Back
Cynigion diwygiedig ar gyfer ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows

19/2/2020  

Bydd adroddiad sy'n argymell bodcynlluniau'n cael eu symud ymlaen i leoli ac ailadeiladu Ysgol Uwchradd Willows newyddyn mynd i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau, 25 Chwefror. 

Mae'radroddiad yn amlinellu cynigion a allai weld yr ysgol newyddyn cael ei hadleoli i Heol Lewis, Sblot.

Mae hefyd yn gofyn y bydd digwyddiad cyhoeddus anstatudol ar adleoli'r ysgol yn digwydd yn y Gwanwyn, gan roi cyfle i aelodau'r cyhoedd ddysgu mwy am y cynigion ar gyfer y cynllun.

Ym mis Rhagfyr 2017, cymeradwyodd y Cabinet gynlluniau i fynd i'r afael â'r ysgolion hynny sydd mewn cyflwr gwael. Nodwyd bod Ysgol Uwchradd Willows yn ysgol categori ‘D', sy'n golygu ei bod yn agos at ddiwedd ei bywyd gweithredolgydag amgylcheddau dysgu ‘anaddas'a chafodd ei blaenoriaethu ar gyfer buddsoddiad.

Os caiff yr ysgol ei datblygu, byddai'r ysgol newydd yn cael ei darparu dan raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Band B Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru abyddai'r cynigion yn cynnwys:

-         adeiladu ysgol newydd ar Heol Lewis, Sbloti wasanaethuardaloedd Adamsdown, Sblot a Thremorfa

-         darparu mynediad at gyfleusterau chwaraeon lleol o ansawdd uchel

-         ysgol â ffocws cymunedol gyda chyfleusterau ar gael i'w defnyddio gan y gymuned gyfan y tu allan i oriau ysgol craidd

-         cyfleusterau gwell i gerddwyr i gefnogi trefniadau teithio llesol ar safle Heol Lewis

-         lle i 900 o ddysgwyr 11 i 16 oed, yn unol â'r galw a ragwelir

-         disgyblion i aros ar safle presennol Ysgol Uwchradd Willows nes y
caiff adeiladau newydd yr ysgol eu cwblhau i leihau tarfu posibl.

Ym mis Medi 2019, ymgynghorwyd ar y cynigion cychwynnolar gyfer darpariaeth y blynyddoedd cynnar, ysgol gynradd, ysgol uwchradd ac ôl-16 i wasanaethu Adamsdown a Sblot  Roedd hyn yn cynnwysehangu a throsglwyddo darpariaeth uwchradd ar gyfer 11-16 i 8DM a sefydlu darpariaeth ôl-16 ar y safle uwchradd. 

Fodd bynnag, mae'r rhagamcanion diweddaraf yn dangos y byddai capasiti o 6 i 7 dosbarth mynediadyn bodloni'r galw am leoedd o ddalgylch presennol Ysgol Uwchradd Willows yn y cyfnod Band B ac o fis Medi 2024 tan fis Medi 2030, mae rhagamcanion yn awgrymu y byddai 6 dosbarth mynediad yn ddigonol i fodloni'r galw. 


Dangosodd yr ymgynghoriad hefyd bryderon allweddol gan gynnwys colli rhan o Barc Tremorfa, cydleoli'r ysgolion cynradd ac uwchradd ar un safle a'r angen i adleoli'r ysgol oddi ar y gorlifdir. Dangosodd hefyd bod mwyafrif y rhanddeiliaid yn gwrthwynebu'r cynlluniau sy'n perthyn i'r cais gan yr Archesgobaeth Gatholig i gau Ysgol Gynradd Gatholig St Alban.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Rydym wedi ystyried yr adborth o'r ymgynghoriad blaenorol ac mae hyn wedi helpu i ffurfio cynnig diwygiedig ar gyfer darparu lleoedd addysg yn Adamsdown, Tremorfa a Sblot.

 

"Os caiff ei symud ymlaen, byddai adleoli Ysgol Uwchradd Willows i Heol Lewis yn hwyluso campws dysgu newydd gan ddarparu cyfleusterau addysgol sylweddol well mewn ysgol newydd sbon yn ogystal ag amwynderau rhagorol sy'n hygyrch i'r gymuned gyfan.

 

"Gan ganolbwyntio ar newid trawsffurfiol, byddai'r datblygiad yn rhoi'r cyfle i adeiladu cysylltiadau gyda busnesau lleol gan greu cyfleoedd heriol, cefnogol ac ysgogol i hyrwyddo dyhead a chyflawniad."

 

Yn dilyn ymgynghoriad, penderfynodd yr Archesgobaeth Gatholig dynnu yn ôl y cynlluniau i gau Ysgol Gynradd Gatholig St Alban. O ganlyniad ni fyddai angen ehangu Ysgol Gynradd Baden Powell bellach, ac ni fyddai defnyddio adeiladau a fyddai'n wag ar ôl cau Ysgol Gynradd Gatholig St Alban i ehangu Ysgol Feithrin Tremorfa yn bosibl.