Back
Cynnydd tuag at Gaerdydd Un Blaned "iachach, gwyrddach a gwylltach"

14/05/21

Mae "cynnydd sylweddol" yn cael ei wneud yn ymateb Cyngor Caerdydd i'r argyfwng hinsawdd - 'Caerdydd Un Blaned', yn ôl adroddiad gan y Cabinet sydd i'w drafod yr wythnos nesaf.

Mae adroddiad Un Blaned yn un o bedwar adroddiad allweddol sy'n amlinellu strategaeth adnewyddu ac adferiad ôl-bandemig y Cyngor ar gyfer y ddinas, yn cwmpasu adferiad gwyrdd, adferiad economaidd, adferiad sy'n ystyriol o blant, ac adferiad sefydliadol.

Bwriedir trafod un adroddiad amgylcheddol arall hefyd, sy'n canolbwyntio ar y camau a gymerir i wneud Caerdydd yn "Iachach, Gwyrddach a Gwylltach" yn dilyn pleidlais gan y Cyngor Llawn.

O'r 7 thema a nodwyd yn y strategaeth ddrafft 'Caerdydd Un Blaned', dangosodd ymgynghoriad eang fod y cyhoedd, pobl ifanc a busnesau i gyd o'r farn mai lleihau'r galw am ynni a chynhyrchu mwy o ynni adnewyddadwy oedd y maes pwysicaf i ganolbwyntio arno. Roedd cefnogaeth eang hefyd i fentrau allweddol eraill yn yr Argyfwng Hinsawdd sy'n canolbwyntio ar drafnidiaeth, seilwaith gwyrdd a bwyd.

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros yr Amgylchedd, y Cynghorydd Michael Michael: "Hyd yn oed wrth i ni wella o effaith ddigamsyniol Covid-19, mae un peth yn parhau'n eglur - newid yn yr hinsawdd yw her fyd-eang ddiffiniol ein cenhedlaeth ni. Mae'r Cyngor yn ymateb i'r her honno, gyda chyllid wedi'i sicrhau ar gyfer prosiectau mawr fel y rhwydwaith gwres ardal carbon isel, mwy o'n fflyd o gerbydau'n trosglwyddo i drydan, a chynlluniau ar y trywydd iawn ar gyfer dechrau rhaglen plannu coed torfol."

Mae gwaith eisoes wedi dechrau ar nifer o brosiectau o fewn y strategaeth ddrafft, ac yn ôl yr adroddiad:

  • mae fferm solar 9MW nodedig yn Ffordd Lamby wedi'i chwblhau ac mae bellach yn weithredol.
  • sicrhawyd cyllid i weithredu cam cyntaf rhwydwaith gwres ardal carbon isel sy'n gwasanaethu ardal Bae Caerdydd. 
  • Bydd gwefrwyr cyflym 22kW yn cael eu gosod mewn 10 maes parcio a weithredir gan y Cyngor yn ystod y misoedd nesaf, fel rhan o gynllun i gynyddu nifer y mannau gwefru cerbydau trydan ledled Caerdydd. Bydd pwyntiau gwefru hefyd yn cael eu gosod mewn tri o brif leoliadau'r Cyngor i gefnogi'r broses o drosglwyddo fflyd y Cyngor i gerbydau trydan.
  • Cyflwynwyd 12 cerbyd trydan i'r fflyd Gwastraff a Glanhau, gyda 5 Cerbyd Casglu Sbwriel trydan ar archeb. Ar ôl eu cyflwyno, y Cyngor fydd â'r fflyd fwyaf o gerbydau casglu gwastraff trydan wedi'u cynhyrchu gan wneuthurwyr yng Nghymru.
  • Mae tua 50 hectar o dir wedi'u nodi fel tir posib ar gyfer camau cyntaf rhaglen plannu coed torfol a fydd yn dechrau ym mis Tachwedd 2021. Bydd y rhaglen yn cynnwys amrywiaeth eang o blannu coed gan gynnwys coed stryd, coed mewn parcdir, coetir a chreu perllannau. 
  • Cymeradwywyd cymhorthdal Cronfa Coed Argyfwng Coed Cadw (£228K) ym mis Mawrth 2021. Bydd gwaith yn dechrau ar ddatblygu'r blanhigfa goed yn Fferm y Fforest yn ystod yr haf a bydd cam cyntaf y gwaith plannu yn dechrau ym mis Tachwedd 2021.

Ym mis Ionawr pasiwyd cynnig i wneud Caerdydd yn "Wyrddach, Iachach a Gwylltach" mewn cyfarfod o'r Cyngor Llawn. Mae adroddiad ar wahân mewn ymateb i'r cynnig hwn yn esbonio mai nod prosiect plannu coed torfol y Cyngor yw adeiladu ar weithgarwch gwirfoddoli amgylcheddol presennol a rhoi cyfleoedd i ysgolion gymryd rhan weithredol mewn plannu coed a chreu coetiroedd. 

Disgwylir i'r blanhigfa goed sy'n cael ei sefydlu yn Fferm y Fforest ddarparu tua 5,000 o goed lleol a choed wedi'u lluosogi'n flynyddol erbyn i'r prosiect gyrraedd ei drydedd flwyddyn.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Bydd plannu coed wrth galon ein Caerdydd Un Blaned . Mae'r cyngor eisoes yn plannu miloedd o goed bob blwyddyn - tua 2,400 yn y tymor plannu diwethaf, ond bydd dechrau ein rhaglen plannu coed torfol yn ddiweddarach eleni yn gwthio'r ffigurau hyn i gynghrair wahanol wrth i ni geisio plannu mwy nag 800 hectar o goetir newydd yng Nghaerdydd."

"Ni fydd modd gwneud Caerdydd yn iachach, yn wyrddach ac yn wylltach dros nos, ond rydym yn gwneud cynnydd - yn ogystal â chynllunio ar gyfer cynnydd enfawr yn nifer y coed rydym yn eu plannu, rydym yn parhau â'n gwaith o nodi tir y gall cymunedau ei ddefnyddio i greu parciau poced a mannau tyfu ac rydym wedi ymrwymo i gefnogi mudiad Dinas Parc Cenedlaethol, gyda'r nod o wneud ein dinas yn fan lle, fel cymuned, rydym yn gweithredu gyda'n gilydd i wneud bywyd yn well i bobl, bywyd gwyllt a natur."

Er mwyn creu a chynnal diddordeb rhanddeiliaid a chymunedol mewn Dinas Parc Cenedlaethol i Gaerdydd, os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, byddai'r adroddiad yn arwain at y Cyngor yn comisiynu trydydd parti i gynllunio a hwyluso digwyddiad Rhanddeiliaid Caerdydd Dinas Parc Cenedlaethol a rhoi cefnogaeth i sefydlu trefniadau llywodraethu fydd yn sicrhau momentwm i'r mudiad.