Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 23 Mawrth

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: blwyddyn ers dechrau cyfnod clo cyntaf y DU; cyngor teithio i gyrraedd Canolfan Frechu Dorfol Bayside yn Grangetown; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a ymgynghoriad cyhoeddus ar Feicffordd 4.2 yn dechrau heddiw.

 

Blwyddyn ers dechrau cyfnod clo cyntaf y DU

Heno, bydd nifer o dirnodau Caerdydd yn cael eu goleuo'n felyn i gofio'r rhai a gollodd eu bywydau i Covid-19.

Bydd Castell Caerdydd, Neuadd y Ddinas, Cofeb Scott yn Llyn Parc y Rhath a'r Morglawdd yn cael eu goleuo i nodi blwyddyn ers i gyfyngiadau'r cyfnod clo ddechrau.

Mae'r ymgyrch i oleuo adeiladau ledled Cymru yn cael ei threfnu gan Deuluoedd Cymru Covid-19, grŵp Facebook a sefydlwyd gan deuluoedd sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig.

Mae arddangosfa flodau, ar ffurf calon felen sef symbol y grŵp, hefyd wedi'i phlannu mewn gwely blodau, y tu allan i Gastell Caerdydd.

 

Cyngor teithio i gyrraedd Canolfan Frechu Dorfol Bayside yn Grangetown

Bydd y Ganolfan Frechu Dorfol Bayside newydd a adeiladwyd ar hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol  yn agor ddydd Iau 25 Mawrth, a bydd yn gwasanaethu trigolion sy'n byw yng Nghaerdydd a dwyrain y Fro.

Gofynnir i'r holl breswylwyr sy'n ymweld â'r Ganolfan Frechu Dorfol Bayside newydd gyrraedd 5 munud cyn eu hapwyntiad, ac os ydynt yn teithio mewn car preifat, fe'u cynghorir mai dim ond am y cyfnod sy'n ofynnol ar gyfer eu hapwyntiad y dylent barcio cerbydau yn y maes parcio.

Cau ffyrdd:

Ni fwriedir cau unrhyw ffyrdd o amgylch y ganolfan frechu, ond gellir rhoi gwyriadau bach ar waith os oes angen yn ystod oriau prysur. Bydd staff ar gael ar y safle i gynorthwyo aelodau o'r cyhoedd wrth iddynt gyrraedd y ganolfan frechu. Bydd y maes parcio yng nghanolfan frechu Bayside ar gael i ymwelwyr ei ddefnyddio, ond ni chaniateir parcio ar strydoedd cyfagos nac mewn unrhyw ddatblygiad tai preifat gerllaw, a gellir gorfodi yn yr achos hwn.

Os ydych yn teithio mewn car preifat, mae canolfan frechu Bayside ar Olympian Drive, Grangetown, CF11 0JS.

Allwch chi feicio neu gerdded?

Mae'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol ar gael yn rhwydd i drigolion lleol naill ai drwy gerdded neu feicio. Darperir llwybrau beicio a cherdded dros Ffordd Gyswllt Bae Caerdydd (A4232), sy'n cysylltu Bae Caerdydd â'r Pentref Chwaraeon Rhyngwladol a Ferry Road. Mae Pont y Werin hefyd ar gael i gerddwyr a beicwyr sy'n dod i'r safle o Benarth a dwyrain y Fro, sy'n cysylltu Marina Penarth â Phentref Chwaraeon Rhyngwladol Bae Caerdydd.

Bws

Mae nifer o wasanaethau bws ar gael sy'n mynd a dod o ganolfan frechu Bayside.  Mae'r rhain fel a ganlyn:

Gwasanaethau Bws Caerdydd:

  • Gwasanaeth 9 (Ysbyty'r Mynydd Bychan/Heol yr Eglwys Newydd/Heol y Crwys/Heol y Plwca/canol y ddinas a Grangetown
  • Gwasanaeth 13 (y Ddrôp/Trelái/Treganna/Butetown)

I gael rhagor o wybodaeth am wasanaethau Bws Caerdydd, ewch i: Bws Caerdydd

Gwasanaethau New Adventure Travel (NAT):

  • Gwasanaeth 89a (o Gaerdydd i Ddinas Powys drwy Benarth a Llandochau)
  • Gwasanaeth 89b (o Gaerdydd i Landochau drwy Benarth)
  • Gwasanaeth 304 (Llanilltud Fawr i Gaerdydd drwy Ysbyty Sain Tathan/y Rhws/y Barri/Llandochau a Bae Caerdydd)

I gael rhagor o wybodaeth ewch i:  New Adventure Travel

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 23 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:222,747(Cyfanswm ddoe: 3,734)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal: 4,266 (Dos 1) 3,565 (Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,145 (Dos 1) 1,555 (Dos 2)
  • 80 a throsodd: 19,062 (Dos 1) 508 (Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen: 25,732 (Dos 1) 21,240 (Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol: 9,120 (Dos 1) 6,599 (Dos 2)
  • 75-79: 14,093 (Dos 1) 1,653 (Dos 2)
  • 70-74: 20,291 (Dos 1) 8,681 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,410 (Dos 1) 4,757 (Dos 2)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • 65-69: 16,998 (Dos 1) 557 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 33,514 (Dos 1) 2,394 (Dos 2)
  • 60-64: 12,904 (Dos 1) 1,071 (Dos 2)

