Back
Croesawu ymwelwyr dydd yn ôl i Ynys Echni

02/07/21

Bydd ymwelwyr dydd yn cael eu croesawu yn ôl i Ynys Echni ddydd Sadwrn pan fydd yr ynys yn ailagor i'r cyhoedd am y tro cyntaf ers dechrau'r pandemig.

Ar ôl cyrraedd ar gwch gwib yr RIB, bydd ymwelwyr yn gallu mwynhau dihangfa dair awr ar yr ynys, gan gynnwys sgwrs groeso gan y warden; digon o amser rhydd i archwilio hanes a bywyd gwyllt diddorol Ynys Echni; ac ymweliad â'r Gull a Leek, tafarn fwyaf deheuol Cymru.

Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Caerdydd dros Hamdden a Diwylliant, y Cynghorydd Peter Bradbury: "Ar ôl dros flwyddyn heb unrhyw ymwelwyr, mae hyn yn fwy o newyddion da i Ynys Echni yn dilyn y cyhoeddiad diweddar am gyllid Treftadaeth y Loteri Genedlaethol am ein prosiect'Ynys Echni: Taith Gerdded Drwy Amser' gwerth £1.1 miliwn sydd â'r nod o adfer adeiladau hanesyddol yr ynys a gwella ei chynefinoedd bywyd gwyllt.

"Rwy'n gwybod bod y tîm yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu pobl yn ôl, ac os ydych chi am ddianc rhag prysurdeb y ddinas am ychydig oriau, nid oes modd dod o hyd i lawer o leoedd gwell na'r trysor cudd hwn ym Môr Hafren."

Mae nifer o fesurau diogelwch Covid-19 ar waith i sicrhau bod pobl yn gallu ymweld â'r ynys yn ddiogel, gan gynnwys y canlynol:

  • Bydd sgyrsiau croeso gan y Warden yn cael eu cynnal yn yr awyr agored.
  • Ni fydd unrhyw deithiau tywys ar gael - teithiau hunandywys yn unig.
  • Ni fydd cysgod dan do ar gael.
  • Bydd toiledau dynion a merched, a hylif diheintio dwylo, ar gael.
  • Bydd tafarn y 'Gull and Leek' ar agor am awr yn ystod ymweliadau, a bydd nifer y bobl y tu mewn yn cael eu cyfyngu i un person/teulu ar y tro. Rhaid gwisgo masgiau a diheintio dwylo wrth fynd i mewn. Ni fydd diodydd poeth ar gael, ond bydd poteli, caniau a siocled/creision/byrbrydau wedi'u selio ar gael. Arian parod yn unig. Dim ond y tu allan y caniateir yfed diodydd neu fwyta byrbrydau.
  • Rhaid i ymwelwyr fynd â'i holl sbwriel adref.
  • Mae rheolau cadw pellter cymdeithasolyn ar waith ac mae'n rhaid eu dilyn.


I gael gwybodaeth fanwl, mwy o ddyddiadau ac i gadw lle, ewch i:
www.bayislandvoyages.co.uk/booking-flat-holm-visit/.
 

I gael gwybod mwy am yr ynys, ewch i:
www.ynysechni.com.