25/03/21
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wedi agor pedwaredd Canolfan Brechu Torfol heddiw yn rhan o'i raglen Brechu Torfol i ddiogelu ei phoblogaeth oedolion rhag Covid-19 cyn gynted â phosibl.
Gan weithio mewn partneriaeth â Chyngor Caerdydd a Chyngor Bro Morgannwg i gynyddu'r gallu i frechu, bydd y Ganolfan Brechu Torfol newydd ym Mae Caerdydd yn galluogi rhoi hyd at 3,500 o frechiadau ychwanegol y dydd, gan ddibynnu ar gyflenwad y brechlynnau.
Mae'r ganolfan newydd wedi'i lleoli yn hen safle Toys R Us yn y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Bydd lleoliad y safle ar gael i bobl yng Nghaerdydd a hefyd i drigolion Dwyrain yFro.
Agorodd y ganolfan gwta 3 wythnos ar ôl cadarnhau'r ganolfan fel pedwaredd Canolfan Brechu Torfol Caerdydd a Bro Morgannwg a gyhoeddwyd yma.
Mae'r 60 o Feddygfeydd Teulu yn y ddwy sir i gyd yn cymryd rhan yn y rhaglen hefyd, a bydd Fferyllfeydd Cymunedol hefyd yn ymuno â'r rhaglen o fis Ebrill.
Hyd yma mae'r Bwrdd Iechyd wedi darparu dros 229,500 o frechlynnau, gyda 174,151 o'r rhain yn ddosau cyntaf. Caiff yr holl ddosau cyntaf yn y grwpiau 1-9 eu rhoi erbyn 19 Ebrill fel ag y cynlluniwyd.
Cyngor teithio i gyrraedd Canolfan Frechu Dorfol Bayside yn Grangetown