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (12 Mawrth - 18 Mawrth)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

22 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 111

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 30.3 (Cymru: 41.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,911

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,338.5

Cyfran bositif: 2.3% (Cymru: 3.4% cyfran bositif)

 

Ymgynghoriad cyhoeddus ar Feicffordd 4.2 yn dechrau heddiw

Mae gan Gyngor Caerdydd gynlluniau uchelgeisiol i wella llwybrau teithio llesol ar gyfer pob oedran a gallu. Mae hyn yn rhan o uchelgais y cyngor i wella ansawdd aer, lleihau allyriadau carbon, mynd i'r afael â thagfeydd a gwella iechyd y cyhoedd.

Nod Beicffordd 4 yw darparu llwybr ar wahân o ansawdd uchel i ganol y ddinas i gymunedau presennol Pontcanna, Llandaf, Radur a Danescourt, a datblygiadau tai newydd yng ngogledd-orllewin y ddinas. Mae ymgynghoriad ar bump opsiwn ar gyfer cam nesaf y llwybr hwn yn dechrau heddiw.

Mae Beicffordd 4.1, sydd eisoes wedi'i hadeiladu, yn caniatáu i feicwyr fynd o Barc Bute, i fyny drwy Gaeau Llandaf i Rodfa'r Gorllewin. Bydd yr ail gam (4.2) yn mynd â beicwyr ar draws Rhodfa'r Gorllewin yn ddiogel a hyd at Landaf, drwy Brifysgol Fetropolitan Caerdydd. 

Bydd cam olaf wedyn yn estyn Beicffordd 4 at y datblygiadau tai newydd yng ngogledd orllewin Caerdydd.

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus chwe wythnos yn dechrau heddiw, 23 Mawrth, a bydd yn cau ar 4 Mai 2021.

Bydd y pum opsiwn yr ymgynghorir arnynt yn caniatáu i feicwyr groesi Rhodfa'r Gorllewin yn ddiogel gan ddefnyddio croesfan twcan newydd, ar hyd un o'r llwybrau canlynol:

Opsiwn A:Byddai'r llwybr beicio newydd yn defnyddio'r llwybr presennol ar ochr ogleddol campws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, ac yn parhau gyfochr â'r llwybr ger yr afon cyn mynd tua'r de drwy Ddôl Llandaf at Lawnt y Gadeirlan, yna Heol y Bont ac yn olaf at Heol Llantrisant.

Opsiwn B:Byddai'r llwybr hwn yn mynd â beicwyr tua'r gorllewin ar hyd llwybr yr afon, gan ymadael tua'r dwyrain ger y clwb rhwyfo ar Heol y Bont. Byddai'r llwybr beicio wedyn yn mynd drwy'r datblygiad newydd a gynigiwyd ar safle blaenorol BBC Cymru ac at Heol Llantrisant.

Opsiwn C:Byddai'r trydydd opsiwn yn teithio ar hyd ochr ddwyreiniol Rhodfa'r Gorllewin a byddai'n defnyddio'r groesfan bresennol i groesi'r ffordd, a fyddai'n cael ei gwneud yn groesfan twcan newydd. Byddai'r llwybr hwn ar hyd y llwybr presennol sy'n mynd tua'r de o Fynwent Llandaf at Glos y Cadeirlan, Lawnt y Gadeirlan, Heol y Bont ac yna i Heol Llantrisant.

Opsiwn D:Y pedwerydd opsiwn fyddai defnyddio'r llwybr presennol ar ochr ogleddol campws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan ymuno â'r llwybr ger yr afon, cyn ymadael tua'r dwyrain ger y clwb rhwyfo ar Heol y Bont, drwy hen stiwdios BBC Cymru Wales i Heol Llantrisant.

Opsiwn E:Byddai'r opsiwn olaf hefyd yn defnyddio'r llwybr presennol ar ochr ogleddol campws Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, gan barhau ar hyd y llwybr sydd gyfochr â'r llwybr ger yr afon.

Byddai'r llwybr beicio wedyn yn mynd tua'r de drwy Ddôl Llandaf tuag at Eglwys Gadeiriol Llandaf, ac yna tua'r gorllewin i ymuno â'r llwybr ger yr afon, cyn ymadael tua'r dwyrain ger y clwb rhwyfo ar Heol y Bont, drwy hen stiwdios BBC Cymru Wales at Heol Llantrisant.

Mae pecyn ymgynghori llawn wedi cael ei baratoi ac mae ar gael drwy ddilyn y ddolen hon:  https://www.caerdydd.gov.uk/beicffyrdd