Back
Newyddion Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 4 Chwefror

Dyma'r newyddion ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: cartrefi gofal ledled Caerdydd yn cyrraedd carreg filltir frechu; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a'r Fro; a niferoedd achosion a phrofion COVID-19.
 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i  www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Cartrefi gofal ledled Caerdydd yn cyrraedd carreg filltir frechu 

Mae pob preswylydd ac aelod o staff mewn cartrefi gofal ledled Caerdydd wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn COVID-19.

Dim ond 23 diwrnod ar ôl i Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ddechrau ei raglen frechu ar gyfer cartrefi gofal, roedd cyfanswm o 3,485 o weithwyr a 1,609 o breswylwyr wedi derbyn eu dos cyntaf o frechlyn AstraZeneca Rhydychen.

Aeth timau Brechu Symudol y Bwrdd Iechyd i 123 o gartrefi ledled Caerdydd a Bro Morgannwg i roi'r brechlyn ar gyfer y garfan flaenoriaeth hon, yn unol â chanllawiau'r Cydbwyllgor Brechu ac Imiwneiddio (JCVI).

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore:  "Rwy'n falch bod pob un o'n cartrefi gofal i bobl hŷn bellach wedi derbyn y dos cyntaf o'r brechlyn; carreg filltir sy'n rhoi gobaith ac optimistiaeth i rai o ddinasyddion mwyaf agored i niwed Caerdydd. Iddynt hwy, eu teuluoedd, a'r gweithlu ymroddedig sy'n gofalu amdanynt, dyma'r cam cyntaf tuag at adennill rhywfaint o'r normalrwydd roeddem yn ei fwynhau cyn y pandemig.

"Mae sicrhau diogelwch yr holl breswylwyr a staff cartrefi gofal wedi bod yn flaenoriaeth drwy gydol COVID-19, ac rydym wedi gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod preswylwyr yn cael eu brechiadau cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl."

Mae sesiynau pellach wedi'u trefnu dros yr wythnosau nesaf ar gyfer nifer fach o breswylwyr neu staff na fu modd eu brechu oherwydd achosion o Covid-19 - ni ellir rhoi'r brechiad tan 28 diwrnod ar ôl canlyniad positif Covid-19.

Bydd y Bwrdd Iechyd yn cysylltu â'r cartrefi gofal i sicrhau bod y preswylwyr a'r staff yn derbyn eu hail ddos wyth wythnos ar ôl i'w dosau cyntaf gael eu rhoi.

Dywedodd Fiona Kinghorn, Cyfarwyddwr Gweithredol Iechyd y Cyhoedd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Mae'r ffaith ein bod wedi brechu'r holl staff a phreswylwyr mewn cartrefi gofal mor gyflym ers i ni ddechrau'r rhaglen hon ar 6 Ionawr yn dyst i waith caled a chynllunio manwl ein timau.

"Pan ddechreuon ni frechu'r holl staff a phreswylwyr yn ein cartrefi gofal, sy'n rhan o'r pedwar grŵp blaenoriaeth uchaf, gosodon ni darged i frechu'r holl bobl yma erbyn diwedd mis Ionawr. Rydw i'n falch o ddweud ein bod wedi cyflawni hyn ac am ddiolch i'r holl gartrefi gofal sydd wedi cydweithredu â ni ac wedi parhau i gyfathrebu'n rheolaidd â ni i gadw'r broses mor hyblyg ac effeithlon â phosibl."

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro - 4 Chwefror

Hyd yn hyn mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi rhoi cyfanswm o  71,708brechiad.

 

Y grwpiau blaenoriaeth yw:

Staff Cartrefi Gofal: 4,261

Preswylwyr Cartrefi Gofal: 1,773

80 oed ac yn hŷn: 16,292

Staff Gofal Iechyd: 20,896

Staff Gofal Cymdeithasol: 6,529

75-79, 70-74, eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 21,597

 

Mae rhagor o wybodaeth am y rhaglen frechu yng Nghaerdydd ar  wefan Cyngor Caerdydd.

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (24 Ionawr - 30 Ionawr)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

(https://public.tableau.com/profile/public.health.wales.health.protection#!/vizhome/RapidCOVID-19virology-Public/Headlinesummary) 

 

Mae'r data'n gywir ar:

3 Chwefror 2021, 11:10

 

Achosion: 449

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 122.4 (Cymru: 126.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,772

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,028.1

Cyfran bositif: 11.9% (Cymru: 10.8% cyfran bositif)