Back
Ymateb Cyngor Caerdydd i 'Strategaeth Drafnidiaeth Cymru'


 19/-2/21

    Bydd Cabinet Cyngor Caerdydd yn ystyried ymateb y Cyngor i Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn ei gyfarfod ar 25 Chwefror.

 

    Mae'r Cyngor yn cefnogi'r weledigaeth, yr uchelgais a'r blaenoriaethau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru - ond gyda nifer o gafeatau - i sicrhau bod Caerdydd yn parhau i reoli ei Gynllun Trafnidiaeth Lleol ac yn cael digon o arian hirdymor i gyflawni'r gwelliannau trafnidiaeth sydd eu hangen ym Mhrifddinas Cymru.

 

     Mae'r Cyngor wedi nodi gweledigaeth drafnidiaeth 10 mlynedd ar gyfer y ddinas ym mis Chwefror 2020, sydd wedi'i chydnabod fel enghraifft ledled y DU o arfer gorau, o ran cyflawni a datblygu. Mae'r Papur Gwyn yn nodi sut y bydd y cyngor yn mynd i'r afael ag allyriadau peryglus o drafnidiaeth sy'n cyfrannu at newid yn yr hinsawdd, lleihau tagfeydd, gwella trafnidiaeth gyhoeddus a llwybrau teithio llesol, a gwella ansawdd yr aer yn y ddinas.

 

     Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae'r Cyngor yn llwyr gefnogi'r blaenoriaethau a nodwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei hymgynghoriad, gyda ffocws clir ar fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol, i annog mwy o bobl i adael eu ceir gartref ac i ddefnyddio mathau cynaliadwy o drafnidiaeth.

 

      "Rwy'n arbennig o falch bod ein rhaglen teithio llesol uchelgeisiol wedi cael ei chefnogi gymaint gan Lywodraeth Cymru, ond er mwyn sicrhau y gallwn symud ein gweledigaeth yn ei blaen yn gyflym, rydym am weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Strategaeth Drafnidiaeth Cymru yn cyd-fynd yn fwy â Phapur Gwyn y Cyngor fel y gellir cefnogi rhaglenni cyflawni ar gyfer prosiectau mawr gydag ymrwymiadau ariannu hirdymor.

 

     "Wedi colli arian gan yr UE ac oherwydd yr effaith ariannol sylweddol y mae COVID-19 wedi'i chael ar y ddinas, mae'n hanfodol ein bod yn cael hyn yn iawn, fel bod teithio cynaliadwy yn dod yn opsiwn dichonol a deniadol i breswylwyr a chymudwyr."

 

Yr ymatebion allweddol i Lywodraeth Cymru o ran Strategaeth Drafnidiaeth Cymruyw:

 

  • Sicrhau bod y prosiectau a nodir ym Mhapur Gwyn Trafnidiaeth Caerdydd yn cyd-fynd yn agosach â Strategaeth Drafnidiaeth Cymru Llywodraeth Cymru
  • Yr angen i ymgorffori'r rhannau perthnasol o raglen Adfer COVID-19 Llywodraeth Cymru, ac arian yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru
  • Yr angen i gael grantiau ariannol ar gyfer prosiectau mawr yn seiliedig ar becyn ariannu tair blynedd o leiaf, yn hytrach na phecyn ariannu blwyddyn fel sydd ar gael ar hyn o bryd
  • Yr angen i'r Cyngor gadw'r pwerau i gynhyrchu, rheoli a llywodraethu ei Gynllun Trafnidiaeth Lleol ei hun - tra'n gweithio gyda'r rhanbarth ehangach ar lwybrau trafnidiaeth rhyngranbarthol.