Back
Cael gwared â gollyngiadau o'r bysiau sy’n llygru gwaethaf yn y ddinas


 19/03/21

 

Bydd 49 o'r bysiau mwyaf llygredig sydd ar waith yng Nghaerdydd yn cael eu hôl-ffitio â thechnoleg glanhau ecsôst i leihau cyfanswm allyriadau Nitrogen Ocsid (NOx) o'r cerbydau hyn gan 97%.

Bydd y gwaith ôl-ffitio ac uwchraddio yn sicrhau y bydd y bysiau sy'n cynnwys y dechnoleg dan sylw yn gollwng yr un faint o NOx â bws modern gydag injan Euro VI (6).

Mae ansawdd aer gwael yn cael ei gydnabod fel un o'r bygythiadau mwyaf i iechyd y cyhoedd, ar ôl ‘smygu a gordewdra, gyda Nitrogen Deuocsid (NO2) a deunydd gronynnol yn bryder mawr i iechyd dynol.  Mae'r Cyngor wedi dyfeisio Cynllun Aer Glân gyda chyllid o ychydig dros £19m gan Lywodraeth Cymru i leihau lefelau NO2  yng nghanol y ddinas - yn Stryd y Castell yn benodol - cyn gynted â phosibl.  

Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: "Hawl yw anadlu aer glân a chael mynediad i amgylchedd iach, nid braint. Dyna pam mae'n rhaid i ni gymryd camau pendant a pharhaol nawr er budd cenedlaethau heddiw a fory.

"Rydym yn croesawu cynllun Cyngor Caerdydd a fydd yn gwella ansawdd aer yn ein prifddinas ac yn cyfrannu at Gymru lanach, iachach a mwy ffyniannus."

Amlinellodd achos busnes llwyddiannus y Cynllun Aer Glân, a gyflwynwyd i Lywodraeth Cymru, gynlluniau'r cyngor i leihau allyriadau o fysiau a thacsis, yn ogystal ag ailgynllunio'r ffyrdd yng nghanol y ddinas, i roi mwy o le ar y ffyrdd i feicwyr a cherddwyr.

Bydd y bysiau a gaiff eu hôl-ffitio yn cael eu defnyddio ar hyd llwybrau penodol yn y ddinas - sef Ardaloedd Rheoli Ansawdd Aer (AQMA) - pan fo ansawdd aer yn peri pryder mewn cymunedau penodol.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cyng. Caro Wild: "Mae'r cyngor wedi ymrwymo i wella ansawdd aer yn y ddinas, a fydd yn ei dro yn gwella iechyd y cyhoedd.  Mae'n amlwg bod teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus - ar fws yn benodol - wedi cael ei effeithio gan y pandemig, ond rwy'n hyderus y bydd y diwydiant yn ffynnu eto, gan fod llawer o drigolion yn dibynnu ar deithio ar fws fel rhan o'u bywyd bob dydd.

"Yn ogystal â gwella'r allyriadau o fysiau, rwy'n falch o glywed y bydd 36 o fysiau trydan yn ymuno â fflyd Bws Caerdydd yn hydref 2021, a fydd yn lleihau allyriadau o'u fflyd ymhellach."

Yn dilyn ceisiadau llwyddiannus gan Bws Caerdydd a Stagecoach i'r Gronfa Aer Glân, mae £561,612 wedi'i ddyfarnu i'r cwmnïau bysiau. Dyfarnwyd £191,920 i Bws Caerdydd i ôl-ffitio 20 bws, ac mae £369,692 wedi'i ddyfarnu i Stagecoach i ôl-ffitio 29 o gerbydau, sef 80% o'r gost o brynu a gosod yr offer. Bydd y gweithredwyr bysiau yn talu'r 20% o'r gost sy'n weddill.

Dywedodd Nigel Winter, Rheolwr Gyfarwyddwr Stagecoach yn Ne Cymru: "Rydym yn falch iawn o fod wedi cael cyllid ar gyfer y cynllun ôl-ffitio ecsôsts bysiau, i fodloni safonau allyriadau isel fel rhan o Brosiect Aer Glân Caerdydd. Gyda Stagecoach yn cyfrannu cyllid o £92,000, bydd y prosiect yn ein galluogi i ôl-ffitio 29 o gerbydau i safon Euro VI, gan leihau nitrogen deuocsid a llygredd deunydd gronynnol drwy osod technoleg ecsôst arbenigol achrededig. Mae traffig ceir ar y ffordd yn cyfrannu at allyriadau niweidiol a llygryddion aer, gall un bws gymryd lle hyd at saith deg o geir ar y ffordd, yn hytrach na chyfrannu at y broblem - mae bysiau a choetsys yn rhan fawr o'r ateb. 

"Mae bysiau yn elfen hanfodol o'r gwaith o adnewyddu ein heconomi a chadw ein cymunedau mewn cysylltiad, gan helpu i sicrhau adferiad gwyrdd o bandemig COVID-19.  Mae Stagecoach eisoes wedi buddsoddi mewn 31 o fysiau Euro VI sydd eisoes yn rhedeg yng Nghaerdydd. Gyda'r 29 bws yn cynnwys y systemau ecsôst newydd bydd pob bws Stagecoach yng Nghaerdydd o safon Euro VI o 2021. Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Awdurdodau Lleol i wthio'r agenda Aer Glân yn ei blaen, gan wella ansawdd aer ein cymunedau lleol a chenedlaethau'r dyfodol."

Dywedodd David Conway, Cyfarwyddwr Cyflenwi Gwasanaethau Bws Caerdydd:  "Rydym yn falch iawn o fod wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais am gyllid y Cynllun Ôl-ffitio Bysus Glân.  Mae Cyngor Caerdydd a Llywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol yn y gwaith o fynd i'r afael â llygredd aer yn y ddinas a bydd y cynllun hwn yn ein galluogi i wneud ein cyfraniad ein hunain tuag at wella ansawdd aer yng Nghaerdydd. 

"Mae'r manteision a geir o deithio ar fws yn hytrach na char yn dod yn fwyfwy amlwg, nid yn unig o ran gwella iechyd trigolion y ddinas ond mae hefyd yn ddull mwy diogel a rhatach o deithio."