Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 31 Mawrth

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: sbwriel ym Mae Caerdydd, parciau a mannau gwyrdd; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Datganiad Cyngor Caerdydd: Sbwriel ym Mae Caerdydd, parciau a mannau gwyrdd

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae ein timau glanhau wedi bod yn gweithio'n galed ers 6am bore ‘ma yn clirio'r swm annerbyniol o sbwriel a adawyd ar ôl gan bobl yn mwynhau'r heulwen, ym Mae Caerdydd, a pharciau a mannau gwyrdd y ddinas.

"Cafodd yr ardal o amgylch y Senedd a'r Basn Hirgrwn ei chlirio a'i glanhau erbyn 9am bore ‘ma - roedd angen naw aelod o staff, dau sgubwr mecanyddol a dwy fan.

"Mae gwaith ar y raddfa hon yn gostus i drethdalwyr, yn cymryd llawer o amser, ac yn dargyfeirio adnoddau o rannau eraill o'r ddinas. Mae biniau mawr ychwanegol yn cael eu gosod dros dro ym Mae Caerdydd heddiw a byddant i'w gweld mewn safleoedd parc allweddol dros y dyddiau nesaf. Mae biniau yn yr ardaloedd hyn yn cael eu gwagio'n rheolaidd, a byddant yn parhau i gael eu gwagio'n rheolaidd, ond gofynnwn i ymwelwyr sy'n mwynhau'r ardaloedd hyn gael gwared ar eu gwastraff yn gyfrifol, ac os yw'r bin yn llawn, i fynd ag ef i un gwag, neu fynd ag ef adref.

"Mae'r cyfyngiadau Covid-19 presennol yn caniatáu i hyd at chwech o bobl, o ddwy aelwyd, gyfarfod yn yr awyr agored tra'n ymbellhau'n gymdeithasol a byddem yn annog ymwelwyr i Fae Caerdydd ac i'n parciau a'n mannau gwyrdd i ddilyn y rheolau hyn, a helpu i gadw Caerdydd yn ddiogel."

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 31 Mawrth

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:257,369

 

  • 80 a throsodd: 19,100 (Dos 1) 1,181 (Dos 2)
  • 75-79: 14,119 (Dos 1) 1,848 (Dos 2)
  • 70-74: 20,357 (Dos 1) 13,356 (Dos 2)
  • 65-69: 17,107 (Dos 1) 708 (Dos 2)
  • 60-64: 13,107 (Dos 1) 2,028 (Dos 2)
  • 55-59: 13,330 (Dos 1) 198 (Dos 2)
  • 50-54: 3,023 (Dos 1) 176 (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,163 (Dos 1) 1,704 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,518 (Dos 1) 6,176 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 40,047 (Dos 1) 3,182 (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (20 Mawrth - 26 Mawrth)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

30 Mawrth 2021, 09:00

 

Achosion: 115

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 31.3 (Cymru: 36.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 5,481

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,493.9

Cyfran bositif: 2.1% (Cymru: 2.6% cyfran bositif)