Back
Dweud eich dweud ar ddyfodol Caerdydd

28/05/21
 
Rydym yn gofyn i drigolion Caerdydd ymuno ag ymgynghoriad mawr a fydd yn helpu i lunio dyfodol eu dinas dros y pymtheg mlynedd nesaf.

Yn lansio ddydd Gwener, 28 Mai, gofynnir i drigolion roi eu barn ar sut y dylai Caerdydd dyfu a datblygu er mwyn cwrdd â'r galw ar draws y pedwar prif maes canlynol:

  • Bodloni anghenion am gartrefi, swyddi a seilwaith yn y dyfodol;
  • Creu dinas iach a chynaliadwy sy'n ymateb i'r argyfwng hinsawdd, yn hyrwyddo cerdded a beicio, ac yn gwella lles trigolion;
  • Cefnogi canol y ddinas a Bae Caerdydd i sbarduno adferiad ôl-COVID;
  • Diogelu a gwella parciau, mannau agored, llwybrau afonydd, bioamrywiaeth ac asedau hanesyddol a diwylliannol Caerdydd.

Mae gwybodaeth ar yr ymgynghoriad - o'r enw ‘Llunio dyfodol Caerdydd' - ar gael yma www.cdllcaerdydd.co.uk. Gall trigolion fydd yn dilyn y ddolen ymweld ag arddangosfeydd rhithiwr a chymryd rhan mewn arolwg ar-lein ar y cynigion ar gyfer Cynllun Datblygu Lleol Newydd Caerdydd.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gynllunio Strategol a Thrafnidiaeth, y Cynghorydd Caro Wild: "Mae Caerdydd yn ddinas fywiog a chyffrous sy'n tyfu a welodd rai newidiadau anhygoel dros y 25 mlynedd diwethaf wrthi iddi ddod yn brifddinas ffyniannus Ewropeaidd. Nawr, wrth wynebu dwy her yr Argyfwng Hinsawdd a'r adferiad ôl-bandemig, rydym ar drobwynt yn natblygiad ein dinas. Bydd y penderfyniadau a wnawn nawr yn llunio'r ddinas fydd gennym ni.

"Rydyn ni eisiau i'n trigolion ein helpu i ddylunio Caerdydd y dyfodol, dinas gynaliadwy a fydd yn chwarae ei rhan wrth fynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd, dinas a fydd yn parhau i fod yn tanio  economi Cymru mewn byd ôl-COVID, a dinas lle gall pobl fyw bywydau iach, hapus a chyflawn mewn amgylchedd glân a fforddiadwy.

"Felly heddiw rydym yn dechrau cyfle cyffrous i adnewyddu sut rydym yn cynllunio ar gyfer dyfodol ein dinas ac yn ystyried pa fath o bolisïau y gallwn eu rhoi ar waith i lunio ardaloedd presennol a rheoli twf yn y dyfodol mewn ffordd gynaliadwy. Os nad ydych yn hoff o bolisi - dyma'r cyfle i'w newid. Bydd y CDLl newydd hwn yn llunio gwedd ac ymdeimlad y ddinas hyd at 2036, felly mae'n hanfodol bwysig bod trigolion Caerdydd yn cymryd rhan.

"Rydym wedi ymrwymo at sgwrs eang, agored a gonest gyda phawb sy'n cymryd rhan yn y broses hon am ddyfodol ein dinas, yn enwedig y dewisiadau y mae'n rhaid eu cydbwyso o ran y materion cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol a fydd yn sicr o lunio'r cynllun."

Yn unol â deddfwriaeth, ar ôl ei fabwysiadu, mae gan y cyngor ddyletswydd statudol i adolygu ei Gynllun Datblygu Lleol bob pedair blynedd i naill ai ei ddiweddaru, neu i symud ymlaen â CDLl Newydd.

Penderfynwyd gan Gabinet a Chyngor Llawn Cyngor Caerdydd i symud ymlaen gyda CDLl Newydd ar 18 Mawrth, 2021 - a rhoddwyd cymeradwyaeth i ymgynghoriad cyhoeddus ddechrau ym mis Mai. Mae Llywodraeth Cymru bellach wedi cymeradwyo'r 'Cytundeb Cyflawni' ar gyfer y cynllun newydd - sy'n nodi'r amserlen a chamau'r broses ymgynghori.

Mae camau cyntaf yr ymgynghoriad sy'n cael ei lansio heddiw yn canolbwyntio ar:

  • Gweledigaeth, materion ac amcanion drafft y cynllun newydd (ymgynghoriad 8 wythnos rhwng Mai 2021 a Gorffennaf 2021)
  • Yr Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig drafft (Ymgynghoriad 8 wythnos rhwng Mai 2021 a Gorffennaf 2021) sy'n nodi effeithiau cydraddoldeb, amgylcheddol a chynaliadwyedd y cynllun drafft, yn ogystal ag effeithiau ar y Gymraeg.
  • Galw am Safleoedd Ymgeisiol (Ymgynghoriad 8 wythnos rhwng Mai 2021 ac Awst 2021) sy'n berthnasol yn bennaf i dirfeddianwyr neu ddatblygwyr, gan ofyn a ydynt yn dymuno cyflwyno unrhyw dir y maent yn berchen arno i'w ystyried i'w ddatblygu yn y cynllun newydd.

