Back
LANSIO YMGYNGHORIAD CYHOEDDUS AR ARDAL DREFOL NEWYDD YNG NGLANFA'R IWERYDD, BUTETOWN

21/05/21


Mae ymgynghoriad cyhoeddus wedi'i lansio mewn perthynas â chynlluniau Cyngor Caerdydd i drawsnewid Glanfa'r Iwerydd, Butetown, Caerdydd.  Cyn cyflwyno'r cais cynllunio yn hydref 2021, gwahoddir trigolion a busnesau i rannu eu barn ar y cynnig a fydd yn creu cyrchfan newydd i ymwelwyr. 

Bydd Glanfa'r Iwerydd yn dod yn gyrchfan newydd yng Nghaerdydd gyda sgwâr cyhoeddus ac arena newydd, canolfan ddiwylliannol newydd, cyfleusterau manwerthu a hamdden, gwestai, maes parcio aml-lawr a chartrefi newydd. 

Y llynedd, penododd y Cyngor gonsortiwm o Robertson fel datblygwr, a Live Nation a Oak View Group fel gweithredwyr i gyflawni'r gwaith o adeiladu'r arena a'r gwesty newydd, a nawr ceisir barn y cyhoedd ar gynigion ar gyfer arena ac uwchgynllun ehangach Glanfa'r Iwerydd.

Dywedodd y Cynghorydd Russell Goodway, Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Fuddsoddi a Datblygu: "Cymeradwyodd y Cabinet yr uwchgynllun ar gyfer Glanfa'r Iwerydd ddiwedd y llynedd ac o ganlyniad rydym bellach yn barod i ddechrau'r broses ymgynghori â'r cyhoedd.  Drwy wneud defnydd gwell o'r gofod presennol, mae gennym gyfle i greu cyrchfan ragorol i ymwelwyr yn y DU, ardal ryngwladol flaenllaw ac amrywiol ei diwylliant i fyw, gweithio a mwynhau.    Gallai cysylltu Glanfa'r Iwerydd â Bae Caerdydd ddod â dros 1 miliwn o ymwelwyr i'r ddinas bob blwyddyn, gan arwain at greu miloedd o swyddi a chartrefi newydd.

"Wrth wraidd y cynnig mae'r ymgyrch i wella trafnidiaeth gyhoeddus ar draws yr ardal yn rhan o raglen Metro De Cymru, yn ogystal â chanolfan drafnidiaeth newydd fydd yn cysylltu'r Ddinas, y Bae a Llaneirwg er mwyn helpu pobl i deithio. Y bwriad, lle y bydd yn bosibl, yw cysylltu'r datblygiad â Rhwydwaith Gwres arfaethedig Caerdydd er mwyn galluogi Cyngor Caerdydd i gyflawni ei ddyheadau Un Blaned erbyn 2050.

"Mae'r consortiwm wedi ymrwymo i weithio gyda gwasanaethau i Mewn i Waith y Cyngor i sicrhau bod cyfleoedd gwaith a hyfforddiant yn cael eu creu yn ystod cyfnodau datblygu a gweithredu'r Arena a'r gwesty gan roi pwyslais ar nodi cyfleoedd gwaith i bobl leol."
Yn ystod y cyfnod ymgynghori, bydd modd gadael sylwadau ar y cynigion ar wefan sydd wedi'i chreu'n arbennig, ac mae holiadur wedi'i gynllunio i gasglu adborth.  Ym mis Mehefin, bydd y Cyngor a'r consortiwm yn cynnal nifer o sesiynau rhyngweithiol ar-lein a'r gobaith yw y bydd modd cynnal rhai digwyddiadau wyneb yn wyneb erbyn diwedd yr haf.

Dywedodd Graham Walters, Prif Swyddog Gweithredu Live Nation (Lleoliadau'r DU): "Mae'n hanfodol ein bod yn gwrando ar farn y gymuned leol o ran sut y gallwn gydweithio i greu cyrchfan o'r radd flaenaf i'r ddinas a'r ardal leol. Bydd yr arena newydd yn llenwi bwlch ym maes adloniant Caerdydd gan ddod â rhai o berfformwyr mwyaf blaenllaw'r byd, ynghyd ag ystod eang ac amrywiol o sioeau a digwyddiadau, i Gaerdydd.

"Bydd y cynigion sy'n cael eu cyflwyno yn trawsnewid yr ardal yn un o brif gyrchfannau trefol y DU, a fydd yn creu manteision economaidd ac adfywiol sylweddol ar gyfer y gymuned leol a'r rhanbarth ehangach."

Dywedodd Nick Harris, Cyfarwyddwr Eiddo Gweithredol Robertson: "Mae iechyd a lles cymdogion a phreswylwyr y safle yn ffactor allweddol i ni drwy gydol y broses ymgynghori ac rydym yn gobeithio y bydd llawer o'r gymuned yn ymgysylltu â ni'n rhithwir hyd nes y gallwn gyfarfod wyneb yn wyneb eto. 

"Er y bydd Glanfa'r Iwerydd yn dod yn gyrchfan allweddol i ymwelwyr, bydd hefyd yn dod yn rhan annatod o'r gymuned leol a dyna pam ei bod mor bwysig bod y gymuned yn gallu lleisio ei barn."

Dywedodd Mark Donnelly, Prif Swyddog Gweithredu, OVG International "Mae dechrau'r ymgynghoriad cyhoeddus yn gam pwysig yn y cynigion trawsnewidiol ar gyfer adfywio Glanfa'r Iwerydd. Rydym am i'r arena fod yn ganolfan i'r gymuned leol, felly mae'n hanfodol bod trigolion lleol yn gallu bwydo i mewn i'r cynlluniau a helpu i lunio'r prosiect. 

 "Mae'r arena yn gam pwysig yn natblygiad Caerdydd fel dinas gerdd o bwys a bydd yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau diwylliannol a theuluol. Yn bwysig, bydd hefyd yn cynhyrchu miliynau i'r economi leol ac yn creu miloedd o swyddi yn ystod y camau adeiladu ac ar ôl iddi agor."

Mae'r ymgynghoriad cyhoeddus bellach ar agor a gellir cael mwy o wybodaeth yn www.glanfariweryddcaerdydd.co.uk

Yn dilyn y cyfnod ymgynghori â'r cyhoedd, caiff y cais cynllunio ei gyflwyno ddiwedd yr hydref ac os caiff ei gymeradwyo, bydd y gwaith o adeiladu'r arena a'r gwesty newydd yn dechrau yng Ngwanwyn 2022.