Back
Daw Tenis Bwrdd i Barc Bute er cof am gyn-fyfyriwr o Gaerdydd a fu farw'n sydyn, yn 29 oed

15/4/21

Mae bwrdd tenis bwrdd awyr agored wedi'i osod ym Mharc Bute er cof am gyn-fyfyriwr o Brifysgol Caerdydd a fu farw'n sydyn yn ei gwsg pan oedd ond yn 29 oed, ar ôl mynd i'r gwely gyda thwymyn.

Rhoddwyd y bwrdd, sydd y tu allan i Ganolfan Addysg Parc Bute, gan ffrindiau a theulu Michael Julian, a welodd ei gariad at y gamp ef yn cystadlu ar lefel genedlaethol mewn twrnameintiau yn Awstralia, Seland Newydd, Sbaen a'r gwledydd hyn.

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\CORPORATE COMMUNICATIONS\Dave\Photos\Parks\Bute Park\Table Tennis Table Michael Julian\To use\Michael Playing Table Tennis.jpg

Roedd MJ, fel yr oedd yn adnabyddus i'w ffrindiau, wedi treulio tair blynedd ym Mhrifysgol Caerdydd, gan raddio gyda gradd anrhydedd dosbarth cyntaf mewn Peirianneg yn ogystal â bod yn gapten ar a hyfforddi tîm Tenis Bwrdd y Brifysgol.

Er ei fod yn byw gyda'i deulu yn Seland Newydd ar adeg ei farwolaeth ym mis Gorffennaf 2019, mae Caerdydd yn parhau i fod yn ganolbwynt i lawer o'i ffrindiau.

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\CORPORATE COMMUNICATIONS\Dave\Photos\Parks\Bute Park\Table Tennis Table Michael Julian\To use\Michael.jpg

Wrth siarad am gariad ei mab at denis bwrdd, dwedodd mam MJ, Jill Stanley: "Wrth dyfu lan, rhoddodd Michael gynnig ar lawer o gampau, ond ddaeth e ddim o hyd i unrhyw beth yr oedd yn dda iawn yn ei wneud nac yn ei fwynhau. Yna un diwrnod pan oedd tua 10 neu 11, daeth adref a dweud bod rhywun wedi ei wahodd i fynd draw i glwb tennis bwrdd.  Dyma ddechrau diddordeb angerddol gydol oes iddo, ac roedd yn chwaraewr hynod eithriadol."

Dwedodd Michael Irving, ffrind o gyfnod MJ yng Nghaerdydd: "Mae pawb oedd yn adnabod MJ yn cofio ei gariad at denis bwrdd. Yn y brifysgol, fyddai dim yn ei rwystro rhag chwarae twrnament, hyd yn oed noson allan drom y diwrnod cynt.

"Mae'r ymroddiad hwn i'r gamp yn adlewyrchu ei fywyd y tu allan iddo - unigolyn ffyrnig o ddeallus a phenderfynol a lewyrchodd ym myd busnes ac a garai athroniaeth, y celfyddydau a'i ffrindiau. Roedd yn byw bywyd i'r eithaf. Nid oedd neb tebyg iddo ac roedd yn rhaid i chi gwrdd ag ef i'w adnabod.

"Rydym yn cyflwyno'r bwrdd er cof amdano fel na chaiff fyth ei anghofio yn y lle y mwynhaodd llawer ohonom yr amseroedd gorau gydag e."

Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Hoffai'r Cyngor ddiolch i ffrindiau a theulu Michael am y rhodd garedig hon, yn amlwg yn ogystal â bod yn ddyn ifanc talentog, roedd hefyd yn hynod boblogaidd. Mae'r bwrdd yn ychwanegiad gwych i Barc Bute a dylai ddod â llawer o bleser i ymwelwyr am flynyddoedd i ddod."

\\Filestore1.cardiff.gov.uk\ISShared$\CORPORATE COMMUNICATIONS\Dave\Photos\Parks\Bute Park\Table Tennis Table Michael Julian\To use\Table in use.jpeg

Mae batiau a pheli tenis bwrdd ar gael i'w benthyg o Gaffi'r Ardd Gudd ym Mharc Bute (dydd Mercher - dydd Sul). Mae angen blaendal.