Croeso i ddiweddariad olaf yr wythnos gan Gyngor Gaerdydd, sy'n cwmpasu:mae lôn lai adnabyddus yng nghanol y ddinas wedi gweld ychydig o waith gweddnewid arni; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.
Dyfodol disglair i Tudor Lane gyda murlun newydd
Mae lôn lai adnabyddus yng nghanol y ddinas wedi gweld ychydig o waith gweddnewid arni fel rhan o raglen adfywio gwerth miliynau o bunnoedd ar gyfer yr ardal ehangach.
Mae murlun newydd llachar a lliwgar bellach yn addurno'r waliau ar hyd Tudor Lane, lôn fach sy'n rhedeg yn gyfochrog â Stryd Tudor yng Nglanyrafon lle mae amrywiaeth eang o weithdai a busnesau bach.
Yn ystod gwaith i drawsnewid Stryd Tudor yn ardal siopa ddeniadol a bywiog trwy fuddsoddiad mawr mewn gwelliannau masnachol ac amgylcheddol, mae Tudor Lane ei hun yn elwa o rai gwelliannau amgylcheddol hefyd, gan ddechrau gyda'r gwaith celf newydd ar ochr hen Glwb Cardiff Bus Transport.
Cafodd y murlun ei ddylunio a'i baentio gan yr artist lleol Lowri Davies, a ysbrydolwyd gan y busnesau ar y lôn. Mae'r palet lliwiau yn llachar ac yn adleisio rhai o'r lliwiau a ddefnyddir i wella adeiladau ar Stryd Tudor.
Dwedodd Lowri: "Rwyf wedi gweithio ar Tudor Lane ers 2003 ac rwyf wedi gweld rhai newidiadau graddol dros y blynyddoedd ond mae'r trafodaethau a'r datblygiadau diweddar wedi bod yn gadarnhaol iawn a gobeithio y byddant yn gwella'r profiad o weithio yn y lôn yn y dyfodol.
"Fel arfer, rwy'n gwneud nwyddau bwrdd o faint domestig, felly roedd y syniad o ddylunio a phaentio arwynebedd mor fawr yn eithaf brawychus. Mae'r dyluniad yn dangos yr hyn sy'n digwydd a'r hyn sy'n cael ei wneud y tu ôl i ddrysau caeëdig ar Tudor Lane. Ceir cyfeiriadau at serameg, gwaith coed, beiciau, mecaneg, cerflunio, paentio ac electroneg. Rwy' wedi cael cefnogaeth anhygoel gan eraill sy'n gweithio ar y lôn ac mae wedi bod yn wych dod i adnabod yr unigolion hynny'n well."
Paentiwyd y murlun hefyd gan yr artistiaid lleol Cecile Johnson Soliz, Molly Sinclair-Thomson, Rachel Humphreys a Gweni Llwyd ynghyd â Lowri gyda phaent wedi'i gyflenwi gan Knox & Wells, prif gontractwr y cynllun gwella masnachol ar Stryd Tudor, fel rhan o fenter budd cymunedol.
Mae gwelliannau eraill ar Tudor Lane yn cynnwys arwyddion newydd wrth ei fynedfeydd, baneri colofnau goleuadau llachar a bywiog, system unffordd, gwaith celf ar wal gefn yr adeilad cyfagos, Litchfield Court, gwelliannau i'r goleuadau stryd a mesurau gostegu traffig.
Dywedodd llefarydd ar ran y Cyngor: "Mae'r murlun newydd a gwelliannau amgylcheddol eraill wedi gwneud gwahaniaeth mawr i olwg Tudor Lane ac rydym yn mawr obeithio y bydd busnesau ac ymwelwyr yn gweld manteision y newidiadau hyn. Bydd y gwelliannau a groesewir yn fawr yn cael eu cwblhau ddiwedd y mis hwn a gobeithiwn y gellir sicrhau cyllid pellach mewn partneriaeth â'r busnesau i gynnig gwelliannau ychwanegol yn y dyfodol."
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 23 Ebrill
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 347,755 (Dos 1: 257,157, Dos 2: 90,579)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (12 Ebrill - 18 Ebrill)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
22 Ebrill 2021, 09:00
Achosion: 82
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 22.3 (Cymru: 14.7 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 3,153
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 859.4
Cyfran bositif: 2.6% (Cymru: 1.7% cyfran bositif)