Back
Y pandemig yn cynyddu'r galw am wasanaethau gan greu bwlch gwerth sawl miliwn yn y gyllideb

Mae adroddiad newydd wedi datgelu y bydd angen i Gyngor Caerdydd ddod o hyd i £21.3 miliwn i fantoli'r cyfrifon ym mlwyddyn ariannol 2022/23 ac £80.8 miliwn erbyn 2026 wrth i ganlyniadau'r pandemig achosi cynnydd yn y galw am wasanaethau allweddol.

Bydd Cabinet y cyngor yn derbyn Adroddiad Strategaeth Cyllideb 2022/23 yn ei gyfarfod nesaf Ddydd Iau, 15 Gorffennaf, lle bydd yn ystyried cynlluniau cychwynnol, lefel uchel i gau'r bwlch.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Gyllid, Perfformiad a Moderneiddio, y Cynghorydd Chris Weaver: "Wrth i ni ddod allan o'r cyfnod cloi a dechrau delio â chanlyniadau'r pandemig rydym yn dechrau gweld cynnydd yn y galw am lawer o'n gwasanaethau allweddol. Mae yna drigolion sydd wedi colli eu swyddi a'u cartrefi, pobl sy'n agored i niwed y mae angen mwy o gymorth arnynt i oroesi ynghyd â llwyth achosion cynyddol yn y gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r cyfan yn dangos bod pobl angen mwy a mwy o gymorth ac mae'r rhagolygon a welwn ar gyfer diweithdra yn codi i tua 6.5% o bosibl ar ôl i'r cynllun ffyrlo ddod i ben, yn golygu ein bod yn gorfod paratoi ar gyfer cynnydd enfawr yn y galw am ein gwasanaethau ar yr un adeg pan fyddwn yn wynebu ansicrwydd ariannol hefyd. Cafodd COVID effaith enfawr ar allu'r cyngor hwn i gynhyrchu incwm. Ers dechrau'r cyfnod clo rydym wedi colli £38.2 miliwn mewn incwm ac ni allwn fod yn siŵr faint o'r arian hwnnw a ddaw yn ôl unwaith y bydd pethau'n dychwelyd i'r arfer.

"Ar hyn o bryd mae tua dwy ran o dair o'n cyllideb yn cael ei gwario ar ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol ac mae'r costau hyn yn cynyddu bob blwyddyn. Rhaid bodloni holl anghenion eraill ein trigolion am wasanaethau gyda'r gweddill. Gwasanaethau sy'n dod yn bwysicach fyth wrth i ni ddod allan o'r cyfnod clo a yn wynebu bil COVID, wedi'u gosod yn erbyn realiti ein sectorau manwerthu a lletygarwch sydd mewn trafferth a diweithdra uwch, gyda'r holl straen ychwanegol sy'n dod yn sgil hynny ar fywydau pobl.

"Mae gan y cyngor hwn gynlluniau uchelgeisiol er mwyn helpu i roi hwb cychwynnol i adferiad Caerdydd o'r pandemig. Byddwn yn dod â swyddi i'r ddinas drwy ein prif gynllun adeiladu cartrefi cyngor, y mwyaf yng Nghymru, a thrwy ein datblygiadau mawr fel yr Arena Dan Do ac Uwchgynllun Bae Caerdydd, yn ogystal â'n cynlluniau cyffrous ar gyfer y Pentref Chwaraeon Rhyngwladol. Mae prosiectau mawr fel y rhain, ochr yn ochr â'n gwariant gwerth miliynau o bunnoedd ar ein rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a'r gwaith rydym yn ei wneud gyda Llywodraeth Cymru ar y metro, yn gwella trafnidiaeth gyhoeddus a dewisiadau teithio llesol fel beicio ar draws y ddinas, i gyd yn helpu i wneud gwahaniaeth, dod â swyddi a chreu dinas lanach, werddach, ond ni allwn ddianc rhag y ffaith y bydd yn rhaid i'r cyngor wneud arbedion mawr o fewn ein cyllideb ar adeg pan fo angen iddo wario i gynorthwyo'r adferiad."

