Back
Diweddaraf Cyngor Caerdydd: 07 Gorffennaf

Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: mae profion COVID-19 cyflym bellach ar gael mewn fferyllfeydd i'r rhai sy'n gymwys; nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; a cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg.

#CadwCaerdyddynDdiogel

Dwylo. Wyneb. Gofod. Awyr Iach.

 

Mae profion COVID-19 cyflym bellach ar gael mewn fferyllfeydd i'r rhai sy'n gymwys

I'r rhai sy'n gymwys, mae profion COVID-19 cyflym am ddim bellach ar gael i'w casglu mewn dros 90 o fferyllfeydd yng Nghaerdydd a'r Fro. 

Nid oes gan tua 1 o bob 3 o bobl sydd â coronafeirws unrhyw symptomau ond gallant ddal heintio eraill.

Cael eich profi'n rheolaidd yw'r unig ffordd o wybod a yw'r feirws gennych. Os yw pobl yn profi'n bositif ac yn hunanynysu, mae'n helpu i atal y feirws rhag lledaenu.

Gallwch gael profion llif unffordd i chi a'ch cartref os ydych:

  • yn wirfoddolwr
  • yn methu gweithio o gartref
  • yn ofalwr di-dâl
  • yn ymweld â Chymru o fannau eraill
  • yn teithio i rannau eraill o'r DU
  • angen prawf ar gyfer eich bwrdd iechyd cyn ymweliadau ysbyty
  • chi neu'ch partner yn defnyddio gwasanaethau mamolaeth ysbyty
  • yn rhiant, gofalwr neu warcheidwad plentyn yn yr ysbyty
  • yn mynd i ddigwyddiad sy'n gofyn amdano 

 

Os cewch brofion drwy eich cyflogwr neu leoliad addysg, dylech barhau i wneud hynny.

I gael gwybod mwy am brawf COVID-19 cyflym ac i weld lle mae eich fferyllydd agosaf sy'n cymryd rhan, ewch i:https://llyw.cymru/cael-profion-llif-unffordd-covid-19-cyflym-os-nad-oes-gennych-symptomau

Mae'r prawf llif unffordd ar gyfer y rhai nad oes symptomau coronafeirws ganddynt. Os ydych chi'n symptomatig, dylech archebu prawf PCR am ddim yma:www.gov.uk/get-coronavirus-test

 

Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (26 Mehefin - 02 Gorffennaf)

Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru

Mae'r data'n gywir ar:

06 Gorffennaf 2021, 09:00

 

Achosion: 511

Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 139.3 (Cymru: 109.6 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)

Achosion profi: 6,751

Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,840.0

Cyfran bositif: 7.6% (Cymru: 6.0% cyfran bositif)

 

Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 07 Gorffennaf

Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol:  628,489 (Dos 1: 352,821 Dos 2: 275,595)

 

  • 80 a throsodd: 20,892 / 94.5% (Dos 1) 20,272 / 91.7% (Dos 2)
  • 75-79: 15,105 / 96.2% (Dos 1) 14,762 / 94% (Dos 2)
  • 70-74: 21,475 / 95.5% (Dos 1) 21,254 / 94.5% (Dos 2)
  • 65-69: 21,935 / 94% (Dos 1) 21,421 / 91.8% (Dos 2)
  • 60-64: 25,988 / 92% (Dos 1) 25,464 / 90.2% (Dos 2)
  • 55-59: 29,265 / 89.9% (Dos 1) 28,444 / 87.3% (Dos 2)
  • 50-54: 28,856 / 87.4% (Dos 1) 27,711 / 83.9% (Dos 2)
  • 40-49: 54,405 / 80.4% (Dos 1) 49,201 / 72.7% (Dos 2)
  • 30-39: 58,025 / 72.8% (Dos 1) 40,001 / 50.2% (Dos 2)
  • 18-29: 74,651 / 72.9% (Dos 1) 27,422 / 26.8% (Dos 2)

 

  • Preswylwyr cartrefi gofal: 1,946 / 98.4% (Dos 1) 1,911 / 96.6% (Dos 2)
  • Yn glinigol agored i niwed: 11,333 / 93.7% (Dos 1) 11,031 / 91.2% (Dos 2)
  • Cyflyrau Iechyd Sylfaenol: 45,845 / 89.1% (Dos 1) 43,195 / 83.9% (Dos 2)

 

Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro

Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser