Back
Handlebar Barista i weithredu caffi symudol newydd ym Mharc Bute
Dyfarnwyd contract i’r cwmni arlwyo a choffi symudol Handlebar Barista i weithredu consesiynau arlwyo ym Mharc Bute, Caerdydd.

Yn falch o alw eu hunain yn gwmni coffi mwyaf ecogyfeillgar Caerdydd, yn fuan byddant yn gweini eu cymysgedd cyfrinachol o goffi crefftus o tuk-tuk wedi’i bweru gan ynni solar sydd newydd ei ailwampio, neu o un o’u treisiclau coffi hen ffasiwn wedi’i bweru gan bedalau.

Dywedodd Chris Garrett, Cyd-berchennog Handlebar Barista: “Ni allwn aros i ddod â’n caffi i Barc Bute. Mae ein cerbydau ecogyfeillgar ac ethos y cwmni o gynaliadwyedd yn gweddu’n berffaith â’i fywyd gwyllt a’i leoliad naturiol, a bydd yn anrhydedd go iawn i allu gweini ein cwsmeriaid yng nghanol gwyrdd y ddinas. Rydym yn gwybod pa mor bwysig mae Parc Bute i bobl Caerdydd, ac rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod ein presenoldeb yn ychwanegu at brofiad pawb pan fyddant yn dod i ymweld.”

Gan weithredu saith diwrnod yr wythnos, ac yn cynnig bwydlenni brecwast a chinio, hufen iâ yn yr haf, diodydd oer, siocled poeth a dewis o de hefyd, bydd y caffi symudol yn symud rhwng tri lleoliad yng ngogledd y parc:  Ystafelloedd Newid Blackweir, Pont Droed Blackweir, a lleoliad ar Daith Taf (ger preswylfeydd myfyrwyr Tal-y-bont).

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: “Mae Parc Bute yn rhan mor bwysig o’n dinas, efallai yn fwy nawr nag o’r blaen, felly roedd yn fwriad gennym erioed i ddod o hyd i weithredwr a allai reoli ei fusnes yn y ffordd fwyaf ymwybodol o’r amgylchedd.

“Mae gweithio gyda Handlebar Barista yn golygu ein bod yn rhoi cyfle gwych i fusnes lleol sy’n tyfu, yn gwella’r cynnig i ymwelwyr â’r parc, ac yn bwysig, yn creu arian ychwanegol i’n helpu i barhau i gynnal a gwella’r man gwyrdd hwn sydd o’r radd flaenaf.”

“Ar hyn o bryd mae angen i bobl fod yn dilyn y rheolau ar Covid-19 ac yn aros gartref gymaint â phosibl, ond yn y dyfodol pan fydd pobl o bob rhan o’r ddinas a’r tu hwnt yn gallu dychwelyd i’r parc, rwy’n siŵr y bydd llawer ohonyn nhw’n mwynhau’r cyfle i brynu coffi a mynd am dro trwy erwau penigamp Parc Bute.”

Bydd Handlebar Barista yn gweithredu ym Mharc Bute o’r wythnos hon. I weld yr oriau agor a manylion llawn am adegau y gellir dod o hyd iddynt ym mhob lleoliad, ewch i www.handlebarbarista.co.uk