Mae cynlluniau gwella COVID Cyngor Caerdydd yn cynnwys:

  • Arwain adferiad economaidd y ddinas;
  • Buddsoddi mewn ysgolion ac addysg;
  • Mynd i'r afael ag argyfwng tai'r ddinas, gan ddarparu 2000 o gartrefi cyngor newydd;
  • Ailadeiladu sîn ddiwylliannol Caerdydd;
  • Lleihau tagfeydd a llygredd aer;
  • Cadw'n cymunedau, ein parciau a'n strydoedd yn lân.
  • Defnyddio strategaeth Caerdydd Un Blaned i sicrhau adferiad gwyrdd i'r ddinas. 

Ni wneir penderfyniadau ar y gyllideb tan y Gwanwyn nesaf. Mae'r tybiaethau cyllidebol lefel uchel dros dro ar gyfer 2022/23 a allai o bosibl gau'r bwlch cyllido o £21.3 miliwn yn cynnwys:

  • £15 miliwn mewn arbedion effeithlonrwydd;
  • Cynnydd yn y Dreth Gyngor er mwyn helpu i fantoli'r cyfrifon. Mae hyn wedi'i fodelu ar hyn o bryd fel cynnydd o 4% (a fyddai'n cyfateb i £1 yr wythnos ar gartref Band D), sy'n codi dros £6m.

Bydd y penderfyniad terfynol ar ffurf y gyllideb yn cael ei wneud ar ôl yr ymgynghoriad cyhoeddus, cyn diwedd y flwyddyn ariannol hon.   Bydd preswylwyr hefyd yn gallu ateb rhai cwestiynau cyllidebol yn yr haf os byddant yn cymryd rhan yn Arolwg blynyddol Holi Caerdydd.

Ychwanegodd y Cyng Weaver:  "Daw'r rhan fwyaf o'r arian y mae'r Cyngor yn ei dderbyn o grantiau gan Lywodraeth Cymru.   Dim ond tua 28% sy'n dod o'r Dreth Gyngor.   Mae'r rhan fwyaf o'n cyllideb - tua 70% - yn cael ei gwario ar redeg ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol.   Heb y dreth gyngor, gallai llawer o'r gwasanaethau pwysig eraill a ddarparwn gael eu colli neu wynebu toriadau difrifol.   Y llynedd, gwnaethom hefyd fodelu cynnydd o 4% yn yr haf, ond roeddem yn gallu gostwng hynny i 3.5% erbyn i ni gynnig ein cyllideb.  Byddwn yn ymdrechu i wneud popeth o fewn ein gallu i gadw unrhyw gynnydd yn isel, gan wybod bod angen i ni gynnal a buddsoddi yn y gwasanaethau y mae ein dinasyddion yn dibynnu arnynt wrth i ni gynllunio ar gyfer dyfodol gwell. 

"Ers y cyfnod clo cyntaf ddiwedd mis Mawrth 2020 mae'r Cyngor hwn wedi gweithio'n galed dros ein preswylwyr. Nid yn unig yr ydym wedi cynnal ac addasu ein gwasanaethau allweddol i'w darparu'n ddiogel, rydym hefyd wedi darparu miloedd o barseli bwyd i bobl sy'n hunan-warchod; cartrefu pobl sy'n cysgu ar y stryd yn y ddinas mewn llety addas, a darparu prydau ysgol a gliniaduron am ddim i blant o deuluoedd incwm isel i helpu gyda'u haddysg gartref.

"Rydym hefyd wedi darparu cymorth ariannol a chyfarpar diogelu personol i gartrefi gofal a darparwyr gofal i'w helpu i weithredu'n ddiogel yn ystod y pandemig, ac rydym wedi cael gafael ar a darparu grantiau i filoedd o fusnesau a gafodd eu gorfodi i gau yn ystod cyfnod yr haint.

