Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 6 Ebrill

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu: cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer ysgol newydd yn St Edern.

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 6 Ebrill

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:282,532(Cyfanswm ddoe: 1,268)

 

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 1-4

  • Staff cartrefi gofal: 4,326 (Dos 1) 3,784 (Dos 2)
  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,171 (Dos 1) 1,797 (Dos 2)
  • 80 a throsodd: 19,110 (Dos 1) 2,073 (Dos 2)
  • Staff gofal iechyd rheng flaen: 26,932 (Dos 1) 22,763 (Dos 2)
  • Staff gofal cymdeithasol: 9,635 (Dos 1) 7,553 (Dos 2)
  • 75-79: 14,135 (Dos 1) 1,910 (Dos 2)
  • 70-74: 20,399 (Dos 1) 16,278 (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 9,547 (Dos 1) 7,371 (Dos 2)

Grwpiau Blaenoriaeth Allweddol 5-7 

  • 65-69: 17,150 (Dos 1) 824 (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 41,853 (Dos 1) 3,827 (Dos 2)
  • 60-64: 13,178 (Dos 1) 3,142 (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (26 Mawrth - 01 Ebrill)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

 

Mae'r data'n gywir ar:

05 Ebrill 2021, 09:00

 

Achosion: 144

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 39.2 (Cymru: 24.8 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 4,433

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,208.2

Cyfran bositif: 3.2% (Cymru: 2.3% cyfran bositif)

 

Cynlluniau wedi'u cymeradwyo ar gyfer ysgol newydd yn St Edern

Heddiw, Dydd Mawrth 6 Ebrill,  mae Adran Gynllunio Cyngor Caerdydd wedi cymeradwyo cynlluniau i adeiladu ysgol gynradd newydd yn natblygiad St Edern i wasanaethu rhannau o Bontprennau a Phentref Llaneirwg, a leolir i'r dwyrain o ffordd gyswllt Pontprennau.

Bydd yr ysgol newydd yn 1 dosbarth mynediad, â lle i 210 o ddisgyblion gan gynnwys meithrinfa ran-amser â 48 lle, gyda'r cyfle i ehangu i 2 ddosbarth mynediad (420 lle) yn y dyfodol. Bydd canolfan gymunedol yn gysylltiedig â'r ysgol gyda mynedfa breifat a mynedfa gyd gysylltiedig sy'n cynnig manteision i'r gymuned ehangach.

Ym mis Mawrth 2019, cytunodd Cabinet Cyngor Caerdydd ar argymhelliad i ddwyn cynlluniau ymlaen i ail fantoli'r ddarpariaeth gynradd yn rhannau o ogledd-ddwyrain Caerdydd. Roedd hyn oherwydd fod gormod o leoedd ysgol ar gael yn ardal Llanrhymni a'r angen i gael mwy o leoedd ym Mhentref Llaneirwg a rhannau o Bontprennau ar ôl cwblhau datblygiad tai St Edern.

Fel rhan o ddatrysiad strategol, cytunodd y Cabinet i archwilio cynlluniau i adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg o'i safle bresennol yn Llanrhymni.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Bydd y datblygiad yn St Edern yn arwain at gynnydd sylweddol yn y galw am leoedd mewn ysgolion yn yr ardal a bydd yr ysgol newydd yn sicrhau ein bod yn ateb y galw hwnnw.

"Yn ogystal, mae'r cynllun yn gyfle i adleoli Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg, gan roi i'r disgyblion presennol amgylchedd dysgu rhagorol, modern wrth helpu i fynd i'r afael â phroblem lleoedd gwag yn Llanrhymni, sydd wedi rhoi straen sylweddol ar gyllidebau ysgolion yn yr ardal.

"Bydd gan yr ysgol newydd ffocws cymunedol sy'n caniatáu i gymuned ehangach yr ysgol elwa o'r cyfleusterau newydd ar y safle."

Mae St Edern yn ddatblygiad yng ngogledd-ddwyrain y ddinas fel rhan o Gynllun Datblygu Lleol (CDLl) Caerdydd, sy'n nodi'r seilwaith sydd ei angen i hwyluso a chynnal twf y ddinas hyd at 2026.

Cytunwyd y byddai'r ysgol yn cael ei hadeiladu gan y datblygwr, Persimmon, yn rhan o'r cytundeb cynllunio ar y cyd â'r Cyngor, a'i hariannu drwy gyfraniadau Adran 106.