Back
Gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr

10/3/2020

O ddydd Llun 15, bydd ysgolion yn croesawu gweddill y plant oedran cynradd a disgyblion oedran uwchradd hŷn. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran sicrhau bod ein hysgolion yn gallu aros ar agor. 

Er mwyn i hyn ddigwydd, cadwch eich hun, eich teuluoedd a staff ein hysgol yn ddiogel drwy ddilyn y rheolau hyn:

😷Gwisgwch orchudd wyneb yn ystod amseroedd gollwng a chasglu

2📏Cadwch 2️ fetr ar wahân i eraill

Peidiwch â chyrraedd yn gynnar i ollwng/ codi eich plentyn er mwyn osgoi gormod o bobl yn casglu wrth gatiau'r ysgol

⚠️Dylech osgoi ymgynnull gyda rhieni eraill o amgylch mynedfeydd yr ysgol a gadewch yn syth ar ôl yr amseroedd gollwng neu gasglu. Peidiwch â chael eich temtio i aros i sgwrsio.

🛴Cerddwch neu ewch ar sgwter neu feic lle bo modd.

🚶Os oes rhaid i chi yrru,parciwch ymhell i ffwrdd o'r ysgol a cherddwch weddill y ffordd.

🅿I helpu gyda diogelwch disgyblion a mesurau cadw pellter cymdeithasol, peidiwch â pharcio ar y palmant

🚗Peidiwch â derbyn cynnig o lifft i'r ysgol gan rieni eraill, oni bai nad oes gennych ddewis arall

🧼Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall pwysigrwydd golchi ei ddwylo'n rheolaidd

 

Cofiwch hefyd:

️ Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os yw'n teimlo'n sâl, hyd yn oed os nad ydych yn siŵr ai Coronafeirws ydyw.

️ Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os ydy e/hi neu unrhyw un arall yn yr aelwyd yn dangos unrhyw un o symptomau COVID-19

️ Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os ydy e/hi neu unrhyw un arall yn yr aelwyd yn aros am ganlyniad prawf

️ Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os ydy e/hi wedi'i nodi fel cyswllt agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd

Er bod ysgolion yn ailagor i rai disgyblion, nid yw Coronafeirws wedi diflannu. Atgoffwn rieni a gofalwyr na chaniateir cymysgu y tu allan i'r ysgol o hyd, hyd yn oed os ydynt yn yr awyr agored a hyd yn oed os yw plant yn yr un swigod yn yr ysgol.

Mae hyn yn cynnwys cysgu dros nos, partïon a sesiynau chwarae gan y gallai hyn gynyddu lledaeniad y feirws ac arwain at fwy o gyfyngiadau.


For more information for parents and carers please visit: Covid-19 FAQs for parents and pupils (cardiff.gov.uk)