Back
Dillad Denim ar gyfer Dementia


21/5/21

Mae Arglwydd Faer Caerdydd yn cefnogi Wythnos Gweithredu Dementia eleni drwy wisgo'i jîns, i helpu i godi ymwybyddiaeth ac arian ar gyfer ei elusen ddewisol.

 

Mae'r Gwir Anrhydeddus Arglwydd Faer Caerdydd, y Cynghorydd Rod McKerlich, yn cefnogi Cymdeithas Alzheimer Cymru yn ystod ei gyfnod yn y swydd ac mae'n annog pobl i dynnu allan eu dyngarîs, siacedi denim, crysau neu hoff jîns i'w gwisgo ar gyfer yr ymgyrch 'Dillad Denim ar gyfer Dementia' yn ystod Wythnos Gweithredu Dementia (Mai 17 - 23).

 

Mae Wythnos Gweithredu Dementia yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o ddementia, yr heriau y mae pobl sy'n byw gyda'r clefyd a'u teuluoedd yn eu cael, yn ogystal â'r cyfoeth o waith cadarnhaol sy'n mynd rhagddo a'r gwasanaethau sydd ar gael i alluogi pobl sydd â dementia i fyw'n dda.

 

Dywedodd yr Arglwydd Faer: "Mae rhai o'r heriau a'r problemau y mae pobl sy'n byw gyda phrofiad o ddementia wedi dod i'r amlwg yn fwy yn ystod y pandemig, sydd wedi effeithio cymaint ar y boblogaeth oedrannus. Rwy'n gobeithio bod yr Wythnos Gweithredu Dementia hon yn gyfle i godi ymwybyddiaeth o'r materion hyn a hefyd codi arian y mae mawr ei angen fel y gall sefydliadau fel y Gymdeithas Alzheimer barhau â'u gwaith gwych yn cefnogi pobl sy'n byw gyda dementia, a'u teuluoedd."

 

Gall unrhyw un sy'n dymuno cefnogi elusen yr Arglwydd Faer gyfrannu yma:

Dillad Denim ar gyfer Dementia! (alzheimers.org.uk)Nodwch eich rhodd fel 'Elusen y Flwyddyn Arglwydd Faer Caerdydd'.

 

Dywedodd Jess Bowring, Rheolwr Codi Arian Cymdeithas Alzheimer: 'I bawb sy'n cymryd rhan yn ymgyrch Dillad Denim ar gyfer Dementia, diolch yn fawr! Heb gymorth gan bobl fel chi, fydden ni ddim yn gallu darparu gwasanaethau hanfodol nac ariannu ein hymchwil dementia arloesol. Rydych yn helpu i gefnogi pobl y mae dementia yn effeithio arnynt ar hyn o bryd wrth ariannu ymchwil i wella'r dyfodol. Os hoffech chi gael gwybodaeth am sut i ddod o hyd i gymorth neu sut i wirfoddoli, gallwch ffonio 07545 094 689 neu e-bostioJess.Bowring@alzheimers.org.uk.

 

Mae'r genhedlaeth iau yn gweithredu'r wythnos hon gyda chynllun ffrind drwy'r post newydd sy'n cael ei dreialu yn Ysgol Gynradd Gatholig Sant Joseff ac Ysgol Gynradd Millbank. Mae'r disgyblion yn mynd ati i ddrafftio llythyron at breswylwyr yng Nghanolfan Gofal yr Efail a Chartref Gofal Llys Trelái i rannu eu profiadau a darganfod mwy am eu ffrind drwy'r post newydd.

 

Mae hefyd gyfoeth o weithgareddau a digwyddiadau sy'n ystyriol o ddementia'n cael eu cynnal yr Wythnos Gweithredu Dementia hon, a phob wythnos yng Nghaerdydd wrth i'r Cyngor a'i bartneriaid geisio gwneud y ddinas yn gymuned sy'n fwy ystyriol o ddementia.

Gan weithio gyda Chymdeithas Alzheimer Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro, mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod Caerdydd yn fan lle mae pobl sy'n byw gyda'r clefyd a'u teuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi i fyw'n dda.

Mae gwybodaeth am lu o sesiynau cymdeithasol a lles ar-lein i'w gweld ar wefan Caerdydd Deall Dementia yn https://caerdydddealldementia.co.uk/ sydd hefyd yn rhoi manylion am wasanaethau ac adnoddau defnyddiol i gefnogi unigolion a theuluoedd, gan gynnwys adnoddau Darllen yn Dda ar gyfer Dementia.

Mae'r cynllun Llyfrau ar Bresgripsiwn yn darparu deunydd darllen defnyddiol i bobl sy'n cael profiad o ddementia, gan gynnwys llyfrau a ddewisir gan weithwyr iechyd proffesiynol a phobl sydd â phrofiad byw o'r cyflwr. Mae pob hyb a llyfrgell ar draws y ddinas yn stocio'r rhestr ddarllen - ewch idudalen llyfrgelloedd Caerdyddi gael gwybodaeth am adnoddau digidol, gwasanaethau clicio a chasglu llyfrau neu sut i archebu slot er mwyn pori drwy'r silffoedd yn eich hyb neu lyfrgell leol.

 

I gael rhagor o wybodaeth am Gaerdydd sy'n Deall Dementia, ewch ihttps://caerdydddealldementia.co.uk/