Dyma'r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Caerdydd, gan gynnwys: nifer achosion a phrofion COVID-19 Caerdydd; cyfanswm brechu Caerdydd a Bro Morgannwg; ac ysgolion y mae achosion COVID-19 yn effeithio arnynt.
#CadwCaerdyddynDdiogel
Dwylo. Wyneb. Gofod. Awyr Iach.
Achosion a Phrofion Caerdydd - Data'r 7 Diwrnod (02 Gorffennaf - 08 Gorffennaf)
Yn seiliedig ar ffigurau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru
Mae'r data'n gywir ar:
12 Gorffennaf 2021, 09:00
Achosion: 595
Achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 162.2 (Cymru: 138.3 achosion fesul 100,000 o'r boblogaeth)
Achosion profi: 7,070
Profion fesul 100,000 o'r boblogaeth: 1,926.9
Cyfran bositif: 8.4% (Cymru: 7.3% cyfran bositif)
Diweddariad Statws Brechu Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro - 13 Gorffennaf
Cyfanswm nifer y dosau brechu a roddwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro hyd yn hyn, yn y ddwy ardal awdurdod lleol: 647,115 (Dos 1: 354,031 Dos 2: 293,005)
Ddarparwyd y data gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Sylwer y gall fod mân ddiwygiadau i ddata wrth iddo gael ei ddilysu dros amser
Diweddariad am ysgolion y mae COVID-19 wedi effeithio arnynt
Ysgol Uwchradd Cantonian
Mae achos positif wedi'i gadarnhau ynYsgol Uwchradd Cantonian. Mae 155 disgybl wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Coed y Gof
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol GynraddCoed y Gofac mae 20 o ddisgyblion a 3 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd Corpus Christi
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Uwchradd Corpus Christi. Mae 10 disgybl wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Gynradd Sain Ffagan
Mae achos positif wedi'i gadarnhau ynYsgol Gynradd Sain Ffagan. Mae 29 o ddisgyblion wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Uwchradd Llanisien
Mae tri achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Uwchradd Llanisien. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 114 o ddisgyblion i hunanynysu.
Ysgol Gynradd y Forwyn Fair
Mae dau i achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol Gynradd y Forwyn Fair. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 45 o ddisgyblion i hunanynysu.
Ysgol Gynradd Padrig Sant
Mae achos positif wedi'i gadarnhau ynYsgol Gynradd Padrig Sant.Mae 72 o ddisgyblion a 9 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Gynradd Treganna
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Gynradd Treganna. Mae 84 o ddisgyblion a dau aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.
Ysgol Y Wern
Mae tri achos positif o COVID-19 wedi'u cadarnhau yn Ysgol y Wern. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynghori 57 o ddisgyblion a phedwar aelod o staff i hunanynysu.
Ysgol Woodlands
Mae achos positif wedi'i gadarnhau yn Ysgol Woodlands. Mae 56 o ddisgyblion a 10 aelod o staff wedi cael eu cynghori gan Iechyd Cyhoeddus Cymru i hunanynysu.