Back
Manwerthu nad yw'n hanfodol yn agor i'r cyhoedd yng Nghaerdydd heddiw - dydd Llun Ebrill 12

12/04/21

Croeswir ymwelwyr a thrigolion i Ganol Dinas Caerdydd heddiw wrth i fanwerthu nad yw'n hanfodol gael y golau gwyrdd i ailagor i'r cyhoedd

Wrth i'r siopau wneud eu cynlluniau i agor eu busnesau dros yr wythnosau diwethaf, mae staff o'r Gwasanaethau Rheoliadol a Rennir wedi bod yn ymweld â'r safleoedd hyn i roi cyngor ac arweiniad ar sut y gall siopau yng nghanol y ddinas weithredu'n ddiogel yn unol â chyfyngiadau parhaus COVID.

Bydd stiwardiaid hefyd yn gweithio ar y stryd i helpu busnesau manwerthu i reoli'r cyhoedd sy'n ciwio i fynd i mewn i'r siopau.

O ystyried nifer y bobl yr ydym yn disgwyl iddynt ddod i Gaerdydd, wrth i'r ddinas ddechrau ailagor, anogir pawb sy'n gallu teithio ar drafnidiaeth gyhoeddus, beicio neu gerdded, yn gryf i wneud hynny. Gellir gweld yr holl wybodaeth am amserlenni a gwasanaethau ar wefan Traveline Cymru yma.

Fel arall, os ydych yn teithio mewn car, ystyriwch y cyfleuster Parcio a Theithio ym Mhentwyn, neu'r cyfleuster Parcio a Cherdded o Neuadd y Sir ym Mae Caerdydd.

Mae canllaw llawn i ymwelwyr ar sut i deithio i Gaerdydd ar gael ar wefan Croeso Caerdydd yma.

Teithio ar fws:

MaeBws Caerdyddyn barod i'ch cael yn ôl yn symud gyda bysiau glân ac aml. Mae mesurau ychwanegol wedi'u rhoi ar waith ar y bysus gan gynnwys trefn lanhau drylwyr a llai o seddi ar gael, ond gwnewch eich rhan drwy wisgo gorchudd wyneb drwy gydol eich taith, oni bai eich bod wedi'ch eithrio.

Defnyddiwch y ddyfais cynllunio teithiau neu app Bws Caerdydd i ddod o hyd i'r llwybr a'r amseroedd sy'n addas i chi.

Mae Adventure Travel yn ddiweddar wedi cynyddu amlder rhai gwasanaethau ers Mawrth 22 a bydd yn parhau i fonitro newidiadau i'r galw am eu gwasanaethau er mwyn sicrhau bod gofynion ymbellhau cymdeithasol yn cael eu bodloni. Pan fydd gwasanaethau'n cynyddu, bydd Adventure Travel yn cyhoeddi eu holl newidiadau arfaethedig i'r gwasanaeth ar eu gwefan a'u sianeli cyfryngau cymdeithasol. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth yma

MaeStagecoachwedi cynyddu amlder eu gwasanaethau o 28 Mawrth 2021. Bydd yr holl wasanaethau'n dychwelyd i'r un amserlenni a oedd ar waith cyn i'r cyfnod clo diwethaf ddechrau.  Gellir gweld yr holl amserlenni ar gyfer gwasanaethau Stagecoachyma.

Bydd llai o gapasiti ar y gwasanaeth hwn i ganiatáu cadw pellter cymdeithasol a gellir gweld rhagor o fanylion am y trefniant hwnyma.

Beicio a cherdded: 

Mae'r rhwydwaith o feicffyrdd yn ehangu ac yn cynnig mwy o lwybrau i ganol y ddinas ac o'i hamgylch. Mae parcio beiciau ychwanegol y tu allan i'r Castell yn ogystal â'r holl gyfleusterau parcio eraill yng nghanol y ddinas ac o'i hamgylch; a pheidiwch ag anghofio bod y cynllun Nextbike ar gael ledled y ddinas os oes angen llogi beic arnoch.

Teithio mewn car

Cynghorir pob ymwelydd sy'n teithio mewn car o ddwyrain y ddinas ac sydd am barcio yng nghanol y ddinas i ddefnyddio'r meysydd parcio aml-lawr yn  Plas Dumfries, Plas Fitzalan, Stryd Adam a Rhodfa Bute. Cynghorir ymwelwyr na all ceir preifat ddefnyddio Rhodfa'r Orsaf, gan mai dim ond bysiau a thacsis sy'n cael defnyddio'r llwybr hwn.

Cynghorir ymwelwyr sy'n mynd i ganol y ddinas o'r gorllewin i deithio drwy'r Ffordd Gyswllt (A4232) ac yna i'r Ffordd Gyswllt Ganolog a dilyn yr un llwybr i'r meysydd parcio aml-lawr fel yr esbonnir uchod.

Cyfleuster Parcio a Theithio

Bydd y cyfleuster Parcio a Theithio ar agor i'r cyhoedd o ddydd Llun Ebrill 12. I gael mynediad i'r cyfleuster o'r dwyrain, dewch oddi ar yr M4 ar Gyffordd 28, cymerwch yr ail allanfa a dilyn yr arwyddion ffyrdd i'r maes parcio Parcio a Theithio. Gellir gweld y cyfarwyddiadau i'r cyfleuster yma.

Gall y rhai sy'n teithio o'r gorllewin ddefnyddio'r cyfleuster Parcio a Cherdded yn Neuadd y Sir. Parciwch eich car yn y maes parcio am ddim a cherdded ar hyd Rhodfa Lloyd George i ganol y ddinas.

Parcio yng nghanol y ddinas:

Bydd yr holl feysydd parcio aml-lawr yng nghanol y ddinas yn cael eu hagor ddydd Llun, 12 Ebrill, ond efallai y bydd llai o le i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau COVID.

Mae holl barcio talu ac arddangos y cyngor ar y stryd hefyd ar gael i'r cyhoedd ei ddefnyddio, ac anogir ymwelwyr i ddod o hyd i le parcio ar y stryd drwy ddefnyddio'r app Smart Parking, y gellir ei lawrlwytho o Google Play yma

Teithio ar y trên:

Trafnidiaeth CymruOs ydych yn teithio i mewn neu allan o Gaerdydd ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru, rhaid i chi wisgo gorchudd wyneb bob amser wrth deithio (oni bai eich bod wedi'ch eithrio) a chadw at y canllawiau ymbellhau cymdeithasol ar y trên ac yn yr orsaf.

Ar gyfer teithio digyffwrdd, archebwch eich tocynnau ymlaen llaw naill ai ar y wefan neu ar appTFW Rail. Gallwch hefyd gynllunio eich taith ar sail pa mor brysur yw eich trên fel arfer. Mae Gwiriwr Capasiti Trafnidiaeth Cymru yn helpu i roi syniad o'r trenau sy'n aml yn llawn a'r rhai sydd â digon o seddi ar gael, fel y gallwch benderfynu ar yr amser gorau ar gyfer eich taith.