Back
Cyhoeddi enillwyr 'Lluniwch eich Dinas' Caerdydd sy'n Dda i Blant - Pobl ifanc yn helpu i lunio Caerdydd trwy ddefnyddi


15/6/2021
 
Mae cystadleuaeth unigryw wedi rhoi cyfle i ddisgyblion ysgol ail-ddylunio ardal o Gaerdydd trwy ddefnyddio'r llwyfan gêm rhithwir, Minecraft Education.

Roedd 'Lluniwch Eich Dinas' yn gwahodd plant a phobl ifanc i helpu i lunio dyfodol y tir sydd wedi'i leoli y tu ôl i'r Amgueddfa Genedlaethol yng nghanol y ddinas.

Madeleine John

 

Y fenter Caerdydd sy'n Dda i Blant, a lansiwyd gan Gyngor Caerdydd mewn partneriaeth â Phrifysgol Caerdydd, yw'r cyntaf mewn cyfres o brosiectau sydd â'r nod o gynnwys plant a phobl ifanc mewn amrywiaeth o ddatblygiadau strategol trwy ddefnyddio'r llwyfan gêm rhithwir.

Benjamin Davis

 

Dewiswyd enillwyr gan banel dyfarnu o gynrychiolwyr o Brifysgol Caerdydd, Caerdydd sy'n Dda i Blant a pherson ifanc o Fwrdd Cynghori Caerdydd sy'n Dda i Blant. Cawsant eu gwobrwyo am eu creadigrwydd, eu harloesedd a'u gallu technegol. Bydd eu syniadau a'u themâu'n cael eu datblygu'n awr a byddant yn dylanwadu ar sut y caiff y tir ei ail-ddylunio.

Elise Rowlands

 

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Y fenter 'Lluniwch Eich Dinas' yw'r cyntaf o sawl prosiect a fydd yn gofyn i blant a phobl ifanc ymgysylltu a mynegi eu syniadau ynglŷn â datblygiadau mawr trwy gyfrwng Minecraft Education.

"Gan ganolbwyntio ar leoedd awyr agored, yr amgylchedd a gwella'r ddinas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, mae'n rhoi cyfle i'w lleisiau gael eu clywed trwy lwyfan y maent yn gyfarwydd ag ef.

"Roedd safon y ceisiadau'n rhagorol. Hoffwn longyfarch yr enillwyr ac edrychaf ymlaen yn fawr at weld sut bydd eu syniadau'n cael eu datblygu mewn bywyd go iawn."

"Mae dyheadau Caerdydd i ddod yn Ddinas sy'n Dda i Blant a gydnabyddir yn rhyngwladol, gan roi hawliau a lleisiau plant a phobl ifanc wrth wraidd polisïau, strategaethau a gwasanaethau'r ddinas, yn mynd rhagddynt.

Ychwanegodd y Cyng. Merry, "Mae Unicef UK wedi argymell yn ddiweddar y dylai'r Cyngor wneud cais i gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant dros y misoedd nesaf, gan gydnabod y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud i gynnwys plant a phobl ifanc yn y broses o wneud penderfyniadau."

 

Jacob Behrens

 

 

Mae'r dull digidol hwn, a ddatblygwyd gan Wasanaeth Addysg Caerdydd ac Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd, yn gosod cyfres o heriau bywyd go iawn ac mae'n ffordd i bobl ifanc rannu eu syniadau ynglŷn â sut olwg yr hoffent ei weld ar Gaerdydd yn y dyfodol.

Caiff yr ymgeiswyr gynrychiolaeth ddaearyddol gywir o'r safle lle gall pobl ifanc greu eu bydoedd a'u profiadau eu hunain, gan ganolbwyntio ar gadw a hyrwyddo mannau gwyrdd.

Daniel Powell

 

Dywedodd Dr Catherine Teehan o Ysgol Cyfrifiadureg Prifysgol Caerdydd: "Roedd dawn amlwg yn y ceisiadau'n rhyfeddol ac roedd y safon mor uchel fel penderfynwyd dyfarnu nifer o enillwyr ym mhob categori fel y gellir datblygu sawl syniad a thema.

"Mae Ysgol Cyfrifiadureg Caerdydd wedi bod yn gweithio fel rhan o raglen Technocamps ers y saith mlynedd diwethaf.  Mae gennym dîm allgymorth pwrpasol yn yr ysgol sydd wedi ymrwymo i gynnig cymorth ac adnoddau ar gyfer addysg ddigidol ledled De-ddwyrain Cymru. 

"Rydym yn llawn cyffro i fod yn rhan o'r fenter arloesol hon yn ein dinas ac i fod yn defnyddio dysgu sy'n seiliedig ar gemau i ymgysylltu ag amrywiaeth eang o blant a phobl ifanc." 

 

Mae enillwyr o'r categori ceisiadau unigol yn cynnwys:

Madeleine John -Ysgol Gynradd Dinas Llandaf yr Eglwys yng Nghymru

Benjamin Davis -Ysgol Gynradd Rhiwbeina

Elise Rowlands -Ysgol Gynradd Rhydypenau

Jacob Behrens -Ysgol Gynradd Radnor

Daniel Powell -Ysgol Stanwell

 

Mae'r Timau Buddugol yn cynnwys:

Paradee (Arweinydd y Tîm: Koby Cummings) -Oasis Brislington

The Bini Boys (Arweinydd y Tîm: Paolo Bini) -Red Rose

Music Miners (Arweinydd y Tîm: Ava Pilbeam) -Ysgol Gynradd Romilly y Barri

Bicknell + Silk (Arweinydd y Tîm: Cari Bicknell) -Ysgol Plasmawr

 

Mae Minecraft Education yn gêm fideo aml-lwyfan sy'n gwella creadigrwydd, sgiliau datrys problemau, hunangyfeirio, sgiliau cydweithredu, a sgiliau bywyd eraill sy'n defnyddio blociau adeiladu, adnoddau a ddarganfyddir ar y safle a chreadigrwydd y defnyddwyr eu hunain.  

Mae Technocamps yn fenter a ariennir gan Lywodraeth Cymru sydd wedi galluogi Ysgol Cyfrifiadureg Caerdydd i sefydlu tîm allgymorth sy'n cynnwys dros 120 o fyfyrwyr sy'n Genhadon STEM. 

Mae Technocamps yn cyflwyno gweithdai am ddim i ysgolion yn Ne-ddwyrain Cymru ac yn cefnogi datblygiad proffesiynol parhaus athrawon ar draws y rhanbarth. Mae'r cynllun hefyd yn cynnal digwyddiadau teuluol a chymunedol lle cyflwynir gweithdai digidol i hwyluso prosiectau creadigol digidol ar raddfa fach. 

Ym mis Tachwedd 2018, lansiodd Caerdydd Strategaeth Caerdydd sy'n Dda i Blant, gan nodi
uchelgais Caerdydd i gael ei chydnabod yn Ddinas sy'n Dda i Blant ac amlinellu ei nodau allweddol i ddarparu'r fframwaith i gyflawni hyn.

Ers hynny, mae Caerdydd wedi gwneud cynnydd sylweddol tuag at ymgorffori hawliau plant yn strategaethau'r Cyngor a'r ffordd y caiff ein pobl ifanc eu cefnogi a'u meithrin.

I gael gwybod mwy am Gaerdydd sy'n Dda i Blant, ewch ihttps://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/