Back
Gwasanaeth Cymorth Lles yn cael ei lansio


9/7/21

Lansiwyd yr wythnos hon wasanaeth newydd cyffrous, arloesol i gefnogi oedolion sy'n teimlo eu bod wedi'u hallgáu'n gymdeithasol ac i helpu pobl i reoli eu lles personol eu hunain.

 

Mae Gwasanaeth Cymorth Lles Caerdydd yn fenter newydd sy'n ceisio hybu iechyd a lles cwsmeriaid a lliniaru rhai o effeithiau negyddol pandemig COVID-19.

 

Bydd y gwasanaeth yn rhan annatod o dîm Hybiau Cymunedol y Cyngor ac yn ategu gwaith swyddogion cynhwysiant cymunedol y tîm sy'n trefnu ac yn annog cyfranogiad yn yr ystod eang o weithgareddau a digwyddiadau hyb a phartneriaid. Bydd y gwasanaeth yn cynnig mentora tymor byr, un-i-un i'r rhai sydd ei angen, gan eu helpu i gael gafael ar y cymorth cywir sydd ei angen arnynt.

 

Bydd y tîm yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid i sicrhau bod ystod eang o ddarpariaeth i helpu cymaint o bobl â phosibl. Bydd cleientiaid yn cael eu cefnogi i gael gafael ar gyngor, gweithgareddau, digwyddiadau, cyfleoedd hyfforddi ac unrhyw ddarpariaeth arall i helpu i ddiwallu eu hanghenion lles. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys clybiau cinio, clybiau cymdeithasol, sesiynau digidol, clybiau garddio, grwpiau canu, casglu sbwriel, ioga, myfyrio, gwirfoddoli, grwpiau coginio iach a llawer mwy, gan helpu pobl i wneud ffrindiau newydd ar hyd y ffordd.

 

Dwedodd yr Aelod Cabinet dros Dai a Chymunedau, y Cynghorydd Lynda Thorne: "Crëwyd ein Gwasanaeth Cymorth Lles newydd fel ymateb cadarnhaol i ddelio â'r effaith niweidiol y mae'r pandemig wedi'i chael ar les pobl. Mae llawer o bobl yn dal i wynebu anawsterau er bod cyfyngiadau wedi lleddfu.

 

"Rydyn ni'n gwybod bod llawer mwy o bobl na chyn y pandemig yn teimlo bod eu lles wedi dirywio ac y bydden nhw'n disgrifio eu hiechyd meddwl fel gwael. Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn ac mae pobl a oedd yn weithgar yn flaenorol ac a oedd â chysylltiadau cymdeithasol da wedi'u hallgáu'n gymdeithasol tra bod eraill bellach yn bryderus am fywyd yn 'datgloi' eto, felly rydym wedi creu'r gwasanaeth hwn i gynnig mentora, cyngor, gweithgareddau, gwybodaeth a chyfeiriadau i bobl sydd angen cymorth tymor byr i helpu i wella eu teimlad o les."

 

I gael gwybod mwy am y gwasanaeth, cysylltwch â'n Llinell Gyngor ar 029 2087 1071, opsiwn 1 neu e-bostiwch iTimLles@caerdydd.gov.uk