Back
Mwy o laswellt Caerdydd i dyfu tan fis Medi
Bydd natur yng Nghaerdydd yn cael hwb eleni gyda mwy o drefniadau 'un toriad', lle nad yw'r glaswellt yn cael ei dorri tan fis Medi.

Mae safleoedd newydd yn cael eu cyflwyno mewn parciau ac ar briffyrdd diogel, fel rhan o ymateb Un Blaned y Cyngor i'r argyfwng hinsawdd a bioamrywiaeth, ac maent yn cwmpasu ardal o 3.8 hectar.

Mae'r ardaloedd ychwanegol hyn yn golygu bod 87 hectar o dir y cyngor yn cael ei reoli fel hyn bellach (sy'n cyfateb i tua 161 o gaeau pêl-droed).

Mae mwy na 9 o'r 87 hectar yn cael eu rheoli drwy ddull 'torri a chodi' ychwanegol, i waredu’r toriadau glaswellt o'r ardal a gwella’r amodau ar gyfer blodau a bioamrywiaeth ymhellach.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bob blwyddyn, rydym yn derbyn llawer mwy o geisiadau gan breswylwyr i dorri'r glaswellt nag i’w adael i dyfu'n wyllt, ond mae'r dirywiad mewn pryfed peillio, y mae'n bwysig cofio bod ein cyflenwadau bwyd yn dibynnu arnynt, yn peri pryder. Rhaid i ni wneud y peth iawn a chwarae ein rhan i wrthdroi'r duedd honno.

"Bydd arwyddion yn cael eu codi ar y safleoedd newydd i esbonio gwerth y ffordd newydd hon o reoli glaswelltiroedd, a fydd dros amser yn helpu i ddarparu cynefinoedd gwerthfawr i fywyd gwyllt. Mae'n bwysig iawn bod pobl yn deall pam ein bod ni’n gwneud hyn - nid yw'n ymwneud â thorri costau, rydym yn gwybod o flynyddoedd blaenorol y bydd unrhyw arbedion yn fach iawn - mae’n ymwneud â gwneud y newidiadau sydd eu hangen i fynd i'r afael â heriau'r argyfyngau bioamrywiaeth a hinsawdd yr ydym i gyd yn eu hwynebu."

Mae ymarfer mapio, a gynhaliwyd dros y 12 mis diwethaf, yn golygu bod mapiau digidol o'r safleoedd hyn sy'n cael eu rheoli'n fwy sympathetig bellach ar gael i breswylwyr eu gweld.

Mae gwaith monitro bioamrywiaeth yn cael ei wneud ar draws y safleoedd hyn i nodi’r amrywiaeth o wahanol rywogaethau sydd eisoes yn bresennol ar y safleoedd hyn. Defnyddir y wybodaeth hon i lywio cynlluniau ar gyfer y dyfodol fel y gellir blaenoriaethu safleoedd sydd â'r ystod ehangaf o fioamrywiaeth am gymorth pellach, megis cyflwyno dulliau 'torri a chodi', neu rannu safleoedd yn adrannau y gellir eu torri mewn blynyddoedd gwahanol, gan sicrhau bod bob amser ardal lle nad yw’r glaswellt yn cael ei dorri i gefnogi bywyd gwyllt yn ystod misoedd y gaeaf.