Back
Rydyn ni’n recriwtio! Lansio gwefan newydd Caerdydd ar Waith


3/2//21
Mae gwefan newydd i hyrwyddo cyfleoedd gwaith dros dro o fewn Cyngor Caerdydd wedi cael ei lansio.

 

Mae Caerdydd ar Waith, asiantaeth gyflogaeth dros dro fewnol y Cyngor sy'n cynnig swyddi mewn ystod eang o wasanaethau'r Cyngor, wedi datblygu'r wefan newydd i godi ymwybyddiaeth o gyfleoedd yn yr awdurdod ac i gefnogi unigolion i gael swyddi lle gallant feithrin sgiliau a hyder i sicrhau cyflogaeth gynaliadwy.

 

Mae'r tîm yn gweithio ochr yn ochr â gwasanaeth Cyngor i Mewn i Waith y Cyngor, a all sicrhau y gall ymgeiswyr gael yr holl ganllawiau cyflogaeth a'r arbenigedd sydd eu hangen arnynt er mwyn bod yn barod ar gyfer rolau y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt gyda Caerdydd ar Waith.

 

Mae'r wefan newydd sbon a deniadol yn dangos y swyddi gwag dros dro diweddaraf yn yr awdurdod, yn ogystal â gwybodaeth a chyngor am ddod o hyd i'r swydd gywir,sefyll allan yn ystod y broses ymgeisio,cyfleoedd gwirfoddoli a hyfforddi,ac awgrymiadau ar gyfer cyfweliadau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Chris Weaver, yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Moderneiddio a Pherfformiad: "Mae Caerdydd ar Waith wedi bod yn cefnogi gwasanaethau ym mhob rhan o'r Cyngor ers nifer o flynyddoedd, gan baru ymgeiswyr addas ag amrywiaeth o rolau yn yr awdurdod. Mae'r wefan yn edrych yn ardderchog ac mae'n lle gwych ar gyfer gweld cyfleoedd byrdymor gyda'r Cyngor.

 

"Efallai mai gwaith byrdymor yw'r union beth y mae rhai o'n trigolion yn chwilio amdano ond mewn llawer o achosion, gall cyfleoedd dros dro arwain at rolau mwy parhaol, os mai dyna beth mae'r unigolyn ei eisiau. Mae ymuno â ni trwy Caerdydd ar Waith yn rhoi cyfle i bobl ddarganfod sut beth yw gweithio i sefydliad mawr ac amrywiol fel Cyngor Caerdydd, ac i ennill profiad gwerthfawr a sgiliau newydd.

 

"Mae gweithio i'r Cyngor yn cynnig llawer o fanteision. Rydyn ni'n gyflogwr Cyflog Byw Gwirioneddol, wedi ymrwymo i sicrhau bod ein staff yn cael diwrnod teg o dâl am ddiwrnod caled o waith.

 

"Rydyn ni'n gobeithio y bydd y wefan newydd yn denu ac yn annog hyd yn oed mwy o recriwtiaid i ymuno â ni wrth i ni geisioeu paru â rolau sy'n gweddu i'w sgiliau, eu profiad a'u dyheadau ac i'n galluogi i barhau i ddarparu'r miloedd o wasanaethau a ddarparwn ar draws y ddinas."

 

Mae swyddi gwag cyfredol a mwy o wybodaeth am Caerdydd ar Waith gael ar y wefan newydd yn https://caerdyddarwaith.co.uk/
 
Gall ceiswyr gwaith wneud cais am rolau yn uniongyrchol drwy'r wefan, yn ogystal â chofrestru diddordeb mewn rolau yn y dyfodol.
 

 

Ewch i'r wefan heddiw neu siaradwch ag un o'r tîm ar 029 2087 3087, neu drwy e-bostiocaerdyddarwaith@caerdydd.gov.uk