Back
Dweud eich dweud ar ddyfodol Caerdydd

01/06/21

Mae trigolion, pobl fusnes a rhanddeiliaid Caerdydd yn cael eu gwahodd i ymuno â sgwrs ac ymarfer ymgysylltu am ddyfodol eu dinas mewn byd ar ôl y pandemig.

Bydd strategaeth adfer ac adnewyddu'r ddinas - Gwyrddach, Tecach, Cryfach - yn cael ei lansio ddydd Iau, 3 Mehefin, rhwng 9.30am ac 11am, ac mae gwahoddiad agored i unrhyw un sydd â diddordeb yn nyfodol Caerdydd i ymuno.

Bydd arweinydd Cyngor Caerdydd, y Cynghorydd Huw Thomas, a Phennaeth Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio Prifysgol Caerdydd, yr Athro Gill Bristow, yn ymuno ag arbenigwr blaenllaw o ran dinasoedd, Dr Tim Williams, wrth iddynt ddechrau ar gyfres o sgyrsiau a sesiynau ymgysylltu â'r cyhoedd ynglŷn â'r heriau a'r cyfleoedd y mae Caerdydd yn eu hwynebu ar ôl y pandemig.

Bydd y 'sgwrs' gyntaf ar ffurf gweminar a gall unrhyw un sy'n dymuno ymuno wneud hynny drwy gofrestru i fod yn rhan ohoni  yma. 

Wrth siarad cyn y digwyddiad mae Dr Williams, sydd ag 20 mlynedd o brofiad yn gweithio'n genedlaethol ac yn rhyngwladol yn datblygu polisïau rheoli trefol a dinesig ar gyfer dinasoedd mawr fel Llundain a Sydney, ac sydd wedi ysgrifennu adroddiad am ddyfodol prifddinas Cymru, yn dweud bod Caerdydd mewn sefyllfa dda i fanteisio ar y cyfleoedd niferus a fydd yn deillio o'r byd ar ôl Covid.

Wrth ysgrifennu yn yr adroddiad ‘Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19', dywed Dr Williams: "Ar ddechrau'r argyfwng byd-eang hwn, roedd Caerdydd mewn cyflwr da a, chyda'r ysbryd, y strategaeth, y cydweithrediadau a'r arloesedd cywir, gall ddod yn ôl yn gryfach byth. Wrth wneud hynny, gall ddarparu hyd yn oed mwy o fuddion i'w chymuned ei hun a chymuned y Ddinas-ranbarth. Gall Caerdydd ffynnu ar ôl Covid, gan gynnig gwell safon bywyd i'w thrigolion ynghyd â rhaglen economaidd ar gyfer adferiad 'gwyrdd' sy'n seiliedig ar dechnoleg.

"Mae cyfle i Gaerdydd, wedi'i symbylu gan Covid-19, ddod yn batrwm ar gyfer dinasoedd eraill o'r un maint. Gan adeiladu ar ei chryfderau sefydledig a pharhaus, yr uchelgais sydd ganddi i lwyddo, sgiliau a dychymyg ei phobl a'r arweinyddiaeth y mae eisoes wedi'i dangos, nid yn unig y bydd Caerdydd yn adfer i'w sefyllfa cyn y pandemig - does dim amheuaeth am hynny - ond bydd hi'n dod yn ôl yn gryfach wrth i'r Cyngor ailgychwyn yr hyn y gall ei wneud ond hefyd ailfeddwl beth sydd angen iddo ei wneud." 

Comisiynwyd yr adroddiad 28 tudalen gan Gyngor Caerdydd yn benodol i herio'r awdurdod ac i fireinio ei strategaethau a'i ymyriadau ei hun ar gyfer adferiad llwyddiannus ar ôl y pandemig.

