Back
Uchafbwyntiau'r Gymraeg a amlinellir yn yr adroddiad blynyddol


11/6/21

Ymhlith rhai o uchafbwyntiau adroddiad blynyddol Safonau'r Gymraeg y Cyngor ar gyfer 2020/21 mae Strategaeth Sgiliau Iaith newydd, cynnydd yn nifer y swyddogion â sgiliau Cymraeg a'r ganran uchaf erioed o blant ysgol yn cael eu derbyn i ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg yn y ddinas.

 

Hefyd ymhlith y prif gyflawniadau yn yr adroddiad blynyddol, sydd i'w ystyried gan y Cabinet yn ei gyfarfod nesaf ddydd Iau 17 Mehefin, y mae cynnydd o 114% yn nifer y swyddi yn y Cyngor sy'n cael eu hysbysebu fel ‘Cymraeg yn ddymunol', tîm cyfieithu'r Cyngor, Caerdydd Ddwyieithog, yn cyfieithu dros 11.6 miliwn o eiriau a dros 3,400 o aelodau o staff yn cwblhau modiwl Ymwybyddiaeth Iaith newydd.

 

Mae adroddiad 2020/21, y mae'n rhaid i'r Cyngor ei gyhoeddi i fanylu ar sut mae'n cydymffurfio â Safonau'r Gymraeg, yn nodi sut mae'r awdurdod wedi perfformio wrth ddefnyddio'r Gymraeg mewn gwahanol sefyllfaoedd dros y 12 mis diwethaf.

 

Mae'r adroddiad yn cynnwys gwybodaeth am nifer y cyflogeion sydd â sgiliau Cymraeg, cyfleoedd hyfforddiant cyfrwng Cymraeg i staff, nifer y swyddi sy'n cael eu hysbysebu lle mae sgiliau Cymraeg naill ai'n hanfodol neu'n ddymunol, a hefyd nifer y cwynion a dderbynnir mewn perthynas â chydymffurfio â'r safonau.

 

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Mae tyfu'r Gymraeg yng Nghaerdydd, yn unol â gweledigaeth Cymraeg 2050 Llywodraeth Cymru ar gyfer miliwn o siaradwyr Cymraeg ledled y wlad, a hwyluso'r defnydd o'r iaith ymhlith staff, cwsmeriaid, trigolion ac ymwelwyr wrth wraidd ein strategaeth i ddod yn brifddinas wirioneddol ddwyieithog.

 

"Mae adroddiad blynyddol Safonau'r Gymraeg eleni yn dangos ein bod yn cyflawni lefelau uchel o gydymffurfiaeth ac yn gwneud cynnydd da tuag at y weledigaeth o fod yn ddinas ddwyieithog wrth i ni weld addysg cyfrwng Cymraeg, sy'n sbardun allweddol i dwf y Gymraeg yn y ddinas, yn ffynnu yn ogystal â chynnydd nodedig pellach mewn staff â sgiliau Cymraeg yn ein gweithlu ein hunain."

 

Lansiwyd Strategaeth Sgiliau'r Gymraeg ar 1 Mawrth 2021 fel rhan o neges Dydd Gŵyl Dewi yr Arweinydd ac mae'n amlinellu sut y bydd holl staff y Cyngor yn cael cyfle i ymgymryd â hyfforddiant Cymraeg i gyrraedd lefel benodol o ruglder. Mae hefyd yn nodi y bydd yr holl swyddi sy'n delio â chwsmeriaid yn gofyn am sgiliau Cymraeg a/neu sgiliau iaith gymunedol fel gofyniad dymunol.

 

Mae ffigurau o'r flwyddyn ddiwethaf yn dangos bod y Cyngor eisoes yn perfformio'n dda yn y meysydd hyn gyda chynnydd o 7.86% yn nifer y staff â sgiliau Cymraeg, 227 o swyddi Cymraeg dymunol yn cael eu hysbysebu yn 2020/21 a modiwl Ymwybyddiaeth Iaith newydd yn cael ei gwblhau gan 3,470 aelod o staff hyd yma.

 

Dyrannwyd lleoedd i gyfanswm o 764 o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg - 18.5% o gyfanswm y niferoedd a dderbyniwyd i ysgolion Caerdydd, a chyfieithodd Caerdydd Ddwyieithog 11,624,764 o eiriau yn ystod 2020-21.

 

Ar ôl cael ei ystyried gan y Cabinet ar 17 Mehefin, bydd yr adroddiad blynyddol yn cael ei drafod yn y Cyngor Llawn ar 24 Mehefin a'i gyhoeddi'n ddiweddarach ar wefan y Cyngor yn www.caerdydd.gov.uk/caerdydd-ddwyieithog