Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 10 Mawrth

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Aros gartref. Achub bywydau. Diogelu'r GIG. Gyda'n gilydd byddwn yn #CadwCaerdyddynDdiogel

I gael yr holl wybodaeth ddiweddaraf am COVID-19 yng Nghymru, ewch i

www.llyw.cymru/coronafeirws

 

Gwybodaeth bwysig i rieni a gofalwyr

O ddydd Llun 15, bydd ysgolion yn croesawu gweddill y plant oedran cynradd a disgyblion oedran uwchradd hŷn. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae o ran sicrhau bod ein hysgolion yn gallu aros ar agor.

Er mwyn i hyn ddigwydd, cadwch eich hun, eich teuluoedd a staff ein hysgol yn ddiogel drwy ddilyn y rheolau hyn:

  • Gwisgwch orchudd wyneb yn ystod amseroedd gollwng a chasglu
  • Cadwch 2️ fetr ar wahân i eraill
  • Peidiwch â chyrraedd yn gynnar i ollwng/ codi eich plentyn er mwyn osgoi gormod o bobl yn casglu wrth gatiau'r ysgol
  • Dylech osgoi ymgynnull gyda rhieni eraill o amgylch mynedfeydd yr ysgol a gadewch yn syth ar ôl yr amseroedd gollwng neu gasglu. Peidiwch â chael eich temtio i aros i sgwrsio
  • Cerddwch neu ewch ar sgwter neu feic lle bo modd
  • Os oes rhaid i chi yrru,parciwch ymhell i ffwrdd o'r ysgol a cherddwch weddill y ffordd
  • I helpu gyda diogelwch disgyblion a mesurau cadw pellter cymdeithasol, peidiwch â pharcio ar y palmant
  • Peidiwch â derbyn cynnig o lifft i'r ysgol gan rieni eraill, oni bai nad oes gennych ddewis arall
  • Gwnewch yn siŵr bod eich plentyn yn deall pwysigrwydd golchi ei ddwylo'n rheolaidd

Cofiwch hefyd:

  • Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os yw'n teimlo'n sâl, hyd yn oed os nad ydych yn siŵr ai Coronafeirws ydyw
  • Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os ydy e/hi neu unrhyw un arall yn yr aelwyd yn dangos unrhyw un o symptomau COVID-19
  • Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os ydy e/hi neu unrhyw un arall yn yr aelwyd yn aros am ganlyniad prawf
  • Peidiwch ag anfon eich plentyn i'r ysgol os ydy e/hi wedi'i nodi fel cyswllt agos ag achos COVID-19 a gadarnhawyd

Er bod ysgolion yn ailagor i rai disgyblion, nid yw Coronafeirws wedi diflannu. Atgoffwn rieni a gofalwyr na chaniateir cymysgu y tu allan i'r ysgol o hyd, hyd yn oed os ydynt yn yr awyr agored a hyd yn oed os yw plant yn yr un swigod yn yr ysgol.

Mae hyn yn cynnwys cysgu dros nos, partïon a sesiynau chwarae gan y gallai hyn gynyddu lledaeniad y feirws ac arwain at fwy o gyfyngiadau.

Derllanwch fwy yma:
Cwestiynau Cyffredin i rieni a disgyblion (caerdydd.gov.uk)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 10 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:174,144(Cyfanswm ddoe: 3,343)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal: 4,133 (Dos 1) 2,478 (Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,124 (Dos 1) 747 (Dos 2)
  • 80 a throsodd: 18,969 (Dos 1) 233 (Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen: 24,454 (Dos 1) 16,620 (Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol: 8,396 (Dos 1) 4,502 (Dos 2)
  • 75-79: 14,025 (Dos 1) 602 (Dos 2)
  • 70-74: 20,127 (Dos 1) 3,418 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,197 (Dos 1) 939 (Dos 2)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • 65-69: 15,836 (Dos 1) 213 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 16,537 (Dos 1) 1,251 (Dos 2)
  • 60-64: 7,740 (Dos 1) 134 (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (27 Chwefror - 05 Mawrth Chwefror)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

09 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 144

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 39.2 (Cymru: 41.9 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,630

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 989.4

Cyfran bositif: 4.0% (Cymru: 4.5% cyfran bositif)