05/03/21
Mae cyllideb adfer ôl-bandemig i Gaerdydd gwerth miliynau o bunnoedd - wedi ei llunio er mwyn helpu i greu swyddi newydd, darparu cartrefi cyngor newydd, adeiladu ysgolion gwell a diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol - wedi ei chytuno gan Gyngor Caerdydd.
Bydd miliynau nawr yn cael eu gwario yn helpu i godi'r ddinas ar ei thraed eto wrth iddi geisio gwella o effeithiau'r pandemig.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Hon fydd un o'r cyllidebau pwysicaf y mae'r cyngor hwn wedi ei phennu. Mae COVID-19 wedi effeithio arnom i gyd a bydd yn effeithio ar ein dyfodol am flynyddoedd lawer i ddod. Wedi dweud hynny, mae ein dinas wedi gwneud gwaith hynod, yn dod ynghyd, i geisio atal lledaeniad y feirws. Ar hyn o bryd rydym yn brwydro'r ail don, ond mae gobaith ar y gorwel wrth i'r rhaglen frechu barhau i gael ei chyflwyno. Gyda hynny mewn golwg, rydym yn edrych tua'r dyfodol, gan gynllunio sut rydym yn gwella wedi'r pandemig a sut rydym yn paratoi ein dinas ar gyfer yr heriau sydd o'n blaenau.
"Mae'n rhaid i'r cyngor hwn fod ar flaen y gad o ran rhoi Caerdydd yn ôl ar waith. Byddwn yn gwneud popeth yn ein gallu i greu swyddi y mae mawr eu hangen, gan adeiladu ysgolion gwell a chartrefi cyngor newydd i'r rhai mwyaf anghenus. Rydym hefyd am helpu i ailfywiogi arlwy diwylliannol y ddinas wrth adeiladu Caerdydd werddach a glanach - dinas sy'n addas ar gyfer y dyfodol - gyda llawer i edrych ymlaen ato mewn byd ôl-bandemig, ac mae angen i ni wneud hyn wrth ddiogelu ein gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi chwarae rhan mor hanfodol yn cefnogi ein trigolion drwy gydol y pandemig."
Neithiwr fe gytunwyd ar gynlluniau gwariant pum mlynedd sylweddol i helpu Caerdydd i adfer yn llwyddiannus wedi'r pandemig, gan gynnwys:
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, y Cyngh. Weaver: "Bu gan y cyngor hwn uchelgeisiau sylweddol i'n dinas erioed. Rydym bob amser wedi bod eisiau'r gorau i'n trigolion ac rydym yn benderfynol o sicrhau bod Caerdydd yn gwella'n gyflym o effeithiau'r pandemig.
"Bydd hyn yn golygu dwyn ynghyd a chefnogi ystod eang o fesurau a gynlluniwyd i helpu i adnewyddu Caerdydd, gan greu tirwedd economaidd lle gellir creu swyddi wrth i ni adfer ar ôl y flwyddyn hynod anodd hon. Rydym yn credu bod ein cyllideb yn creu llwybr clir allan o'r pandemig, a all fod o fudd i bawb sy'n byw yma.
"Eleni cafodd Caerdydd gynnydd gwell na'r disgwyl o 3.8% mewn cyllid gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn £18m yn ychwanegol yn nhermau arian parod. Fodd bynnag, er gwaethaf y cynnydd hwn yr ydym yn hynod falch o'i gael nid yw'n ddigon fyth i dalu am y gwasanaethau cyhoeddus hanfodol a ddarparwn. Mewn gwirionedd, mae'n gadael bwlch cyllidebol gwerth £15.594m yn ein cyllid, bwlch y bydd yn rhaid inni ddod o hyd i ffordd o'i bontio er mwyn parhau i ddarparu'r gwasanaethau hanfodol sydd wedi bod mor werthfawr i breswylwyr dros y flwyddyn ddiwethaf. Hefyd, mae'n rhaid i ni bontio'r bwlch hwn ar adeg pan fo'n rhaid i ni wneud popeth yn ein gallu i gefnogi ein preswylwyr a'n heconomi ar ôl COVID."
Bydd y Cyngor yn pontio'r bwlch ariannu o £15.594m mewn dwy ffordd. Y rhain yw:
Ychwanegodd y Cyng Weaver: "Daw'r rhan fwyaf o'r arian y mae'r Cyngor yn ei gael (72%) o grantiau gan Lywodraeth Cymru. Daw'r 28% sy'n weddill o'r Dreth Gyngor. Mae'r rhan fwyaf o'n cyllideb - tua dwy ran o dair - yn cael ei gwario ar gynnal ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol. Heb y dreth gyngor, mae'n bosibl y collid llawer o'r gwasanaethau pwysig eraill a ddarparwn ac sydd wedi bod mor werthfawr drwy gydol y pandemig, neu gallent wynebu toriadau difrifol.
Rwy'n hapus i ddweud ein bod wedi gallu gostwng ein cyfrifiadau cychwynnol o gynnydd o 4% yn y Dreth Gyngor i lawr at 3.5%. Bydd hyn yn gynnydd Treth Gyngor llai na'r cynnydd cyfartalog yng Nghymru a fydd yn golygu 85c yr wythnos ar eiddo Band D, llai na £4 y mis. Mae'n sylweddol is na'r cynnydd cyfartalog o 5% yn y dreth gyngor a welir yn Lloegr. Byddwn yn pontio rhan helaeth y bwlch cyllidebol drwy wneud arbedion yn hytrach na chyda'r cynnydd hwn yn y Dreth Gyngor, ond bydd hyn yn ein helpu i gynnal y gwasanaethau y mae ein dinasyddion wedi dod i ddibynnu arnynt wrth i ni gynllunio ar gyfer dyfodol gwell ar ôl pandemig. Bydd unrhyw un sy'n cael trafferth talu ac sy'n gymwys wrth gwrs yn cael cyfle i gael cymorth drwy gynllun Gostyngiad y Dreth Gyngor.
"Dangosodd canlyniadau ein Hymgynghoriad ar y Gyllideb fod preswylwyr eisiau i'r cyngor hwn wneud yr hyn a all i arwain adferiad economaidd y ddinas drwy gefnogi busnesau a gweithwyr drwy gyflwyno cynlluniau adfywio mawr; maent am inni fuddsoddi yn ein hysgolion, a chadw ein cymunedau'n ddiogel. Y blaenoriaethau hynny sydd bwysicaf yn y gyllideb hon."
Fel rhan o'r gyllideb bydd y cyngor hefyd yn cynyddu ei wariant yn y meysydd canlynol: