Back
Hwb ariannol mawr i strydoedd mwy diogel Caerdydd


24/6/21
Mae cais ar y cyd i sicrhau cyllid ar gyfer mesurau a fydd yn helpu i wneud strydoedd Caerdydd yn lleoedd mwy diogel wedi bod yn llwyddiannus.

 

Dyfarnwyd £432,000 i Bartneriaeth Diogelwch Cymunedol Caerdydd, sy'n cynnwys sefydliadau gan gynnwys Cyngor Caerdydd, Heddlu De Cymru, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a phartneriaid statudol a thrydydd sector allweddol eraill, o gronfa Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref, sy'n rhan o gyhoeddiad cyllid o £18.4m ar gyfer cynlluniau ledled Cymru a Lloegr sy'n ceisio mynd i'r afael â throseddau cymdogaeth fel bwrglera, dwyn cerbydau a lladrad.

 

Caiff yr arian ei wario yng Nghaerdydd i gyflwyno nifer o fesurau newydd gan gynnwysteledu cylch cyfyng, gwell goleuadau a gwelliannau diogelwch ffisegol yn ardaloedd Grangetown a Butetown, teledu cylch cyfyng symudol i ymateb i ddigwyddiadau a materion ar draws y ddinas pan fo angen a gwell gwasanaeth atal troseddu i ddioddefwyr eildro, megis darparu monitro cloch y drws, gwelliannau diogelwch, marcio eiddo a gweithdai addysgol.

Bydd yr hwb ariannol hefyd yn ariannu dulliau newydd o nodi mannau lle ceir problemau gwrthgymdeithasol i lywio atal troseddu a cherbyd gorchymyn ymateb / atal troseddau newydd, gan ddarparu sylfaen i roi sicrwydd cymunedol a chyngor atal troseddu.

 

Bydd menter benodol Crimestoppers hefyd yn cael ei rhoi ar waith mewn ardaloedd lle mae cymunedau wedi codi pryderon i'r Cyngor am y lefelau uchel o ddigwyddiadau ac ymddygiad gwrthgymdeithasol.

 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Rwy'n falch iawn bod cais Caerdydd i'r Swyddfa Gartref wedi bod yn llwyddiannus gan fod hon wedi bod yn enghraifft wych o weithio mewn partneriaeth rhwng y Cyngor, Heddlu De Cymru a Chomisiynydd yr Heddlu a Throseddu ar fesurau a fydd yn helpu cymunedau i fod yn fwy diogel a theimlo'n fwy diogel. Bydd yr adnodd ychwanegol hwn yn gwella ein cydweithio ymhellach i wneud Caerdydd yn lle mwy diogel.

 

"Bydd cyllid y Swyddfa Gartref yn ein galluogi nid yn unig i fynd i'r afael ag achosion o droseddau meddiangar mewn mannau problemus penodol yn y ddinas, byddant yn helpu i'w hatal yn y lle cyntaf ac yn rhoi sicrwydd i breswylwyr mai eu diogelwch yw ein blaenoriaeth.

 

"Rydym hefyd wedi gweithio'n agos gyda thrigolion Butetown a Grangetown, gan wrando ar eu pryderon am ddiogelwch cymunedol yn eu hardaloedd lleol, i ddatblygu'r cais hwn.  Bydd mesurau fel mwy o deledu cylch cyfyng, gwell goleuadau, technolegau clyfar a chael y cymunedau eu hunain i gymryd rhan mewn ymgyrchoedd atal troseddu yn ein helpu i wneud gwahaniaeth gwirioneddol o ran atal troseddau meddiangar a throseddau eraill rhag difetha'r ardaloedd hyn a'n trigolion.

 

"At hynny, gyda'n partneriaid rydym wedi ymrwymo i weithredu a chynnal a chadw'r mesurau hyn yn y tymor hir er budd ein cymunedau am flynyddoedd i ddod."

 

Dywedodd Comander Rhanbarthol Caerdydd, y Prif Uwch-arolygydd Wendy Gunney: "Mae'r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer Butetown a Grangetown yn newyddion i'w groesawu'n fawr.

"Bydd gwella seilwaith fel goleuadau stryd a theledu cylch cyfyng yn helpu i greu amgylchedd mwy diogel fyth a gobeithio gwneud i drigolion ac ymwelwyr deimlo'n fwy hyderus i fwrw ymlaen â'u busnes bob dydd.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda'r awdurdod lleol i fynd i'r afael â throseddu ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, a gyda'n patrolau targed ein hunain, i sicrhau i'r gymuned bod eu diogelwch a'u lles parhaus wrth wraidd popeth a wnawn."

Dywedodd Alun Michael, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu De Cymru:  "Rwy'n hynod falch ein bod wedi bod yn llwyddiannus yn ein cais i Gronfa Strydoedd Diogelach y Swyddfa Gartref; mae'r £432,000 a ddyfarnwyd yn dyst i'r cysylltiadau cryf a sefydlwyd rhwng fy nhîm, tîm yr heddlu lleol a'r tîm diogelwch cymunedol yng Nghyngor Caerdydd, sydd i gyd yn canolbwyntio ar greu cymunedau diogel, hyderus a gwydn.

"Bydd yr arian o'r cais hwn yn cael ei fuddsoddi mewn cymunedau yr wyf yn arbennig o gyfarwydd â hwy, yn wreiddiol fel gweithiwr ieuenctid a chymunedol ac yna o'm hamser yn gwasanaethu fel eu Haelod Seneddol am 25 mlynedd ac yn awr fel eu Comisiynydd Heddlu a Throseddu etholedig. Mae llais y gymuned wedi bod yn hanfodol i sicrhau'r cyllid hwn; rydym wedi gwrando ar bryderon pobl leol a byddwn yn awr yn gweithio gyda hwy i fynd i'r afael â materion lleol drwy dargedu ymyriadau a chymryd camau prydlon a chadarnhaol lle bynnag y bo modd.

"Drwy weithio gyda'n gilydd rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod Butetown a Grangetown yn gweld manteision atebion ymarferol fel teledu cylch cyfyng a hefyd drwy ymyriadau addysgol a phartneriaeth a fydd yn helpu i wireddu gwelliannau hirdymor a chynaliadwy yn lleol."

Dywedodd Sheila Hendrickson-Brown, Prif Weithredwr, Cyngor Trydydd Sector (C3SC) Caerdydd: ''Rydym yn hapus ein bod wedi sicrhau'r cyllid hwn fel rhan o bartneriaeth sy'n canolbwyntio ar ddatblygu dull cydgysylltiedig sy'n blaenoriaethu cymunedau lleol mwy diogel, ac mae hynny'n cydnabod mai'r unig ffordd o barhau i fynd i'r afael â throseddu yw gweithio gyda chymunedau i ddatblygu eu hatebion eu hunain. 

"Rydym yn falch bod y bartneriaeth yn edrych ar ffyrdd o drechu troseddu, a hefyd yn edrych ar y darlun ehangach i ddargyfeirio pobl oddi wrth droseddu fel bod mwy o bobl yn fwy diogel, ac yn teimlo, wrth iddynt hwy a'u teuluoedd gerdded i lawr y stryd a mynd ymlaen gyda'u bywydau bob dydd.''

Gellir rhoi gwybod am unrhyw ddigwyddiadau i Heddlu De Cymru fel a ganlyn:

 

Ewch i:Riportio | Heddlu De Cymru (south-wales.police.uk)

Anfonwch neges breifat atom ar Facebook / Twitter@HeddluDeCymru

Trwy e-bost: PublicServiceCentre@south-wales.police.uk

Ffôn: 101, 999 bob amser mewn argyfwng.