Back
Cynigion cyllideb ôl-bandemig wedi'u cynllunio i 'roi hwb' i Gaerdydd a diogelu gwasanaethau hanfodol

19/02/20

Bydd cyllideb adfer ôl-bandemig gwerth miliynau o bunnoedd, i Gaerdydd - wedi ei llunio i helpu i greu swyddi newydd, darparu cartrefi cyngor newydd, adeiladu ysgolion gwell a diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol - yn mynd gerbron cyngor llawn y ddinas i'w chymeradwyo ym mis Mawrth.

Mae Cabinet Cyngor Caerdydd yn cyflwyno cynigion a fyddai'n golygu gwario miliynau yn helpu i roi'r ddinas ar ei thraed eto wrth iddi geisio adfer wedi effeithiau'r pandemig.

Mae'r cynigion yn rhan o adroddiad cyllideb 2021/22 a gaiff ei gyflwyno i'r Cabinet i'w gymeradwyo ddydd Iau, 25 Chwefror. Ar ôl cytuno arno, bydd y Cyngor Llawn yn pleidleisio ar y gyllideb mewn cyfarfod ar 4 Mawrth.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd:  "Hwn fydd un o'r cyllidebau pwysicaf y mae'r cyngor hwn wedi ei phennu. Mae COVID-19 wedi effeithio arnom i gyd a bydd yn effeithio ar ein dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod. Wedi dweud hynny, mae ein dinas wedi gwneud gwaith hynod, yn tynnu at ei gilydd, i geisio atal lledaeniad y feirws. Ar hyn o bryd rydym yn brwydro'r ail don, ond mae gobaith ar y gorwel wrth i'r rhaglen frechu barhau i gael ei chyflwyno. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn edrych tua'r dyfodol, gan gynllunio sut rydym yn gwella wedi'r pandemig a sut rydym yn paratoi ein dinas ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau.

"Mae'n rhaid i'r cyngor hwn fod ar flaen y gad o ran rhoi Caerdydd yn ôl ar waith. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i greu swyddi y mae mawr eu hangen, gan adeiladu ysgolion gwell a chartrefi cyngor newydd i'r rhai mwyaf anghenus. Rydym hefyd am helpu i ailfywiogi arlwy diwylliannol y ddinas wrth adeiladu Caerdydd werddach a glanach - dinas sy'n addas ar gyfer y dyfodol - gyda llawer i edrych ymlaen ato mewn byd ôl-bandemig, ac mae angen i ni wneud hyn wrth ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi chwarae rhan mor hanfodol yn cefnogi ein trigolion drwy gydol y pandemig."

Ymhlith y cynigion mae cynlluniau gwariant pum mlynedd sylweddol i helpu Caerdydd i adfer yn llwyddiannus wedi'r pandemig, gan gynnwys:

  • Buddsoddiad o £387 miliwn mewn tai cymdeithasol gan gynnwys cartrefi cyngor newydd;
  • £251 miliwn ar adeiladau ysgol newydd;
  • £234 miliwn mewn mentrau datblygu economaidd, gan gynnwys yr arena newydd, y pentref chwaraeon rhyngwladol ac ailddatblygiad Glanfa'r Iwerydd;
  • £61 miliwn i ddatblygu llwybrau beicio a gwella seilwaith trafnidiaeth a llwybrau teithio llesol;
  • Buddsoddiad gwerth £54.7m yn adeiladwaith ysgolion presennol;
  • £41.8m ar gyfer gwneud addasiadau i'r anabl i helpu pobl i barhau i fyw yn eu cartrefi eu hunain
  • Buddsoddiad gwerth £41m mewn Asedau Seilwaith Priffyrdd
  • £32.7m ar gyfer gwella cymdogaethau;
  • £25m ar gyfer prosiectau cynaliadwyedd ynni gwyrdd;
  • £18m i gefnogi ailgylchu ac adeiladu cyfleuster ailgylchu newydd yng ngogledd y ddinas;
  • £18 miliwn i fynd i'r afael â llifogydd ac erydu arfordirol;
  • Buddsoddiad gwerth £9.7m mewn parciau a meysydd chwarae;
  • Buddsoddiad gwerth £5.4m mewn canolfannau hamdden;
  • Buddsoddiad gwerth £4.3m mewn darpariaeth seibiant i blant a llety i Blant sy'n Derbyn Gofal
  • Buddsoddiad gwerth £3.2m mewn canolfannau ieuenctid a lles.
  • Bydd y Cyngor hefyd yn rhoi cymorth i'w strategaeth Un Blaned - mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, gan wneud Caerdydd yn lle gwyrddach a glanach i fyw ynddo. Gan gynnwys rhai o'r cynlluniau uchod, mae'r rhaglen gyfalaf yn cynnwys buddsoddiad gwerth dros £85m ar gyfer y strategaeth.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cyngh. Chris Weaver: "Bu gan y cyngor hwn uchelgeisiau sylweddol i'n dinas erioed. Rydym bob amser wedi bod eisiau'r gorau i'n trigolion ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod Caerdydd yn gwella'n gyflym o effeithiau'r pandemig.  

