Back
CAERDYDD I GYFLWYNO EI RHAGLEN CYFOETHOGI GWYLIAU YSGOLION I FWY NAG ERIOED

8/7/2021

Bydd rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol (RhCGY) arobryn Caerdydd yn cael ei chyflwyno i'r nifer uchaf erioed o blant ysgol ledled y ddinas yr haf hwn.

Bydd cynllunBwyd a Hwyl  yn cael ei ehangu i 29 o ysgolion, gan helpu i sicrhau y gall hyd at 1680 o blant fanteisio ar raglen gyffrous o chwaraeon a darpariaeth addysgol, ochr yn ochr â phrydau maethlon iach.

Bellach yn ei chweched flwyddyn, mae'r fenter yn rhoi cyfleoedd i blant gymdeithasu, cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol a dysgu sgiliau newydd wedi eu darparu gan amrywiaeth o bartneriaid ledled y ddinas, tra'n helpu i leddfu'r baich ariannol ar deuluoedd yn ystod gwyliau'r haf.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Fu erioed mwy o angen am gynlluniau cyfoethogi gwyliau'r ysgolion, gyda mwy o deuluoedd nag erioed yn teimlo effeithiau'r pandemig, yn gymdeithasol ac yn ariannol.

"Mae'n newyddion da y gellir, drwy gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, ymestyn y rhaglen i gynnwys cymunedau y tu hwnt i'r ardaloedd a dargedir ac a ariennir yn draddodiadol gan Lywodraeth Cymru. Bydd hyn yn caniatáu i'n timau RhCGY a'n partneriaid ymroddedig ledled Caerdydd, helpu i sicrhau bod cynifer o blant â phosibl yn gallu cael mynediad i'r ddarpariaeth.

"Drwy weithio mewn partneriaeth, bydd y plant hynny a fydd yn elwa fwyaf o'r cynllun, yn mwynhau amrywiaeth o weithgareddau na fydden nhw fel arfer yn cael cyfle i gymryd rhan ynddynt. Byddan nhw hefyd yn cael o leiaf awr o weithgarwch corfforol, brecwast a chinio iach, a sesiynau maeth a bwyd bob dydd, gan helpu i roi hwb i'w hiechyd a'u lles."

Cafodd y cynllunBwyd a Hwylei ddatblygu gan dîm RhCGY Caerdydd yn 2015 ac fe'i mabwysiadwyd gan Lywodraeth Cymru a'i gyflwyno i weddill Cymru yn ystod y ddwy flynedd ddilynol. Mae wedi cael ei ddefnyddio fel enghraifft o Arfer Gorau ac mae wedi arwain at gydnabod mai Cymru sydd â'r ddarpariaeth gwyliau fwyaf datblygedig yn y DU.

Ychwanegodd y Cynghorydd Merry, "Y syniad sydd wrth wraidd y cynllun yw rhoi addysg drwy hwyl a gweithgareddau chwaraeon i blant, gyda phrydau bwyd iachus o safon mewn amgylchedd diogel a gofalgar yn ystod gwyliau'r ysgol.  Eleni, bydd y cynllun yn cael ei gyflwyno mewn cydweithrediad â Gwên o Haf Caerdydd, ein rhaglen o weithgarwch a digwyddiadau ledled y ddinas sy'n ceisio dathlu plant a phobl ifanc Caerdydd ar ôl yr anawsterau a'r heriau y maent wedi'u hwynebu dros y flwyddyn ddiwethaf."

Mae Gwên o Haf yn rhan o Raglen Adfer sy'n Dda i Blant Cyngor Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth ewch ihttps://www.childfriendlycardiff.co.uk/cy/gwen-o-haf/