Mae'n cwmpasu ystod eang o fesurau y mae'n argymell y dylai'r cyngor eu hystyried, gan gynnwys:

  • Rhaid rhoi ffocws allweddol ar ddyfodol canol y ddinas gan ei wneud yn ddeniadol i ymwelwyr, gweithwyr a busnesau ar ôl COVID;
  • Rhaid i Gaerdydd gadw'i statws fel dinas y digwyddiadau mawr o ran chwaraeon a diwylliant, ac adeiladu arno;
  • Rhaid i Gaerdydd sicrhau ei bod yn parhau i fod yn ddinas iach i fyw ynddi gydag aer glân, mannau cyhoeddus o ansawdd uchel, parciau ac ardaloedd gwyrdd;
  • Rhaid i Gaerdydd ddefnyddio'r momentwm o amgylch yr agenda 'Gwyrdd', a manteisio ar y sectorau technoleg a gwybodaeth sydd eisoes yn datblygu yn y ddinas, i ddenu buddsoddiad a chyflawni swyddi;
  • Mae 'safon byw' yn ganolog i'r hyn y bydd angen i'r ddinas fod er mwyn cadw a datblygu a denu talent a buddsoddiad.
  • Mae adeiladu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus addas a fydd yn galluogi'r ddinas i gael ei chroesi'n rhwydd yn hanfodol. 

Meddai Dr Williams: "Mae angen dybryd i Lywodraeth Cymru gefnogi ei phrifddinas drwy'r cyfnod pontio hwn a gweithio'n agosach fyth gyda'r cyngor ar ddulliau cyffredin o arloesi a buddsoddi.

Caerdydd yw'r ‘ŵydd ddinesig' sydd gan Gymru sy'n gallu dodwy'r math o wy aur y mae gwledydd ei hangen ac yn disgwyl gan eu dinasoedd.  Does dim dewis arall

"Mae'n hanfodol wrth symud ymlaen bod Llywodraeth Cymru, oherwydd pwysigrwydd y ddinas a'i heriau a'i chyfleoedd, yn ystyried y Cyngor 'yn bartner cyfartal' o ran llywodraethu. Yn y gystadleuaeth am fuddsoddiad a thalent, y dinasoedd llwyddiannus fydd y rhai hynny sydd â'r pŵer angenrheidiol i wneud, cydlynu ac ariannu penderfyniadau ynghylch materion ac asedau allweddol, megis dyfodol trafnidiaeth yn y ddinas neu adnoddau ar gyfer adfywio ardaloedd neu adnewyddu ystadau.

"Mae'r strategaethau pwysig ar gyfer cynnal ac adnewyddu Ardal Fusnes Ganolog (AFG) Caerdydd a'r economi wybodaeth ac ar gyfer ysgogi prosiectau dinesig mawr Caerdydd - yr Orsaf Ganolog, y Bae, Parcffordd Llaneirwg, yr ardaloedd arloesi newydd, Metro newydd y Cymoedd a'r rhwydwaith ddinesig - yn gofyn am bartneriaeth aeddfed a dychmygus rhwng Caerdydd a Llywodraeth Cymru, gyda phob un yn cyfrannu, er budd cydfuddiannol a chenedlaethol. Yn rhyngwladol, mae'r canlyniadau gorau'n dod pan fo llywodraethau'n croesawu cydweithrediad â'u prif ddinasoedd."

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydym wedi defnyddio adroddiad Dr Williams i helpu i lywio a llunio ein syniadau a'n strategaethau ar gyfer arwain Caerdydd i'r byd ar ôl y pandemig. Mae'r Cyngor hwn yn benderfynol o sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'w holl drigolion. Rydyn ni wedi llunio cynlluniau a fydd, yn ein barn ni, yn helpu Caerdydd i adfer o'r pandemig - cynlluniau a all fod o fudd i bawb sy'n byw ac yn gweithio yma. Hoffwn ddechrau sgwrs Uchelgais Prifddinas newydd â dinasyddion a rhanddeiliaid y ddinas am sut y gallwn lunio ac arwain y gwaith o adfer ac adfywio prifddinas Cymru. Rydyn ni am adeiladu Caerdydd newydd, dinas sy'n gweithio i bawb sy'n byw ynddi, ac sy'n gweithio i Gymru. Dinas a fydd yn parhau i dyfu a ffynnu yn yr un modd ag a wnaeth dros yr 20 mlynedd diwethaf. Dinas wych i fyw ynddi ac un sy'n gallu parhau i bweru llwyddiant economaidd Cymru."

