Back
Caerdydd yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi cynlluniau adfer COVID y ddinas

11/06/21

Mae darparu cysylltiad 'Highline' tebyg i Efrog Newydd, yn cysylltu canol dinas Caerdydd â'r Bae, adfer mawredd Fictoraidd Marchnad Caerdydd a chreu Parth Ieuenctid newydd yn Nhrelái yn dri chynllun yn unig o blith y  prosiectau y mae Cyngor Caerdydd yn eu datblygu'n rhan o raglen 'Codi'r Gwastad' Llywodraeth y DU.

Mae'r rhaglen yn galw ar gynghorau i gynnig ceisiadau i rownd gyntaf Cronfa bedair blynedd Codi'r Gwastad, sy'n werth £4.8bn, ac sydd â'r nod o roi hwb i brosiectau a helpu ardaloedd ledled y DU i adfywio ar ôl y pandemig.

Gall awdurdodau lleol wneud cais am arian ar gyfer un prosiect fesul etholaeth seneddol, ynghyd ag un prosiect arall sy'n gysylltiedig â thrafnidiaeth.  Mae hyn yn golygu y gall Caerdydd wneud cais am gyfanswm o hyd at bum prosiect sy'n cwmpasu Canol Caerdydd, De Caerdydd a Phenarth, Gorllewin Caerdydd, Gogledd Caerdydd, a'r prosiect trafnidiaeth ychwanegol.

Bydd adroddiad i Gabinet Cyngor Caerdydd ddydd Iau, 17 Mehefin, yn argymell bod y Cyngor yn gwneud cais am arian ar gyfer y prosiectau canlynol:

 

  • Y cysylltiad 'Highline' rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd (cais trafnidiaeth);
  • Adfer Marchnad Caerdydd (Canol Caerdydd);
  • Darparu 'Parth Ieuenctid' newydd ar gyfer Trelái (Gorllewin Caerdydd);
  • Prosiect Coridor Afon Taf - agor glannau Caerdydd (De Caerdydd a Phenarth);
  • Atyniad newydd i ymwelwyr yn canolbwyntio ar natur yn Fferm y Fforest (Gogledd Caerdydd).

 

Os caiff ei gymeradwyo gan y Cabinet, bydd cais Marchnad Caerdydd yn mynd yn ei flaen ar gyfer rownd un ceisiadau'r gronfa.  Yna bydd gwaith datblygu manylach yn cael ei wneud ar y prosiectau eraill cyn eu cyflwyno mewn cylchoedd ariannu diweddarach.

Dywedodd y Cynghorydd Huw Thomas, Arweinydd Cyngor Caerdydd: "Rydym yn galw ar Lywodraeth y DU i gefnogi'r cynigion hyn.  Rydym wedi bod yn gweithio ar sawl syniad yn y cefndir ers peth amser a gallai'r cyfle hwn i sicrhau buddsoddiad ein helpu i roi hwb i'r prosiectau hyn, dod â swyddi a rhoi hwb hanfodol i'r ddinas wrth i ni geisio adnewyddu ac adfywio Caerdydd a dechrau ein hadferiad o effeithiau'r pandemig.  Mae'r rhain yn gynlluniau a allai fod o gymorth mawr i gymunedau a busnesau ledled y ddinas.  Mae Llywodraeth y DU eisoes wedi cydnabod bod Caerdydd yn faes Blaenoriaeth 1 sydd ag angen codi'r gwastad, felly mae'n hanfodol bwysig eu bod yn dod ar y daith hon gyda ni ac yn cefnogi'r cynlluniau hyn."

Mae'n rhaid cyflwyno'r cylch cyntaf o geisiadau erbyn 18 Mehefin a disgwylir y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud cyhoeddiad ar geisiadau llwyddiannus yn ddiweddarach yn y flwyddn.

Cynigion Caerdydd yn fanwl

Highline Bae Caerdydd - Prosiect trafnidiaeth

Cynllun a arweinir gan drafnidiaeth sy'n perthyn i'r categori o gynigion 'eithriadol' sy'n caniatáu £50m o gyllid o Gronfa Codi'r Gwastad.

 

Byddai prosiect Highline yn darparu cynllun trafnidiaeth ac adfywio cynhwysfawr gyda thramlein newydd yn rhedeg o ganol y ddinas ar draws Sgwâr Callaghan, Rhodfa Lloyd George a Stryd Bute, drwy Glanfa'r Iwerydd i Stryd Pen y Lanfa. Wrth wraidd y cynllun mae creu parc trefol a fyddai'n cymryd rhan sylweddol o Rodfa Lloyd George ac a fyddai'n ailgysylltu Stryd Bute â gweddill ardal y Bae gan agor mynediad drwy neu dros y wal reilffordd, sydd ar hyn o bryd yn rhannu'r cymunedau ar y naill ochr a'r llall.  Byddai'r Highline yn darparu llwybr teithio llesol newydd, gwyrdd ac yn creu cyrchfan ynddo'i hun rhwng canol y ddinas a Bae Caerdydd. Bydd y cynllun hefyd yn galluogi ymestyn y Metro gan sefydlu cyswllt tram/trên newydd rhwng Canol Caerdydd a'r Bae.  Yn ogystal, byddai'r prosiect hefyd yn gweld buddsoddi yn Stryd Bute a gerllaw iddi, yn rhan o raglen ddatblygu ehangach sy'n dod i gyfanswm o dros £100m o fuddsoddiad, y byddai'r cais Codi'r Gwastad ond yn rhan ohoni.

