Back
Gwaith adeiladu’n cychwyn ar yr Hyb Lles yn y Maelfa


 

24/2/21

Mae gwaith wedi cychwyn ar Hyb Lles newydd hirddisgwyliedig yng Nghaerdydd yn dilyn misoedd o gynllunio gan Gyngor Caerdydd, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Chanolfan Iechyd Llanedern.

 

Diolch i fuddsoddiad o £14 miliwn gan Lywodraeth Cymru, dechreuodd y gwaith adeiladu ar yr Hyb Lles newydd yn y Maelfa wythnos diwethaf.

 

Mae'r ganolfan newydd yn cael ei hychwanegu at Hyb Cymunedol Powerhouse presennol y Cyngor felly bydd yn defnyddio'r gwasanaethau a ddarperir gan The Powerhouse gyda chaffi cymunedol, ystafelloedd cymunedol cyffredin ac ardal gyngor, lle gall grwpiau iechyd, awdurdodau lleol a thrydydd sector ddarparu gwasanaethau cyngor, addysg a lles. Mae cysylltu'r Hyb Lles newydd a'r Hyb Cymunedol Powerhouse presennol a rhannu'r gofod yn integreiddio gwasanaethau iechyd a chymunedol ac yn darparu gwasanaeth amlswyddogaethol i gleifion, staff a chymuned leol Llanedern, fel y nodir yng Nghynllun Lles Caerdydd.

 

Bydd y ganolfan newydd, a fydd hefyd yn cymryd lle Canolfan Iechyd Llanedern, yn gwasanaethu cleifion Llanedern a Phentwyn o fis Hydref 2022 pan ddisgwylir i'r gwaith adeiladu ddod i ben. Bydd Llan Healthcare yn parhau i weithredu o Ganolfan Iechyd Llanedern a Grŵp Meddygol Llanrhymni tra bod gwaith adeiladu yn mynd rhagddo.

 

Yn ogystal â gofod clinigol ychwanegol ar ffurf 15 ystafell ymgynghori, chwe ystafell driniaeth a phedair ystafell gyfweld, bydd yr Hyb hefyd yn gartref iamrywiaeth o glinigau iechyd arbenigol gan gynnwys gwasanaethau cymorth i blant a phobl iau, gofal cynenedigol a chwnsela.

 

Dywedodd Abigail Harris, cyfarwyddwr gweithredol cynllunio strategol Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro: "Rydym yn falch y bydd gwaith yn dechrau'n fuan ar y datblygiad newydd hwn sydd nid yn unig yn gwasanaethu cleifion presennol Llanedern a Phentwyn ond a fydd, gobeithio, yn diwallu anghenion trigolion y dyfodol.

 

"Rydym yn cydnabod yr angen am adeilad modern, addas i'r diben i wasanaethu'r gymuned leol sydd nid yn unig yn darparu gwasanaethau gofal iechyd meddygol ond sydd hefyd yn darparu gofod agored a chroesawgar ar gyfer gweithgareddau lles, corfforol a chymdeithasol. Bydd yr Hyb yn cynnal amrywiaeth o wasanaethau iechyd a lles o dan yr un to felly mae'n addas i'r cyhoedd."

 

Mae'r datblygiad yn cefnogi strategaeth Llywodraeth Cymru i gryfhau ac ehangu argaeledd gwasanaethau gofal sylfaenol, cymunedol a chanolradd lleol yn nes at adref ac allan o'r ysbyty, rhywbeth sy'n cael ei adleisio yn strategaeth 10 mlynedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro.

 

Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd: "Bydd ein buddsoddiad o £14 miliwn yn helpu i wella mynediad i amrywiaeth o wasanaethau gofal iechyd yn nes at adref i bobl sy'n byw yn Llanedern a Phentwyn.

 

"Rwy'n croesawu dechrau adeiladu'r Hyb Lles yn y Maelfa a fydd yn helpu i sicrhau y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro yn parhau i gefnogi ei drigolion am flynyddoedd i ddod."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Iechyd a Lles, y Cynghorydd Susan Elsmore: "Mae'r Cyngor a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cymru ill dau wedi ymrwymo i integreiddio a moderneiddio gwasanaethau a chyfleusterau iechyd a chymunedol er budd trigolion Caerdydd. Mae Hyb Lles y Maelfa yn gyfle gwych i gyflawni'r ymrwymiad hwn ac rwy'n edrych ymlaen at weld y datblygiad cyffrous yn mynd rhagddo."

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Mae rhaglen Hybiau Cymunedol y Cyngor wedi sicrhau bod darpariaeth gwasanaeth a chydweithio gydgysylltiedig mewn cymdogaethau â blaenoriaeth wrth ei wraidd felly rwy'n falch iawn o weld yr egwyddorion hyn yn cael eu hymestyn ymhellach, i wella gwasanaethau yn y Powerhouse a chyfrannu ymhellach at adfywio ardal y Maelfa ar gyfer y gymuned."

 

Fel rhan o'r datblygiad newydd, bydd man chwarae amlddefnydd newydd yn cael ei hadeiladu. Yn ogystal, bydd parcio am ddim ar y safle gyda thua 20 o leoedd parcio a chwe lle parcio hygyrch. Bydd 40 o leoedd ychwanegol ar gael ar safle presennol Canolfan Iechyd Llanedern ar ôl ei dymchwel. Mae'r Hyb yn elwa o drafnidiaeth gyhoeddus hygyrch fel rhan o'r gwaith o ailddatblygu canolfan siopa'r Maelfa.

 

Dywedodd Dr Roger Morris o Llan Healthcare: "Mae partneriaid a staff Llan Healthcare wrth eu bodd ac yn gyffrous iawn am yr Hwb Lles newydd yn Llanedern. Bydd yn darparu cyfleusterau gofal iechyd modern i fynd i'r afael ag anghenion gofal iechyd y boblogaeth leol, gan gynnwys cleifion ag anableddau.

 

"Bydd integreiddio â gwasanaethau lleol eraill yn ein galluogi i wella'r gofal o ansawdd uchel i gleifion a gynigir gan Llan Healthcare. Bydd yr ardaloedd integredig gan gynnwys y caffi a chyfleusterau cymunedol yn darparu amgylchedd deniadol a chroesawgar i'n cleifion a'n staff."