Back
Lonydd wedi'u trawsnewid yn fannau diogel, gwyrdd sy'n Dda i Blant

5/3/2021

Mae menter newydd i drawsnewid lonydd a lonydd cefn yn fannau hwyliog, gwyrdd a diogel i blant gael chwarae, yn cael ei threialu yn Grangetown y mis hwn.

Nod partneriaeth ar y cyd rhwng Cyngor Caerdydd, Prifysgol Caerdydd a Phafiliwn y Grange, y Prosiect Lonydd Chwarae Diogel yw cynyddu cyfleoedd i blant chwarae'n ddiogel wrth hyrwyddo cydlyniant cymunedol a helpu i leihau ymddygiad gwrthgymdeithasol, fel tipio anghyfreithlon.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Mae sicrhau bod plant yn gallu cael mynediad i fannau diogel a hwyliog i chwarae yn hanfodol ac yn cefnogi ymrwymiad Caerdydd i gael ei chydnabod yn fyd-eang gan Bwyllgor y DU ar gyfer UNICEF, fel Dinas sy'n Dda i Blant.

"Mae gan blant yr hawl i chwarae a thrwy eu galluogi i chwarae'n ddiogel ger eu cartrefi eu hunain mae'n golygu y gallant fwynhau'r awyr agored, gweld ffrindiau a bod yn agos at eu teuluoedd.  Bydd y cynllun yn helpu i ailgysylltu cymunedau, gan roi cyfle i breswylwyr adennill y gofod a chreu amgylcheddau croesawgar, diogel a deniadol i bawb eu mwynhau."

Dywedodd y Cynghorydd Michael Michael, yr Aelod Cabinet dros Strydoedd Glân a'r Amgylchedd: "Mae gan y cyngor nifer o fentrau ar waith, fel yr ymgyrch Carwch Eich Cartref i greu ymdeimlad o falchder mewn cymunedau ledled y ddinas. Ein nod yw gwneud ymddygiad gwrthgymdeithasol fel taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon yn gymdeithasol annerbyniol, fel y gallwn weithio gyda chymunedau i wella'r strydoedd ledled y ddinas.

 

"Bydd y cynllun newydd hwn yn rhoi pwrpas newydd i'r lonydd cefn yn Grangetown, fel y gall plant fwynhau gweithgareddau awyr agored ar garreg eu drws mewn ffordd sy'n ddiogel o ran COVID. Drwy ddefnyddio'r mannau cyhoeddus hyn yn fwy rheolaidd, a phreswylwyr yn cymryd 'perchnogaeth' o'r ardaloedd hyn, credwn y bydd ymddygiad gwrthgymdeithasol yn lleihau."

 

Dywedodd Lynne Thomas, Rheolwr Prosiect y Porth Cymunedol:"Mae'r Porth Cymunedol yn falch iawn o bartneru gyda Chyngor Caerdydd a Phafiliwn Grange ar y prosiect cyffrous hwn i drawsnewid dau le yn Grangetown. Gan ddefnyddio egwyddorion cyd-gynhyrchu, edrychwn ymlaen at gefnogi trigolion i ddatblygu a gweithredu eu huchelgeisiau i greu mannau gwyrddion disglair, croesawgar, diogel ar gyfer chwarae a rhyngweithio cymunedol lleol dros ben. 

 

"Byddem wrth ein bodd i'r prosiect hwn fod yn gatalydd ar gyfer trawsnewid mannau nas defnyddir yn ehangach ar draws Grangetown ac rydym yn awyddus i archwilio cyllid ychwanegol a chyfleoedd partneriaeth. Enwebwyd cyfanswm o ugain lôn gan drigolion Grangetown o ganlyniad i'r alwad agored; mae'r awydd a'r gefnogaeth i'r prosiect hwn yn y gymuned yn enfawr ac rydym yn annog busnesau a chyllidwyr a allai ein helpu i ehangu'r prosiect i gysylltu â ni."

 

Mae gweledigaeth Dinas sy'n Dda i Blant Caerdydd yn rhoi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas.

Mae UNICEF UK wedi cydnabod y rôl arloesol y mae Cyngor Caerdydd wedi'i chwarae wrth sefydlu'r Rhaglen Dinas sy'n Dda i Blant yn y DU a'n bod wedi gwneud cynnydd da o ran ymgorffori hawliau plant yn ein strategaethau a'r ffordd yr ydym yn cefnogi ac yn meithrin ein pobl ifanc.

I gydnabod hyn, mae UNICEF UK wedi argymell bod y Cyngor yn gwneud cais am gael cydnabyddiaeth fel Dinas sy'n Dda i Blant yn nhymor yr hydref 2021.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Byddwn yn parhau i gyflawni ein gweledigaeth i ymgorffori hawliau plant ymhellach yn ein cymunedau, gan sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu cynnwys yn ystyrlon yn y penderfyniadau sy'n effeithio arnynt."

Mae'r cynllun diweddaraf hwn yn un o nifer o brosiectau i'w cyflawni drwy Grant Cyfleoedd Chwarae Cymru Gyfan sy'n cefnogi ac yn cynyddu cyfleoedd chwarae, yn unol ag Asesiad Digonolrwydd Cyfleoedd Chwarae Caerdydd. 

Mae ymgynghori lleol yn mynd rhagddo ar hyn o bryd a bydd trigolion lleol a sefydliadau cymunedol yn helpu i lywio dyluniad y lonydd.  Os bydd yn llwyddiannus, gellid ehangu'r cynllun ar draws y ddinas. 

Mae'r Porth Cymunedol yn brosiect ymgysylltu blaenllaw ym Mhrifysgol Caerdydd sydd wedi ymrwymo i adeiladu partneriaeth hirdymor gyda thrigolion a busnesau Grangetown, gan greu llwybrau rhwng y Brifysgol a'r gymuned a hwyluso'r gwaith o gyd-gynhyrchu prosiectau er budd pawb.

 

Mae'r Porth Cymunedol wedi cefnogi mwy na 66 o brosiectau cymuned-prifysgol gan wneud cysylltiadau rhwng staff y Brifysgol, myfyrwyr a thrigolion Grangetown er mwyn helpu i ddod â syniadau a arweinir gan y gymuned yn fyw. Yn 2019, daeth Prifysgol Caerdydd yn warcheidwad asedau Pafiliwn y Grange, gan helpu'r gymuned i godi dros £2m i adeiladu cyfleuster hygyrch o ansawdd uchel dan arweiniad preswylwyr yng Ngerddi'r Grange sy'n darparu gofod fforddiadwy i'w logi, caffi sy'n canolbwyntio ar y gymuned, mannau gweithio ar y cyd a gardd fioamrywiol a lawnt ar gyfer chwarae, iechyd a llesiant a thyfu tymhorol.

 

Ymunwch â'r sgwrs #GtownPlayLanes

Crewr delwedd: Hester Buck