffug am Gartref Cŵn Caerdydd ar adeg pan, gyda chymorth ymgyrch codi arian dan arweiniad Sam Warburton, cyn-gapten rygbi Gymry a sefydlu elusen newydd y Gwesty Achub, rydym yn awyddus i adnewyddu'r cytiau cŵn a darparu gofal o safon uwch fyth i gŵn Caerdydd.

"Yn anffodus, mewn lleiafrif bach iawn o achosion, does dim dewis ond rhoi ci rydyn ni'n gofalu amdano i gysgu.   Dim ond ar gyngor meddygol milfeddyg y gwneir hyn ar unrhyw adeg, os oes rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i wneud hynny oherwydd ei fod yn frîd gwaharddedig, neu os yw ci, ar ôl gwaith helaeth gydag therapydd ymddygiad cŵn, yn dal yn rhy ymosodol fel y byddai'n beryglus ei ail-gartrefu.

"I fod yn glir - nid yw cŵn yn cael eu rhoi i gysgu yng Nghartref Cŵn Caerdydd fel mater o drefn.  Mae cŵn yn lletya yn y cartref sydd wedi bod yno ers misoedd lawer a byddant yn aros yno, yn derbyn gofal da tan bo’r tîm yn gallu canfod cartref am byth iddynt."

Yn 2019/20, daeth 695 o gŵn strae drwy ddrysau Cartref Cŵn Caerdydd. Cafodd 359 ohonynt (51.6%) eu dychwelyd i’w perchennog. 329 (47.3%) eu hail gartrefu a dim ond 7 (1%) a gafodd eu rhoi i gysgu, gyda 3 o'r rhain oherwydd cyngor meddygol, a 4 oherwydd problemau ymddygiad.

Os ydych chi'n dod o hyd i gi strae, dyma’r hyn ddylid ei wneud:

·       Cysylltwch â Chartref Cŵn Caerdydd ar 029 2071 1243.  Os dewch o hyd i gi sydd allan ar ei ben ei hun, mae rhwymedigaeth gyfreithiol arnoch i gysylltu â'r awdurdod lleol.  Ar gyfer ardal Caerdydd, Cartref Cŵn Caerdydd yw hwnnw. Mae hyn er mwyn sicrhau bod y broses gywir yn cael ei dilyn a bod y ci yn cael ei ddychwelyd i'w wir berchennog.

·       Byddwn yn trefnu i Warden ddod i gasglu’r ci a’i sganio am sglodyn micro er mwyn ei ddychwelyd yn ôl i’w berchennog.  Os nad oes sglodyn i’w gael, bydd y ci yn mynd i Gartref Cŵn Caerdydd lle bydd yn derbyn gofal nes bydd y perchennog yn dod i'w gasglu. Fel arall, gallwch fynd â chi strae yn uniongyrchol i'r Cartref Cŵn ar unrhyw adeg, 24/7 – ffoniwch ymlaen llaw, os ydych yn gwneud hyn.

·       Os nad oes unrhyw un yn hawlio'r ci, ar ôl 7 diwrnod bydd yn dod yn eiddo cyfreithiol Cartref Cŵn Caerdydd a bydd y broses o ddod o hyd i gartref newydd am byth i'r ci, yn dechrau.

Dyma’r hyn na ddylid ei wneud:

·       Ni ddylech gadw'r ci, na rhoi negeseuon ar gyfryngau cymdeithasol sy'n rhoi cymaint o wybodaeth i bobl fel y gallai unrhyw un honni mai nhw yw perchennog y ci. Mae ein staff wedi'u hyfforddi ac yn brofiadol wrth ddelio â holl gymhlethdodau perchnogaeth ar gŵn ac anghydfodau cysylltiedig. Mae'n bosibl eich bod wedi dod o hyd i gi sydd wedi'i ddwyn ac efallai y bydd gan y Cartref Cŵn wybodaeth am yr hanes a'r amgylchiadau sy'n gysylltiedig â chi unigol.

·       Peidiwch â chysylltu â Milfeddyg.  Dim ond ymgynghoriadau hanfodol maen nhw’n eu gwneud ar hyn o bryd ac ni allant fynd â chŵn strae i mewn i’w sganio am sglodion micro, chwilio trwy gronfeydd data ac yna cysylltu â pherchnogion i’w hailuno â’u cŵn. Dyma ddiben Cartref Cŵn Caerdydd a’r Gwasanaeth Wardeniaid.

Am fwy o wybodaeth am Gartref Cwn Caerdydd ewch i: Croeso i Gartref Cŵn Caerdydd - Cartref Cŵn Caerdydd

Os hoffech wneud rhodd i helpu Sam Warburton a’r Gwesty'r Achub i godi arian ar gyfer Cartref Cŵn Caerdydd, ewch i www.justgiving.com/campaign/therescuehotel