Back
Cofrestrwch – Peidiwch â cholli eich cyfle i bleidleisio yn etholiadau mis Mai

 


2/3/21
Cynhelir etholiadau'r Senedd a'r Comisiynydd Heddlu a Throseddu ledled Cymru ar 6 Mai 2021 ac mae Cyngor Caerdydd yn annog preswylwyr cymwys ar draws y ddinas i sicrhau eu bod wedi cofrestru i bleidleisio.

 

Yr wythnos hon, bydd llythyrau gan dîm Gwasanaethau Etholiadol yr awdurdod yn dechrau cyrraedd aelwydydd yn gofyn i breswylwyr gadarnhau manylion y pleidleiswyr cymwys yn yr eiddo, a'r dull pleidleisio - yn bersonol, drwy'r post neu drwy ddirprwy, y maent wedi'i ddewis er mwyn pleidleisio ym mis Mai.

 

Dylai preswylwyr ddarllen y wybodaeth yn ofalus ac os yw'r holl fanylion yn gywir, nid oes angen gwneud unrhyw beth.  Os oes angen gwneud newidiadau, er enghraifft yn achos unigolyn sydd wedi'i restru nad yw'n byw yn y cyfeiriad mwyach, dylai preswylwyr gysylltu â'r Cyngor drwy e-bostiogwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.ukneu ffonio 029 2087 2088.

 

Gall unrhyw aelod o'r aelwyd sy'n 14 oed neu hŷn nad yw wedi'i restru ar y llythyr gofrestru i bleidleisio ynwww.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisioEtholiad y Senedd eleni fydd y tro cyntaf y bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru, yn ogystal â dinasyddion tramor cymwys, yn gallu pleidleisio i ethol aelodau'r Senedd honno.

 

Dywedodd Paul Orders, Swyddog Canlyniadau Caerdydd: "Nid yw etholiadau'r Senedd a'r Comisynydd Heddlu a Throseddu ymhell i ffwrdd nawr ac maent yn gyfle pwysig i bobl yng Nghaerdydd leisio eu barn a chael dweud eu dweud ar bwy sy'n eu cynrychioli yn y Senedd ac ar draws ardal Heddlu De Cymru.

"Mae'r Llythyrau Hysbysu Aelwydydd rydym yn eu hanfon ar hyn o bryd yn ffordd o gadarnhau bod y cofnodion sydd gennym am bleidleiswyr cymwys yn gywir a gellir newid unrhyw wybodaeth y mae angen ei diweddaru mewn da bryd, cyn etholiadau mis Mai.

 

"Mae'n bwysig i breswylwyr wybod bod llawer iawn o waith eisoes yn cael ei wneud i sicrhau bod pobl yn gallu pleidleisio'n ddiogel ym mis Mai. Rydym yn rhoi trefniadau ar waith i'w helpu i gadw'n ddiogel yn yr orsaf bleidleisio - fel diheintydd dwylo, marciau ar y llawr i helpu pobl i gadw at reolau ymbellhau cymdeithasol, yr angen i wisgo masgiau wyneb a mwy.

 

"Ond rydym yn deall efallai y byddai'n well gan rai pobl beidio ag ymweld â gorsaf bleidleisio y tro hwn ac felly mae opsiwn hefyd i wneud cais i bleidleisio drwy'r post neu drwy ddirprwy."

 

Gall preswylwyr a hoffai bleidleisio drwy'r post wneud cais ymahttp://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/sut-i-fwrwch-pleidlais/pleidleisio-drwyr-post

neu drwy e-bostio gwasanaethauetholiadol@caerdydd.gov.uk i gael ffurflen gais. Y dyddiad cau i wneud cais i bleidleisio drwy'r post yw 5pm ddydd Mawrth 20 Ebrill 2021.

 

Fel arall, gall preswylwyr ddewis penodi dirprwy, rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio ar eu rhan, drwy wneud cais yma:https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/sut-i-fwrwch-pleidlais/pleidleisio-drwy-ddirprwycyn 5pm ddydd Mawrth, 27 Ebrill 2021.

 

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw hanner nos, dydd Llun 19 Ebrill.

 

Ychwanegodd Mr Orders: "Rydym yn disgwyl cynnydd yn nifer y ceisiadau am bleidleisiau post eleni felly rydym yn annog preswylwyr i wneud cais cyn gynted â phosibl, ac i gofio, oni bai eich bod wedi cofrestru i bleidleisio erbyn dydd Llun 19 Ebrill, na fyddwch yn gallu cymryd rhan yn etholiadau mis Mai."