"Bydd hyn yn golygu dwyn ynghyd a chefnogi ystod eang o fesurau a gynlluniwyd i helpu i adnewyddu Caerdydd, gan greu tirwedd economaidd lle gellir creu swyddi wrth i ni adfer ar ôl y flwyddyn hynod anodd hon. Rydym yn credu bod ein cynigion cyllidebol yn creu llwybr clir allan o'r pandemig, a all fod o fudd i bawb sy'n byw yma.

"Eleni cafodd Caerdydd gynnydd gwell na'r disgwyl, sef 3.8% yn y cyllid gan Lywodraeth Cymru.  Mae hyn yn £18m yn ychwanegol yn nhermau arian parod.  Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd hwn yr ydym yn hynod falch o'i gael nid yw'n ddigon o hyd i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarparwn.  Yn wir, mae'n gadael bwlch cyllidebol gwerth £15.594m yn ein cyllid, bwlch y bydd yn rhaid inni ddod o hyd i ffordd o'i bontio os ydym am barhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol sydd wedi bod mor werthfawr i breswylwyr dros y flwyddyn ddiwethaf. Hefyd, mae'n rhaid i ni bontio'r bwlch hwn ar adeg pan fo'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi ein preswylwyr a'n heconomi ar ôl COVID."

Mae Cabinet y Cyngor yn cynnig pontio'r bwlch cyllidebol gwerth £15.594m mewn dwy ffordd, sef:

  • Gwneud gwerth £10.244m o arbedion effeithlonrwydd;
  • Codi'r dreth gyngor 3.5% (sy'n cyfateb i 85c yr wythnos ar gartref Band D); a fydd yn codi £5.35m.

Ychwanegodd y Cyngh Weaver: "Daw'r rhan fwyaf o'r arian y mae'r Cyngor yn ei gael (72%) o grantiau gan Lywodraeth Cymru.  Daw gweddill y cyllid o'r Dreth Gyngor (28%). Mae'r rhan fwyaf ein cyllideb - tua dwy ran o dair - yn cael ei gwario ar gynnal ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.  Heb y dreth gyngor, mae'n bosibl y collid llawer o'r gwasanaethau pwysig eraill a ddarparwn ac sydd wedi bod mor werthfawr drwy gydol y pandemig, neu gallent wynebu toriadau difrifol. 

Rwy'n hapus i ddweud ein bod wedi llwyddo i leihau ein cyfrifiadau cychwynnol o gynnydd 4% yn y Dreth Gyngor i 3.5%. Bydd hyn ymhlith y cynnydd Treth Gyngor isaf yng Nghymru ac mae'n dod i gyfanswm o 85c yr wythnos ar eiddo Band D, sef llai na £4 y mis. Er y byddwn yn pontio rhan helaeth y bwlch cyllidebol drwy wneud arbedion yn hytrach na chyda'r cynnydd hwn yn y Dreth Gyngor, ac rwy'n falch ei fod yn gynnydd is nag yr oedden ni'n credu y byddai'n rhaid i ni ei gynnig, bydd hyn yn ein helpu i gynnal y gwasanaethau y mae ein dinasyddion wedi dod i ddibynnu arnynt wrth i ni gynllunio ar gyfer dyfodol gwell ar ôl pandemig. Bydd unrhyw un sy'n cael trafferth talu ac sy'n gymwys wrth gwrs yn cael cyfle i gael cymorth drwy gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor.

"Dangosodd canlyniadau ein Hymgynghoriad ar y Gyllideb fod preswylwyr eisiau i'r cyngor hwn wneud yr hyn a all i arwain adferiad economaidd y ddinas drwy gefnogi busnesau a gweithwyr drwy gyflwyno cynlluniau adfywio mawr; maent am inni fuddsoddi yn ein hysgolion, a chadw ein cymunedau'n ddiogel. Y blaenoriaethau hynny sydd bwysicaf yn y gyllideb hon."

Fel rhan o'r gyllideb bydd y cyngor hefyd yn cynyddu ei wariant yn y meysydd canlynol:

  • £9.066m (3.1%) o gyllid ychwanegol ar gyfer y Gwasanaeth Addysg, gan gynnwys £6.341m ar gyfer ysgolion;
  • Bydd cyllidebau gwasanaethau cymdeithasol yn cynyddu £11.375m, gydag:
  • Arian grant ychwanegol a fydd yn rhoi'r gallu i'r Cyngor ddarparu £5.2m yn ychwanegol i gefnogi prosiectau i fynd i'r afael â digartrefedd 
  • Caiff y Gwasanaethau Oedolion gynnydd blynyddol ychwanegol gwerth £5.167m - 4.4%; a
  • Chaiff y Gwasanaethau plant £6.208m yn ychwanegol - cynnydd o 9.5% ers y llynedd;
  • Bydd mwy na hanner miliwn o bunnoedd yn cael eu gwario ar weithgareddau ychwanegol i bobl ifanc yn ystod yr haf i'w helpu i adfer wedi eu blwyddyn ysgol y tarfwyd arni, gyda buddsoddiad ychwanegol yn Addewid Caerdydd a'r Gwasanaethau Ieuenctid hefyd; a
  • Dros £1.5m i gefnogi mentrau glanach a gwyrddach y flwyddyn nesaf ac i gefnogi'r gwaith o gyflawni'r Strategaeth Un Blaned.