Back
CDLl newydd i Gaerdydd

12/03/21


Bydd yr Adolygiad o'r Cynllun Datblygu Lleol Drafft a'r Cytundeb Darparu Drafft yn cael eu cyflwyno i'r Cabinet a'r Cyngor Llawn ddydd Iau 18 Mawrth, i gael y gymeradwyaeth angenrheidiol i gyflwyno'r dogfennau i Lywodraeth Cymru.

Yn dilyn penderfyniad y Cyngor Llawn ym mis Tachwedd, cynhaliwyd ymgynghoriad ar y ddwy ddogfen rhwng 7 Ionawr 2020 a 4 Chwefror 2021. Daeth ystod eang o ymatebion i law gan aelodau'r cyhoedd, cynghorau cymunedol, adeiladwyr eiddo, cymdeithasau tai a lobïwyr.

Mae'r adroddiad yn cefnogi'r cynnig i ddisodli CDLl Caerdydd yn gyfan gwbl, a bydd yr ymgynghoriad cyhoeddus yn dechrau ym mis Mai. 

Mae'r holl wybodaeth berthnasol wedi'i hasesu a'i bwydo i mewn i'r dogfennau drafft, a bydd unrhyw sylwadau sy'n dod i law ar y cynllun ei hun yn cael eu bwydo i ymgyngoriadau a drefnwyd yn y dyfodol er mwyn darparu CDLl newydd ar gyfer y ddinas o 2021 hyd at 2036.

Mae CDLl yn ymateb i'r demograffig, y materion a'r anghenion presennol a wynebwn drwy nodi strategaeth, cynigion a pholisïau ar sut y bydd y ddinas yn newid yn y dyfodol. Os nad oes gan y Cyngor gynllun datblygu lleol, dim ond hyn a hyn o reolaeth sydd ganddo dros y math o ddatblygiadau newydd a'r ardal ddaearyddol lle caent eu hadeiladu, a fyddai yn y pen draw yn arwain at ddatblygiadau anstrategol, anghynaladwy a heb eu cynllunio.

Hyd yma, mae'r cynllun presennol wedi gweld ystod a dewis eang o gartrefi a swyddi newydd yn cael eu creu ynghyd â sicrhau seilwaith ategol newydd drwy gytundebau A106. Mae'r broses o gyflwyno adroddiad monitro blynyddol yn dangos bod y cynllun yn cyflawni y mwyafrif helaeth o'i dargedau. Mae'n darparu cyd-destun polisi wrth bennu tua 2,500 o geisiadau cynllunio bob blwyddyn.  

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: 

"Roedd yn rhaid i CDLl presennol y ddinas ymateb i gyflenwad tai lleol cyfyngedig iawn a olygai fod angen iddo ddwyn ymlaen nifer fawr o gartrefi newydd i ddiwallu ein hanghenion. Heb fynd ati i adeiladu'r holl dai hyn, a'r tai fforddiadwy a chymdeithasol cysylltiedig, byddai ein hargyfwng tai yn llawer gwaeth, a bydd hyd yn oed mwy o bobl yn methu fforddio cartref.

 

"Gan fod y cartrefi hyn bellach yn cael eu hadeiladu, rydym yn disgwyl man cychwyn gwahanol i'n CDLl newydd, gyda chyflenwad tai cryfach yn bodoli o'r cychwyn. "Ond bydd rhaid iddo ymateb i'r heriau newydd yr ydym yn eu hwynebu, megis mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ansawdd aer gwael, gwella lles cenedlaethau'r dyfodol ac ymateb i'r materion a godwyd gan y pandemig parhaus.

 

"Rydym yn bwriadu cynnal trafodaeth agored a gonest â thrigolion am ddyfodol ein dinas, yn enwedig ynglŷn â'r dewisiadau sydd rhaid eu cydbwyso o ran materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol a fydd yn llywio'r cynllun. Rydym yn arbennig o awyddus i wrando ar bobl ifanc a phobl nad ydynt fel arfer yn cymryd rhan mewn ymgyngoriadau. "

 

Bydd y CDLl presennol yn dal i fod ar waith nes bod y CDLl newydd wedi'i fabwysiadu, fydd yn cymryd tair blynedd a hanner i'w gyflawni ac sy'n cynnwys sawl cam ymgynghori ac ymgysylltu amrywiol gyda'r cyhoedd a rhanddeiliaid.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Ymgynghoriad 8 wythnos rhwng Mai 2021 a Gorffennaf 2021 ar weledigaeth, materion ac amcanion drafft y CDLl newydd ac Adroddiad Cwmpasu ar yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig (ACI) drafft
  • Ymgynghoriad 16 wythnos rhwng Mai 2021 ac Awst 2021 ar y galw am safleoedd ymgeisiol
  • Ymgynghoriad 10 wythnos rhwng Tachwedd 2021 a Chwefror 2022, ar y dewis o safleoedd strategol
  • Ymgynghoriad 8 wythnos rhwng Hydref 2022 a Thachwedd 2022 ar y Strategaeth a Ffefrir ac adroddiad cychwynnol yr ACI
  • Ymgynghoriad 8 wythnos terfynol rhwng Hydref 2023 a Thachwedd 2023 ar y Cynllun ar Adnau a'r Adroddiad ACI terfynol

Ar ôl i'r ymgynghoriad cyhoeddus hwn ddod i ben a phan fydd y dogfennau'n derfynol, bydd proses i'w dilyn cyn y gellir mabwysiadu'r CDLl. Bydd y broses hon yn dilyn y llinell amser ganlynol:

  • Bydd y Cynllun ar Adnau a'r ACI Terfynol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2024
  • Bydd yr Arolygydd Cynllunio yn eu gwerthuso rhwng Mawrth 2024 a Medi 2024
  • Disgwylir i Lywodraeth Cymru ddychwelyd yr adroddiad Arolygu ym Medi 2024
  • Adroddiad i'r Cyngor Llawn i fabwysiadu'r CDLl diwygiedig ym mis Hydref 2024.

Gair i'r Golygydd:

  • Yn unol â'r ddeddfwriaeth, bu'n rhaid i Gyngor Caerdydd gynnal adolygiad llawn o'i Gynllun Datblygu Lleol, gan fod dros 4 blynedd wedi mynd heibio ers mabwysiadu'r cynllun ac mae'n ofyniad statudol i gynnal adolygiad llawn.