Back
CYNIGION I GYNYDDU DARPARIAETH CAERDYDD I BLANT A PHOBL IFANC AG ANGHENION DYSGU YCHWANEGOL (ADY)


9/7/2021
 

Bydd cynigion i gynyddu'r ddarpariaeth ar gyfer plant a phobl ifanc ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yn mynd i Gabinet Cyngor Caerdydd pan fydd yn cyfarfod ddydd Iau 15 Gorffennaf. 

Yn amodol ar ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r cynllun ledled dinas yn nodi dau gynllun i fynd i'r afael â'r cynnydd yn y galw am ddarpariaeth ADY ar draws y sectorau cynradd ac uwchradd, gan ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag anghenion iechyd emosiynol a llesiant ac Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC).

Mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion bod ymgynghoriadau cyhoeddus yn cael eu cynnal ar gyfer y cynigion canlynol; 

-         Cynyddu capasiti yn Ysgol Arbennig The Court o 42 i 72 o leoedd a throsglwyddo'r ysgol i adeiladau newydd ar draws dau safle; tir yn Ysgol Gynradd y Tyllgoed a defnyddio safle presennol Ysgol Gynradd yr Eglwys yng Nghymru Llaneirwg yn Llanrhymni, yn dilyn trosglwyddo'r ysgol honno i adeiladau newydd ar ddatblygiad St Edeyrn.

-         Sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol (CAA) ar gyfer hyd at 20 o blant oed cynradd ag Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC) yn Ysgol Gynradd Moorland.

 

Os ânt yn eu blaen, gallai'r cynigion hefyd weld Ysgol The Court, sydd wedi ei nodi fel ei bod mewn cyflwr gwael neu anaddas, yn cael ei hadnewyddu a'i hehangu gydag adeiladau newydd o dan Fand B Rhaglen Ysgolion yr 21ain Ganrif Caerdydd. Mae hyn yn ychwanegol at gynlluniau adeiladu newydd ar gyfer Ysgolion Arbennig Woodlands a Glan yr Afon, sydd eisoes ar y gweill ac sydd eisoes wedi'u cytuno gan Weinidogion Cymru ym mis Gorffennaf 2020.

Ar hyn o bryd mae gan Gaerdydd saith Ysgol Arbennig, pum dosbarth llesiant cynradd, Uned Cyfeirio Disgyblion arbenigol a dosbarth lleferydd ac iaith cynradd. Cynhelir 17 o Ganolfannau Adnoddau Arbenigol (CAA) hefyd mewn ysgolion cynradd ac uwchradd ledled y ddinas sy'n galluogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Cymhleth (ADC) i lwyddo mewn amgylchedd ysgol prif ffrwd.


Fodd bynnag, mae twf poblogaeth disgyblion a chymhlethdod cynyddol anghenion rhai dysgwyr wedi golygu bod y gofyniad am ddarpariaeth arbenigol wedi cynyddu. Mae cyfraddau goroesi gwell ar gyfer plant sy'n cael eu geni ag anableddau sylweddol sy'n arwain at anableddau difrifol a chymhleth hefyd wedi cynyddu, sy'n golygu bod nifer y disgyblion sydd angen lle mewn ysgol arbennig neu Ganolfan Adnoddau Arbenigol wedi parhau i dyfu.
 

Byddai'r cynigion hefyd yn gwella mynediad i leoedd canolfan adnoddau i blant sy'n byw yn ardaloedd canol de'r ddinas drwy sefydlu Canolfan Adnoddau Arbenigol yn Ysgol Gynradd Moorland.
 

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg, Cyflogaeth a Sgiliau, y Cynghorydd Sarah Merry: "Dros y blynyddoedd diwethaf mae'r ystod o arbenigedd, cymorth arbenigol a chyfleusterau sydd ar gael yn ysgolion Caerdydd wedi sicrhau eu bod yn gynhwysol, ac mae'r graddau y gellir diwallu anghenion dysgu ychwanegol disgyblion yn eu hysgolion lleol wedi cynyddu. 

 

"Rydym wedi cynyddu nifer y Canolfannau Adnoddau Arbenigol yn sylweddol ac mae cynlluniau ehangu ac ailadeiladu ar gyfer Ysgolion Arbennig Glan yr Afon a Woodlands yn mynd rhagddynt. Ond rydym yn cydnabod bod y galw'n cynyddu ac os ânt yn eu blaenau, gallai'r cynlluniau hyn helpu Caerdydd i gynyddu'r ystod o opsiynau i ddysgwyr tra'n helpu i sicrhau bod ein dysgwyr mwyaf agored i niwed yn gallu cael mynediad at arbenigedd ac amgylcheddau arbenigol, fel y gallant ffynnu yng Nghaerdydd a chyflawni eu potensial ar gyfer y dyfodol.

"Bydd barn trigolion, disgyblion, ysgolion a'u cymunedau i gyd yn chwarae rhan fawr yn y modd y caiff y cynlluniau eu datblygu."