Back
Cronfa Adfywio Cymunedol y DU


20/04/21

Agorodd Cronfa Adfywio Cymunedol y DU ddoe - gyda £220m o gyllid gan Lywodraeth y DU ar gael i sefydliadau ledled y DU wneud cais amdano. Mae'r cyllid newydd yn bwriadu cefnogi cymunedau drwy fynd i'r afael â heriau, meithrin sgiliau a chreu cyfleoedd sy'n cyfrannu at yr economi leol.

Cyngor Caerdydd fydd y sefydliad arweiniol yng Nghaerdydd fydd yn cyflwyno'r prosiectau y cytunwyd arnynt drwodd i Lywodraeth y DU i'w hystyried. Mae'r gronfa'n agored i amrywiaeth o ymgeiswyr, gan gynnwys cynghorau cymuned, y sector gwirfoddol a chymunedol, ysgolion a phrifysgolion a busnesau lleol.

Bydd ceisiadau llwyddiannus yn:

  • Adeiladu ar wybodaeth a mewnwelediad lleol
  • Cyd-fynd â chynlluniau strategol hirdymor ar gyfer twf lleol
  • Targedu'r bobl fwyaf anghenus
  • Cefnogi adfywiad cymunedol
  • Ategu darpariaeth gwasanaethau cenedlaethol a lleol arall

Blaenoriaethau buddsoddi'r cynllun hwn yw:

  • Buddsoddi mewn sgiliau
  • Buddsoddi mewn busnesau lleol
  • Buddsoddi mewn cymunedau a lleoedd
  • Cefnogi pobl i mewn i waith

Mae 90% o'r gronfa yn gyllid refeniw, felly ni chefnogir prosiectau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar godi neu adnewyddu adeiladau, prynu tir neu brynu darnau mawr o offer.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun a sut i wneud cais, ewch iwww.caerdydd.gov.uk/cronfaafdywiocymunedol