"Wrth gwrs, ni chyllidebwyd ar gyfer y rhan fwyaf o hyn. Ni allai neb fod wedi disgwyl y gwariant enfawr a'r colledion ariannol enfawr y byddem yn eu hwynebu yn sgil y pandemig.   Gwariodd Cyngor Caerdydd £51 miliwn dim ond i fynd i'r afael ag effeithiau COVID a chollodd £38.2m mewn incwm.

"Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi talu llawer iawn o'r gost hon, ond nid yw effaith ariannol hirdymor argyfwng COVID-19 wedi ei deall yn llawn eto, felly mae'n parhau'n anodd rhagweld cwrs y pandemig a'i effaith ar wasanaethau, ac ar gyllid y cyngor, dros y flwyddyn i ddod.  Er, gallwn fod yn siŵr y bydd cost ariannol i'r cyngor wrth gwrs, yn enwedig os ydym am gynnal ein gwasanaethau ar y lefel bresennol."

Mae Cyngor Caerdydd wedi nodi dros £200 miliwn o arbedion dros y deng mlynedd diwethaf ac wedi gweld gostyngiad o dros 1,600 o swyddi cyfwerth â swyddi amser llawn (mewn gwasanaethau ar wahân i ysgolion). Am nifer o flynyddoedd yn ystod y 2010au, nid oedd unrhyw gynnydd mewn cyllid ar gael i ateb y galw cynyddol a phwysau o du prisiau. Roedd y pwysau hyn, a oedd yn codi yn y Gwasanaethau Cymdeithasol ac ym maes Ysgolion, yn cael eu talu'n bennaf gan arbedion mewn cyfarwyddiaethau eraill. Dros amser, mae hyn wedi cael effaith sylweddol ar ffurf cyllideb y Cyngor.  Yn 2021/22 mae ariannu cyfalaf, Ysgolion a'r Gwasanaethau Cymdeithasol yn defnyddio tua 70% o gyllideb y Cyngor.

Roedd y golled o ran incwm sy'n uniongyrchol gysylltiedig â'r pandemig yn adlewyrchu cau lleoliadau diwylliannol a chwaraeon y Cyngor, gan gynnwys theatrau, Castell Caerdydd a Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd. Gwelwyd gostyngiad mewn gweithgarwch mewn meysydd eraill sy'n creu incwm, gan gynnwys cynllunio, parcio, troseddau traffig sy'n symud, gwastraff masnachol, cofrestru ac arlwyo mewn ysgolion.

Cymerodd y Cyngor gamau i liniaru colledion incwm gan gynnwys rhoi hyd at 677 o aelodau staff ar ffyrlo. Dim ond ar ffyrlo y mae'r Cyngor wedi rhoi staff, ac wedi hawlio yn erbyn y Cynllun Cadw Swyddi lle mae swyddi unigolion yn cael eu hariannu gan incwm na ellid ei gynhyrchu oherwydd y pandemig.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol 2020/21, cyfanswm hawliadau'r gronfa galedi a dderbyniwyd ac sydd i'w derbyn gan y Cyngor yw £47.7 miliwn o ran gwariant, a £38.2 miliwn o ran incwm.  Rhagwelir y bydd cymorth y Gronfa Galedi yn parhau i fod ar gael ar gyfer chwe mis cyntaf 2021/22. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa y tu hwnt i hynny'n ansicr ar hyn o bryd. Hyd yma yn ystod 2021/22, cyfanswm yr hawliadau gwariant a gyflwynwyd gan y Cyngor oedd £4.031 miliwn, gyda'r hawliad cyntaf am golli incwm yn ddyledus ddiwedd mis Gorffennaf.

Ychwanegodd y Cynghorydd Weaver: "Er bod cyflwyno brechlynnau yn cynnig gobaith am adferiad, mae'r sefyllfa'n parhau i fod yn heriol ac mae nifer o risgiau allweddol y bydd yn hanfodol eu monitro'n agos dros weddill y flwyddyn hon wrth i ni baratoi ar gyfer ein cyllideb y Gwanwyn nesaf."

Mae canllaw cwestiynau cyffredin i Strategaeth Cyllideb Cyngor Caerdydd ar gael i'w weld yma.