Bydd rhaglen o ymgysylltu â'r cyhoedd, rhanddeiliaid y ddinas a phartneriaid gwasanaethau cyhoeddus yn cael ei chynnal dros yr haf, yn dilyn y digwyddiad lansio ar 3 Mehefin, a bydd y canlyniadau'n cael eu hadrodd yn ôl i Gabinet Cyngor Caerdydd i'w hystyried yn yr hydref.

I ddarllen mwy am greu Caerdydd Wyrddach, Tecach a Chryfach, ac adroddiad Dr Tim Williams ‘Symud Caerdydd Ymlaen ar ôl COVID-19', cliciwch yma  Ail-adeiladu Caerdydd newydd, wyrddach, cryfach a thecach ar ôl COVID (newyddioncaerdydd.co.uk) 

Mae gan Dr Williams dros 20 mlynedd o brofiad yn gweithioar y lefel uchaf yn y sectorau preifat a chyhoeddus ym maes tai a datblygu trefol. Bu'n Brif Swyddog Gweithredol prosiect Thames Gateway yn Nwyrain Llundain ac fe'i hystyrir yn arbenigwr cynllunio blaenllaw ym maes tai yn Awstralia a'r DU, lle bu'n ymgynghorydd i bump o weinidogion tai y DU.

Mae Gill Bristow yn Athro Daearyddiaeth Economaidd ac yn Bennaeth yr Ysgol Daearyddiaeth a Chynllunio ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae'n gwneud gwaith ymchwil am wydnwch economaidd dinesig a rhanbarthol, ac mae'n aelod o Gomisiwn UK2070, sef ymchwiliad annibynnol i anghydraddoldebau dinesig a rhanbarthol yn y DU.

Deg peth am Gaerdydd sydd o fantais iddi yn ôl adroddiad Dr Williams

  1. Caerdydd yw prifddinas wleidyddol, diwylliannol a busnes Cymru.
  2. Mae'n un o Ddinasoedd Craidd y DU sy'n rhoi potensial lobïo pwysig iddi
  3. Mae gan y ddinas nifer sylweddol o brosiectau datblygu mawr yn yr arfaeth
  4. Mae gan Gaerdydd ardal gyhoeddus sy'n gwella'n barhaus o ran pa mor ddeniadol yw hi, a hawdd ei cherdded a'i beicio
  5. Statws cynyddol fel prifddinas genedlaethol Cymru gyda chymuned gosmopolitan
  6. Ardal y Bae sydd wedi'i hadfywio, ac sy'n dal i adfywio
  7. Sector prifysgol sy'n perfformio'n dda iawn gyda rhagoriaeth ymchwil, a rhai o'r ysgolion sydd wedi gwella fwyaf yn y wlad
  8. Mae gan Gaerdydd o leiaf ddwy ardal arloesi sy'n tyfu, mewn gwasanaethau digidol, technoleg ariannol a busnes
  9. Gallu unigryw i gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr yng nghanol y ddinas
  10. Canol dinas amlbwrpas ac amrywiol sydd wedi'i hadnewyddu - ac sy'n parhau i adnewyddu - gyda'r unig Ardal Fusnes Ganolog yng Nghymru

Pum peth sydd angen ar Gaerdydd yn ôl  adroddiad Dr Williams

  1. Rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod rôl unigryw'r  ddinas i Gymru
  2. Rhaid i dwf fod yn gynhwysol a'i rannu â phob cymuned ar draws y ddinas
  3. Mae system drafnidiaeth gyhoeddus effeithlon a modern yn flaenoriaeth
  4. Bydd iechyd a lles y cyhoedd yn ganolog i greu dinas lwyddiannus
  5. Dylai'r agenda werdd chwarae rhan allweddol wrth greu hunaniaeth newydd yng Nghaerdydd