Back
Stori Llywelyn Bren yn cael ei hadrodd mewn atyniad newydd yng Nghastell Caerdydd
Brwydr ganoloesol yr arwr lleol Llywelyn Bren yn erbyn Siryf gormesol Morgannwg yw testun 'Hanesion y Tŵr Du,' atyniad teuluol newydd yng Nghastell Caerdydd.

Ymgasglodd gor-ŵyr Ifor Bach, Llywelyn Bren, y bobl leol ynghyd a'u harwain mewn gwrthryfel yn erbyn rheolaeth greulon y Sais o Siryf. Canlyniad y frwydr hon dros hawliau ei gydwladwyr oedd carcharu a llofruddio Llywelyn yn yr union fan y mae ei stori ddramatig yn cael ei hadrodd yn awr, dros 700 mlynedd yn ddiweddarach.

Payne de Turberville, y Siryf drwg, sy'n adrodd y stori gyda chymorth ei feistr y ddaeargell, Geraint y Gwalch, a'r llygod mawr sy'n byw yn nyfnderoedd y tŵr. Mae 'Hanesion y Tŵr Du' yn dod â'r cyfnod cythryblus hwn o hanes Cymru yn fyw mewn profiad cyffrous, deinamig.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Ddiwylliant a Hamdden, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Mae Castell Caerdydd yn enwog am ysblander ei ystafelloedd a gynlluniwyd gan Burges, ond fel y dangosir yn ddramatig yn y 'Hanesion y Tŵr Du,' mae ei hanes yn mynd yn ôl lawer ymhellach.

"Ymladdodd Llywelyn Bren dros hawliau ei gydwladwyr yn erbyn Siryf lleol gormesol. Mae carcharu a dienyddio Llywelyn ymhlith hanesion tywyll y Castell, mae'n hanes erchyll iawn, a'r gobaith yw y gallwn helpu ymwelwyr i ddeall y cyfnod hwn o hanes Cymru'n well drwy adrodd y stori yn y 'Hanesion y Tŵr Du."

Mae mynediad i 'Hanesion y Tŵr Du' yn costio £4.00 i oedolion a £3 i blant (gydag Allwedd y Castell, neu docyn mynediad cyffredinol - £12.50 oedolyn, £9 plentyn, consesiynau £10, Plant dan 5 oed AM DDIM).

Mae Castell Caerdydd ar agor rhwng 10am a 4pm (dydd Llun i ddydd Iau) a rhwng 9am a 5pm (o ddydd Gwener i ddydd Sul).

https://www.castell-caerdydd.com/