 

Coridor Afon Taf - De Caerdydd a Phenarth

Prosiect a gynlluniwyd i agor a helpu i fanteisio ar lannau afon Caerdydd a fyddai'n gweld pontydd newydd i gerddwyr a beicwyr yn cysylltu cymunedau ar ddwyrain a gorllewin Afon Taf rhwng canol y ddinas a Threm y Môr. Bydd prosiect Coridor Taf yn helpu i greu ardaloedd newydd o fannau agored cyhoeddus gwyrdd ar hyd ymyl y dŵr, yn ogystal â chyfleoedd hamdden a masnachol, gan gysylltu pobl yn well â glan yr afon.

Yn rhan o'r prosiect hwn, nodwyd yr angen am dair pont strategol bwysig yn Grangetown.  Un yn natblygiad newydd Bragdy Brains, y Cei Canolog, un yn natblygiad newydd Vastint ar Heol Dumballs, ac un yn y datblygiad a arweinir gan y cyngor yn Nhrem y Môr a fydd yn darparu cartrefi cyngor newydd o ansawdd uchel y mae mawr eu hangen ochr yn ochr â chartrefi fforddiadwy.

 

Fferm y Fforest - Gogledd Caerdydd

Atyniad newydd i ymwelwyr sy'n canolbwyntio ar natur ac sy'n ystyriol o deuluoedd yng ngogledd y ddinas ym Mharc Gwledig Fferm y Fforest, yn arddangos y gorau o awyr  agored Caerdydd. Mae Canolfan Gadwraeth Fferm Fforest yn gartref i Wasanaeth Wardeniaid Parc Cymunedol Caerdydd ac mae'n safle hyb ar gyfer gwirfoddoli amgylcheddol ym mharciau a mannau gwyrdd y ddinas. Byddai'r cynnig hwn yn creu atyniad newydd i ymwelwyr, adnewyddu ac uwchraddio adeiladau sy'n bodoli eisoes, darparu mannau awyr agored i deuluoedd eu mwynhau, cyfleusterau newydd i ymwelwyr a gwell mannau i drigolion a chymunedau lleol eu defnyddio.

 

Marchnad Caerdydd - Canol Caerdydd

Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar adfer y farchnad dan do Fictoraidd rhestredig Gradd Dau gan godi ei statws fel cyrchfan i dwristiaid ac atyniad allweddol ar gyfer siopa, bwyd a diod.  Bydd y prosiect yn adfer y tu mewn a'r tu allan i'r adeilad gan wella mynedfeydd a nodweddion gwreiddiol.  Yn gynyddol, mae marchnadoedd sydd wedi'u hadfer yn elfen ganolog o seilwaith twristiaeth dinasoedd.  Mewn lleoedd fel Madrid a Lisbon mae eu marchnadoedd allweddol ymhlith atyniadau mwyaf poblogaidd y dinasoedd ac mewn mannau eraill yn Ewrop mae dinasoedd llai hefyd yn datblygu eu marchnadoedd fel atyniadau allweddol i ymwelwyr.

 

Parth Ieuenctid - Gorllewin Caerdydd

Gan weithio gydag elusen o'r enw On Side, mae'r parth ieuenctid yn gyfleuster newydd i bobl ifanc yng Ngorllewin y ddinas a fydd yn cael ei staffio gan weithwyr ieuenctid medrus ac ymroddedig a fydd yn helpu i ddarparu mynediad fforddiadwy i bobl ifanc leol, rhwng 8 ac 19 oed, neu hyd at 25 oed ag anabledd, i chwaraeon o ansawdd uchel, cyfleusterau a gweithgareddau celf a hamdden, saith diwrnod yr wythnos, 52 wythnos y flwyddyn. Bydd y cynnig yn cael ei ategu gan wasanaethau targedig yn cefnogi cyflogadwyedd, lles ac iechyd. Ei nod fydd helpu pobl ifanc o ardaloedd sydd o dan anfantais economaidd i fyw bywydau cadarnhaol a boddhaus.

Bydd Cyngor Caerdydd hefyd yn cyflwyno prosiectau gan sefydliadau partner gwerth tua £800k i Gronfa Adnewyddu Cymunedol Llywodraeth y DU ar gyfer 2020/21.  Mae'r gronfa hon o £220miliwn ledled y DU ar gyfer prosiectau sy'n buddsoddi mewn sgiliau, busnesau lleol, cymunedau a lleoedd, a chefnogi pobl i mewn i waith. Fodd bynnag, yn wahanol i Gronfa Codi'r Gwastad, nid yw Caerdydd yn cael ei hystyried yn faes blaenoriaeth gan Lywodraeth y DU ar gyfer y gronfa hon. Serch hynny, anfonodd y cyngor alwad agored am Brosiectau Adnewyddu Cymunedol ac ers hynny mae'r awdurdod wedi gweithio gyda grwpiau a sefydliadau i gyflwyno ceisiadau am brosiectau sy'n canolbwyntio ar gymorth menter, cymorth cyflogaeth a buddsoddi mewn cymunedau a lle.  Mae ceisiadau yn amrywio o £5 mil i £215 mil. Caiff y prosiectau hyn eu hasesu gan Lywodraeth y DU a fydd yn gwneud penderfyniad yn ddiweddarach yn y flwyddyn.