Back
Bydd beicffordd Caerdydd ‘dros dro’ newydd, yn agor i’r cyhoedd ar Ddydd Llun,15 Mawrth.

.

 12/03/21

Bydd beicffordd ‘dros dro' newydd, ar wahan, a fydd yn rhedeg o Heol y Gadeirlan i Blas Dumfries yn agor i'r cyhoedd ar 15 Mawrth.

Mae'r llwybr newydd yn rhan o'r feicffordd traws-ddinas. Bydd gwaith sy'n mynd rhagddo cyn hir yn ei weld yn ymestyn i ddiwedd Stryd Wellington, tua gorllewin y ddinas, ac i'r gyffordd â Heol Lydan (Broadway) ar Heol Casnewydd, i'r dwyrain.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Rydym am sicrhau mai Caerdydd yw'r ddinas feicio orau yn y Deyrnas Gyfunol ac rydym yn bwriadu adeiladu rhwydwaith feicffyrdd integredig o ganol y ddinas sy'n cysylltu safleoedd strategol a chymdogaethau, fel a nodir yn y CDLl mabwysiedig presennol.

"Ar y cyfan, bydd y llwybrau newydd yn cael eu gwahanu oddi wrth draffig arall ar y ffordd, gan wneud beicio'n fwy diogel, yn haws ac yn brofiad llawer gwell. Rydyn ni eisiau beicio i ddod yn opsiwn mwy deniadol i breswylwyr, teuluoedd ac ymwelwyr, gan roi cyfle i bobl fwynhau'r holl fanteision iechyd a ffitrwydd y gall eu cynnig.

"Gyda'r cyfyngiadau ar waith oherwydd y pandemig parhaus, a gweithgareddau chwaraeon a champfeydd ar gau ar hyn o bryd, mae trigolion ar draws y ddinas eisoes yn dewis cerdded a beicio fel rhan o'u hymarfer corff bob dydd.

"Mae awydd gwirioneddol am well seilwaith beicio felly rydym yn cyflwyno ein cynlluniau i ddatblygu llwybrau beicio i helpu pobl i symud o amgylch y ddinas wrth i'r cyfyngiadau gael eu llacio."

Mae'r feicffordd ‘dros dro' newydd wedi'i hadeiladu gan ddefnyddio cyrbau rwber a folltiwyd i'r llawr a ffyn traffig sy'n gwahanu'r beicwyr oddi wrth ddefnyddwyr eraill y ffordd. Pan fydd y cynllun parhaol yn cael ei weithredu, bydd yn golygu y bydd y ffordd gyfan wedi ei hailgynllunio gan ddefnyddio cyrbau parhaol i wahanu'r llwybr beicio. Bydd palmentyddhefyd yn cael eu lledu ar gyfer cerddwyr.

Mae'r llwybr newydd hwn yn defnyddio signalau traffig ar wahân ar bob un o'r cyffyrdd i feicwyr eu defnyddio. Bydd modurwyr a cherddwyr yn dilyn goleuadau traffig gwahanol. Bydd staff Cyngor ar y stryd i gynorthwyo'r cyhoedd pan fydd y feicffordd yn agor, wrth i bob defnyddiwr ffordd ddod yn gyfarwydd â chynllun a threfniadau newydd y ffordd.

Bydd y llwybr traws-ddinas yn darparu cysylltiadau allweddol â beicffyrdd eraill yn y ddinas, gan gynnwys:

 

  • Y feicffordd a agorwyd yn ddiweddar o Heol Ddwyreiniol y Bont-faen i Rodfa'r Gorllewin drwy Erddi Sophia
  • Y feicffordd bresennol rhwng Stuttgart Strasse a Theras Cathays, trwy Gilgant Eglwys Andreas, Plas Eglwys Andreas a Heol Senghennydd
  • Taith Taf sy'n cysylltu gogledd a de'r ddinas ar hyd yr afon.

 

Y beicffyrdd dros dro eraill y gweithir arnynt neu yr ymgynghorir arnynt ar hyn o bryd, yw:

 

  • Llwybr traws-ddinas de Caerdydd - sy'n cysylltu Rhodfa Lloyd George â Stryd Herbert a Stryd Tyndall.
  • Beicffordd Heol Albany sy'n cysylltu'r feicffordd bresennol ar Heol Wellfield, a allai maes o law gysylltu Heol Richmond â'r llwybr traws-ddinas ar Heol Casnewydd.

 

Mae pob cynllun beicffordd yng Nghaerdydd yn destun ymgynghoriad cyhoeddus, fel y gall y Cyngor weithio gyda thrigolion a busnesau wrth i ni ddatblygu'r dyluniadau ar gyfer pob llwybr. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i wella trafnidiaeth gynaliadwy yn y ddinas, er mwyn sicrhau bod cerdded a beicio'n opsiwn mwy ymarferol ar gyfer trigolion ac ymwelwyr.

Aeth llwybr Heol y Gadeirlan i Blas Dumfries drwy ymgynghoriad cyhoeddus ym mis Chwefror 2020. Mae'n ffurfio rhan o Bapur Gwyn Trafnidiaeth y cyngor, sy'n nodi gweledigaeth drafnidiaeth y ddinas ar gyfer y 10 mlynedd nesaf.  Ers yr ymgynghori cychwynnol hwnnw mae ymgysylltu wedi parhau fel rhan o Gynllun Adfer COVID y Cyngor ac fel rhan o'r ymgynghoriad ar ddyluniad manwl y cynllun parhaol.