Mae Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) yn gweithredu fel glasbrint ar gyfer dyfodol y ddinas ac yn galluogi'r cyngor i gael rheolaeth dros y gwahanol fathau o ddatblygiadau a adeiladir ledled y gwahanol ardaloedd yn y ddinas. Mae'r cynllun yn ymateb i'r materion a'r anghenion presennol y mae'r ddinas yn eu hwynebu drwy nodi strategaeth, cynigion a pholisïau ar sut y bydd y ddinas yn newid yn y dyfodol.

Mae'r arolwg ar-lein -  https://wh1.snapsurveys.com/s.asp?k=162196355426-  yn canolbwyntio ar weledigaeth, materion ac amcanion y cynllun newydd, a gofynnir i breswylwyr roi eu barn a'u blaenoriaethau ar yr 11 amcan drafft a gyflwynwyd yn y cynllun.

Ychwanegodd y Cynghorydd Wild: "Bydd paratoi'r CDLl newydd yn golygu gwneud dewisiadau, er mwyn i ni allu blaenoriaethu'r hyn sy'n bwysig i'n trigolion; ond mae'n bwysig i bawb ddeall y bydd y broses hon bob amser yn golygu rhywfaint o gyfaddawd.

"Roedd rhaid i CDLl presennol y ddinas ymateb i gyflenwad tai lleol cyfyngedig iawn a olygai fod angen iddo ddwyn ymlaen nifer fawr o gartrefi newydd i fodloni anghenion y ddinas. Heb fynd ati i adeiladu'r holl dai hyn, a'r tai fforddiadwy a chymdeithasol cysylltiedig, byddai ein hargyfwng tai yn llawer gwaeth, gyda hyd yn oed mwy o bobl yn methu fforddio cartref.

"Gan fod y cartrefi hyn yn cael eu hadeiladu erbyn hyn, rydym yn disgwyl man cychwyn gwahanol i'n CDLl newydd, gyda chyflenwad tai cryfach yn bodoli o'r cychwyn. Ond bydd rhaid iddo ymateb i'r heriau newydd yr ydym yn eu hwynebu, megis mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd, ansawdd aer gwael, gwella lles cenedlaethau'r dyfodol ac ymateb i'r problemau a godwyd gan y pandemig parhaus.

Yna mae tri cham ychwanegol i'r broses ymgynghori ar gyfer y cynllun newydd, sef:

  • Ymgynghoriad 10 wythnos rhwng Tachwedd 2021 a Chwefror 2022, ar yr 'Opsiynau Strategol', sy'n chwilio am sylwadau ar sut y gall y cynllun fynd i'r afael â'r problemau allweddol a nodwyd.
  • Gan ddefnyddio'r canfyddiadau hyn, defnyddir y manylion hyn wedyn i baratoi'r 'Strategaeth a Ffefrir', sef y cynllun drafft i bob pwrpas. Bydd hyn yn amlinellu ein hymateb i'r problemau allweddol a bydd yn cynnwys polisïau cynllunio ac yn nodi ymhle y caiff datblygiadau newydd eu lleoli yn y ddinas.
  • Yna cynhelir ymgynghoriad 8 wythnos rhwng Hydref 2022 a Thachwedd 2022 ar y 'Strategaeth a Ffefrir', er mwyn ystyried yr holl ymatebion cyn cwblhau'r ddogfen yn fersiwn derfynol y cynllun - â theitl ‘Cynllun ar Adnau'. Yn ystod y rhan hon o'r ymgynghoriad, gall trigolion roi sylwadau ar yr 'Arfarniad Cynaliadwyedd Integredig' (ACI) hefyd, gan roi cyfle i drigolion wneud sylwadau ar yr asesiad ar sut mae'r cynllun newydd yn mynd i'r afael â materion amgylcheddol, cydraddoldeb a chynaliadwyedd.
  • Yna caiff yr holl sylwadau hyn eu hystyried ac yna cynhyrchir y 'Cynllun ar Adnau' a'r adroddiad ACI terfynol, a cynhelir cam ymgynghori terfynol rhwng Hydref 2023 a Thachwedd 2023 ar y dogfennau hyn.
  • Caiff yr holl sylwadau gan y cyhoedd ar y 'Cynllun ar Adnau' eu hystyried gan Arolygydd annibynnol yn rhan o'r broses arholi sy'n penderfynu a ellir cymeradwyo'r cynllun yn ffurfiol.

Ar ôl i gamau'r ymgynghoriad cyhoeddus ddod i ben a phan fydd y dogfennau'n derfynol, bydd proses i'w dilyn cyn y gellir mabwysiadu'r CDLl. Bydd y broses hon yn dilyn y llinell amser ganlynol:

  • Bydd y Cynllun ar Adnau a'r ACI Terfynol yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2024
  • Bydd yr Arolygydd Cynllunio yn eu gwerthuso rhwng Mawrth 2024 a Medi 2024
  • Disgwylir i Lywodraeth Cymru ddychwelyd yr adroddiad Arolygu ym Medi 2024
  • Adroddiad i'r Cyngor Llawn i fabwysiadu'r CDLl Newydd ym mis Hydref 2024.