Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 04 Mai

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, sy'n cwmpasu:  Etholiadau'r Senedd aComisiynydd Heddlu a Throseddu, cadw pleidleiswyr yn ddiogel; cyfanswm brechu diweddaraf Caerdydd a Bro Morgannwg; a nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd.

 

Etholiadau'r Senedd a CHTh: Cadw pleidleiswyr yn ddiogel

Ddydd Iau, bydd trigolion Caerdydd yn pleidleisio i ddewis pwy fydd yn eu cynrychioli yn y Senedd a phwy fydd y Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer yr ardal heddlu leol hon.

Mae gwaith cynllunio wedi bod ar y gweill ers misoedd i sicrhau bod gorsafoedd pleidleisio yn fannau diogel i bleidleisio ar 6 Mai. Gall preswylwyr sydd wedi dewis bwrw eu pleidlais mewn person ddisgwyl gweld llawer o'r mesurau yr ydym i gyd wedi dod yn gyfarwydd â hwy yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mewn siopau a chyfleusterau dan do eraill, megis defnyddio hylif diheintio dwylo, marciau llawr i helpu gydag ymbellhau cymdeithasol a'r angen i wisgo gorchudd wyneb, oni bai eich bod wedi'ch eithrio.

Efallai y bydd angen i bleidleiswyr giwio i fynd i mewn i'r orsaf bleidleisio, gan y bydd terfyn ar nifer y bobl a ganiateir yn yr adeilad ar un adeg. Bydd systemau unffordd ar waith mewn llawer o'r gorsafoedd a gofynnir i bleidleiswyr gydymffurfio â'r arwyddion sydd mewn lle i helpu pobl i fynd i mewn ac allan o'r adeilad yn ddiogel.

Efallai y bydd preswylwyr am ddod â'u pensil eu hunain i farcio eu papur pleidleisio, er y bydd cyflenwadau hefyd ar gael yn yr orsaf bleidleisio.

Bydd staff yn yr orsaf bleidleisio yn glanhau'n rheolaidd drwy gydol y dydd i helpu i gadw pleidleiswyr yn ddiogel a helpu i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19.

Dywedodd Paul Orders, Swyddog Canlyniadau Lleol Caerdydd: "Bydd etholiadau'r wythnos hon yn wahanol i unrhyw rai eraill o'r blaen ac rydym wedi bod yn gweithio'n galed i greu amgylchedd diogel i bleidleiswyr a staff yn ein gorsafoedd pleidleisio ledled y ddinas. Bydd mesurau diogelu amrywiol ar waith ar y diwrnod, trefniadau tebyg i'r rhai sydd wedi dod yn rhan o'n harferion bob dydd ers dechrau'r pandemig."

Etholiad dydd Iau fydd y tro cyntaf i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys allu pleidleisio dros Aelodau o'r Senedd. Bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor rhwng 7am a 10pm.

Ni ddylai unrhyw un sydd â symptomau coronafeirws neu y gofynnwyd iddo hunanynysu fynychu gorsaf bleidleisio.

Mewn rhai amgylchiadau, os oes gennych argyfwng sy'n golygu na allwch bleidleisio'n bersonol, gallwch wneud cais am ddirprwy brys. Rhaid i hyn fod yn rhywbeth nad oeddech yn ymwybodol ohono cyn dyddiad cau arferol y bleidlais drwy ddirprwy ac mae'n cynnwys yr angen i hunanynysu oherwydd COVID-19.

Mae'r ffurflen y bydd angen i chi ei llenwi yn dibynnu ar eich rheswm dros fod angen pleidlais drwy ddirprwy. Gallwch ddod o hyd iddynt yn:

https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/pleidleisiwr/sut-i-fwrwch-pleidlais/pleidleisio-drwy-ddirprwy

Gellir gwneud ceisiadau Dirprwy Brys hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.

I gael rhagor o wybodaeth am etholiadau dydd Iau gan gynnwys manylion ymgeiswyr, gorsafoedd pleidleisio a mwy, ewch i:

www.caerdydd.gov.uk/etholiadau

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 04 Mai

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  398,976 (Dos 1: 291,240 Dos 2: 107,713)

 

  • 80 a throsodd: 21,104 / 94.1% (Dos 1) 18,894 / 84.2% (Dos 2)
  • 75-79: 15,079 / 95.6% (Dos 1) 13,024 / 82.6% (Dos 2)
  • 70-74: 21,419 / 95.1% (Dos 1) 20,259 / 89.9% (Dos 2)
  • 65-69: 21,616 / 92.7% (Dos 1) 7,527 / 32.3% (Dos 2)
  • 60-64: 25,714 / 91.2% (Dos 1) 10,571 / 37.5% (Dos 2)
  • 55-59: 28,905 / 88.9% (Dos 1) 6,178 / 19% (Dos 2)
  • 50-54: 28,317 / 85.9% (Dos 1) 5,598 / 17% (Dos 2)
  • 40-49: 52,017 / 77.4% (Dos 1) 9,229 / 13.7% (Dos 2)
  • 30-39: 46,107 / 58.8% (Dos 1) 8,293 / 10.6% (Dos 2)
  • 18-29: 29,222 / 30.3% (Dos 1) 8,231 / 8.5% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 2,019 / 97.7% (Dos 1) 1,862 / 90.1% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,202 / 92.4% (Dos 1) 9,739 / 80.3% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 43,668 / 86.6% (Dos 1) 4,205 / 8.3% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (22 Ebrill - 28 Ebrill)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

2 Mai 2021, 09:00

 

Achosion: 44

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 12.0 (Cymru: 10.5 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 3,441

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 937.9

Cyfran bositif: 1.3% (Cymru: 1.1% cyfran bositif)