Back
Diweddariad COVID-19: 17 Chwefror

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr;cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr

O ddydd Llun, bydd ysgolion yn croesawu plant yn ôl i'r Feithrin, Dosbarth Derbyn, Blwyddyn 1 a Blwyddyn 2.

Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran sicrhau bod ein hysgolion yn gallu aros ar agor i'r disgyblion hyn ac y gallwn, gobeithio, groesawu blynyddoedd eraill yn ôl yn fuan. 

Er mwyn i hyn ddigwydd, cadwch eich hun, eich teuluoedd a staff ein hysgol yn ddiogel drwy ddilyn y rheolau hyn:

  • Gwisgwch orchudd wyneb yn ystod amseroedd gollwng a chasglu.
  • Cadwch 2️ fetr ar wahân i eraill.
  • Peidiwch â chyrraedd yn gynnar i ollwng/ codi eich plentyn er mwyn osgoi gormod o bobl yn casglu wrth gatiau'r ysgol.
  • Dylech osgoi ymgynnull gyda rhieni eraill o amgylch mynedfeydd yr ysgol a gadewch yn syth ar ôl yr amseroedd gollwng neu gasglu. Peidiwch â chael eich temtio i aros i sgwrsio.
  • Cerddwch neu ewch ar sgwter neu feic lle bo modd.
  • Os oes rhaid i chi yrru, parciwch ymhell i ffwrdd o'r ysgol a cherddwch weddill y ffordd.
  • I helpu gyda diogelwch disgyblion a mesurau cadw pellter cymdeithasol, peidiwch â pharcio ar y palmant.
  • Peidiwch â derbyn cynnig o lifft i'r ysgol gan rieni eraill, oni bai nad oes gennych ddewis arall.
  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall pwysigrwydd golchi ei ddwylo'n rheolaidd.

Cofiwch hefyd:

  • Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os yw'n teimlo'n sâl, hyd yn oed os nad ydych yn siŵr ai Coronafeirws ydyw.
  • Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os ydy e/hi neu unrhyw un arall yn yr aelwyd yn dangos unrhyw un o symptomau COVID-19.
  • Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os ydy e/hi neu unrhyw un arall yn yr aelwyd yn aros am ganlyniad prawf.
  • Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os ydy e/hi wedi'i nodi fel cyswllt agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd.
  • Er bod ysgolion yn ailagor i rai disgyblion, nid yw Coronafeirws wedi diflannu. Atgoffwn rieni a gofalwyr na chaniateir cymysgu y tu allan i'r ysgol o hyd, hyd yn oed os ydynt yn yr awyr agored a hyd yn oed os yw plant yn yr un swigod yn yr ysgol.

Mae hyn yn cynnwys cysgu dros nos, partïon a sesiynau chwarae gan y gallai hyn gynyddu lledaeniad y feirws ac arwain at fwy o gyfyngiadau.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 17 Chwefror

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn,yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  116,453.

 

Grwpiau Blaenoriaeth:

Staff cartrefi gofal: 4,358

Preswylwyr cartrefi gofal: 1,832

80 oed a hŷn: 18,832

Staff gofal iechyd: 23,907

Staff Gofal Cymdeithasol: 7,716

75-79: 13,685

70-74: 19,671

Eithriadol o agored i niwed yn glinigol: 8,929

Grwpiau eraill o fewn grwpiau blaenoriaeth y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (e.e. 65-69): 17,523

 

Cafwyd y data gan BIPCAF

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (06 Chwefror - 12 Chwefror)

 

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

16 Chwefror 2021, 09:00

 

Achosion: 386

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 105.2 (Cymru: 85.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,864

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,053.1

Cyfran bositif: 10.0% (Cymru: 8.1% cyfran bositif)