Back
Datganiad ar y Faner

01/07/21

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r penderfyniad a wnaed ar 29 Mehefin yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru - fel y nodir ym Maes Polisi Cynllunio Cymru.

"Yn unol â'r polisi hwn ac ar ôl ystyried y cais, daethpwyd i'r casgliad na fyddai'r hysbyseb yn cael unrhyw 'effaith andwyol ar amwynder neu ddiogelwch ar y priffyrdd', felly cymeradwywyd y cais. Ni wnaed y penderfyniad hwn gan y Pwyllgor Cynllunio, ond drwy adroddiad a ddirprwywyd i swyddog drwy gynllun dirprwyo'r Cyngor.

"Roedd y cais hwn ar gyfer 'Cydsyniad Datganedig', sy'n golygu yn nhermau cynllunio, mai dim ond ar sail 'amwynder' a 'diogelwch y cyhoedd' y gellir ei asesu. Ni ellir gwrthod ceisiadau 'Cydsyniad Datganedig' os yw unrhyw barti o'r farn ei fod yn gamarweiniol, yn ddiangen neu'n sarhaus mewn unrhyw ffordd ar sail foesol. Yn syml, ni allwn wrthod cais am nad yw'n boblogaidd, neu am nad yw pobl yn ei hoffi.  Mae angen cyfeirio'r materion hyn i'w cael eu hystyried gan yr ymgeisydd"