Back
Pwy Sy’n Dwad Dros Y Bryn? Gwên O Haf Ar Gyfer Plant A Phobl Ifanc Caerdydd

 22/6/21 

Mae rhaglen Gwên o Haf wedi'i pharatoi i wneud i blant a phobl ifanc Caerdydd wenu o glust i glust, gan ddechrau â thirwedd chwarae canol dinas llawn hwyl, sydd i agor wythnos hon.

 

Bydd mynd i dre yn llawer mwy cyffrous i blant nawr, ar ôl i leoliad yn benodol i deuluoedd wedi'i greu yn Ffordd Churchill, gyda ‘Bryn Roli Poli' mawr yn y canol.

 

Y dirwedd chwarae, a gaiff ei hagor ddydd Gwener 25 Mehefin, yw'r cyntaf o gyfres o weithgareddau a digwyddiadau a gynhelir ledled y ddinas drwy gydol gwyliau'r ysgol.

 

Trefnir 'Gwên o Haf' gan y Cyngor, gyda chefnogaeth partneriaid allweddol, yn rhan o agenda Da i Blant y Cyngor i adfer o'r pandemig a'i nod yw canmol cyflawniadau a gwydnwch pob plentyn a pherson ifanc yn y ddinas drwy'r flwyddyn anodd ddiwethaf a mwy. Dyluniwyd y rhaglen weithgareddau i annog plant i chwarae, symud a mwynhau eu hunain yn ar ôl y cyfnodau hir o gloi a dysgu o bell.

 

Mae'r adferiad, a'r cynlluniau haf, yn cydweddu'n agos ag uchelgais Caerdydd i gael ei chydnabod fel Dinas sy'n Dda i Blant, a'i pharatoadau i gyflwyno cais am gydnabyddiaeth fel Dinas sy'n Dda i Blant yn nes ymlaen eleni, fel y'i hargymhellir gan Bwyllgor UNICEF y DU.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sarah Merry, yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau: "Does dim amheuaeth bod plant a phobl ifanc Caerdydd wedi mynd drwy lawer yn y 15 mis diwethaf, ac am gyfnod hir doedd fawr ddim i wenu amdano.

 

"Mae'n bryd newid hynny ac rydyn ni'n mynd i wneud ein gorau glas i roi gwên yn ôl ar wynebau'n plant a'n pobl ifanc gan eu dathlu a dweud diolch wrthynt am fod eu hunain, a byddwn yn rhoi profiad haf bythgofiadwy am bob rheswm iawn iddyn nhw."

 

Bydd Bryn Roli Poli ar Ffordd Churchill yn cynnig ardal chwarae naturiol i blant, a chaiff ei amgylchynu gan osodiadau celf, ardal chwarae drefol, ardaloedd a choed wedi'u tirlunio, byrddau a seddi picnic.  Bydd gan deuluoedd gyfle i ymweld â'r hafan werdd yng nghanol ardal siopa'r ddinas, chwarae yno a mwynhau'r lleoliad creadigol.

 

Dywedodd y Cynghorydd Merry: "Bydd Bryn Roli Poli yn anhygoel. Mae gwaith wedi'i gynllunio ar gyfer Ffordd Churchill yn hwyrach eleni, felly rydym yn achub ar y cyfle i ddefnyddio'r lle i greu atyniad cyffrous i blant, pobl ifanc a theuluoedd, gan eu hannog i ddod yn ôl i ganol y ddinas.

 

"Dyma ran fach o haf a fydd yn llawn gweithgareddau sydd yn yr arfaeth, ond nid ydym yn datgelu ein cynlluniau mwy o faint ar gyfer gwyliau'r haf am y tro ac rydym yn gofyn i bawb gadw llygad amdani - rydym yn llawn cyffro a byddwn yn rhannu'r manylion cyn bo hir.

 

"Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod yn bwriadu cynnal digwyddiadau a gweithgareddau ar sail pedair prif thema - Creadigrwydd a'r Celfyddydau, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Chwaraeon ac Anturiaethau, a Chwarae a Hwyl i'r Teulu. Rydyn ni eisiau cynnig digwyddiadau gyda rhywbeth at ddant pawb, felly o blantos bach i'r glasoed, bydd rhywbeth addas i bawb.

 

"Rydyn ni i gyd wedi ymrwymo i ymgorffori hawliau ac anghenion plant a phobl ifanc ym mhopeth a wnawn. Mae ein cynlluniau haf yn ffordd wych o ddangos ein huchelgais i Fod yn Ddinas Sy'n Dda i Blant UNICEF y DU wrth gynnig i blant a phobl ifanc rywbeth wirioneddol dda i'w cael yn gwenu o glust i glust."

 

 

Dilynwch sianeli cyfryngau cymdeithasol y Cyngor dros yr wythnosau nesaf am ragor o newyddion am Wên o Haf - yn dod yn rhan o'r ddinas yn agos atoch yn fuan!